Gellir defnyddio meddylfryd dylunio i newid y byd.听听听
Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr i unigolion sy'n dymuno arwain arloesedd trwy greadigrwydd a meddylfryd dylunio cymhwysol, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau cysylltiedig.听听
Mae'r cwrs yn cynnwys dau semester astudio, sy'n cynnwys projectau dylunio; astudiaeth academaidd; a lleoliad diwydiannol proffesiynol, sy'n canolbwyntio ar ymchwil, gan arwain at broject ymchwil terfynol, annibynnol.听听 Gall y project ymchwil terfynol ddilyn tri llwybr, a'r ffocws ar gyflwyno rhywbeth masnachol, entrepreneuriaeth neu wasanaeth ymgynghori masnachol, yn seiliedig ar ddyheadau gyrfa a maes diddordeb unigolyn.听听听
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i gynnig astudiaeth uwch mewn dylunio arloesi, a phwyslais ar ddefnyddio creadigrwydd ac offer arloesi, ynghyd 芒 datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i arwain, cydweithio a hwyluso mewn meysydd sydd angen arloesedd.听
Mae gan yr academwyr sy'n ymwneud 芒'r rhaglen gysylltiadau helaeth 芒 chwmn茂au dylunio a gweithgynhyrchu yn lleol ac yn fyd-eang. Defnyddir y rheiny i sicrhau bod y modiwlau'n berthnasol i rolau modern mewn dylunio arloesi, eu bod yn cael ei defnyddio'n sail i ddatblygiad proffesiynol trwy leoliadau gwaith, ac i hyrwyddo meddylfryd arloesol sy'n canolbwyntio ar agweddau masnachol. 听
Mae'r myfyrwyr yn cyrraedd gyda chefndir neu ddiddordeb yn r么l meddylfryd dylunio ac arloesi, ac maent yn ymroi i amrywiaeth o sialensiau dylunio sy'n eu galluogi i arbrofi a chanfod y llwybr cywir o ran gweithgareddau arloesi a chyfeiriad strategol. 听
Cynlluniwyd y cwrs i herio'r myfyrwyr i ymwneud 芒 dylunio ar bob lefel, o ddeall ei swyddogaeth a'i werth ehangach mewn sefydliadau, i gymhwyso'r ddealltwriaeth hon ochr yn ochr 芒 chreadigrwydd ac offer arloesi yn swyddogaethau arweinydd, hwylusydd ac ymarferwr.听听
Rhennir modiwlau'r cynnwys yn fodiwlau craidd hanfodol, sy'n rhoi dealltwriaeth fanwl o'r offer a'r technegau a ddefnyddir i roi meddylfryd dylunio arloesol ar waith, ac mae'r modiwlau dewisol yn cynnig cyfleoedd i ddilyn meysydd o ddiddordeb arbenigol yn fwy manwl. Mae'r rheiny'n cynnwys cyflwyniad i feddalwedd allweddol y diwydiant dylunio, megis Solidworks, Adobe Indesign, Photoshop a Illustrator, yn ogystal 芒 phynciau o bwys sy'n gysylltiedig 芒 dylunio: Seicoleg Defnyddwyr a Newid Ymddygiad.听听 Byddwn yn darparu addysgu a dysgu rhagorol i chi trwy amrywiol ddulliau asesu a defnyddiwn offer addysgu trwy brofiad, technoleg, cyfryngau ac amgylcheddau.听听听
Gallai'r Modiwlau Craidd gynnwys:
Meddylfryd Dylunio - Proses a Hwyluso 听
Meddylfryd Dylunio - Strategaeth听
Dulliau Ymchwil Dylunio 听
Project Dylunio听
Traethawd Hir MSc (gydag Ymchwil, Arteffact ac Adroddiad, a llwybrau Cynllunio Strategol)听
听
Gallai'r Modiwlau Dewisol gynnwys:
CAD Parametrig gyda Modelu Arwyneb Uwch听 听
CAD Dadansoddi Elfennau Meidraidd i Ddiwydiant 听
Graffeg Ddigidol Gymhwysol听
Procio a Newid Ymddygiad 听
Seicoleg Defnyddwyr:听听 Theori
Seicoleg Defnyddwyr Gymhwysol.