Efallai eich bod am fod yn athletwr, cyfarwyddwr perfformiad, rheolwr llwybr neu wyddonydd llwybr, gwyddonydd datblygu dawn, hyfforddwr neu addysgwr hyfforddwyr. Efallai bod gennych ddiddordeb defnyddio chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff i wneud ymchwil a dysgu unigolion a sefydliadau mawr (e.e. y GIG, y llywodraeth) am addasiadau ffisiolegol a seicolegol a manteision iechyd ac ymarfer corff. Efallai eich bod yn gweld manteision meddyliol chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff ac eisiau bod yn seicolegydd perfformiad, cynghorydd ffordd o fyw perfformiad neu seicolegydd ymarfer corff. Nid oes prinder opsiynau gyrfa ym maes chwaraeon a byddai doethuriaeth gwyddor chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn eich rhoi ar y trywydd iawn i gael yr yrfa rydych wedi bod yn breuddwydio amdani.
Amlygodd dadansoddiad annibynnol gan y Gymdeithas Ffisiolegol (2019) o gyfraniad Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer at economi'r Deyrnas Unedig fod:
- graddedigion yn ennill £5.5 am bob £1 y byddant yn ei wario ar addysg prifysgol (adenillion blynyddol o 20.9%)
- graddedigion yn ennill £667,000 yn fwy trwy gydol eu bywyd gwaith o gymharu â phe bai ganddynt ddim ond cymhwyster lefel 3 (e.e. Lefel A, BTEC)
- y maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer yn dal gafael ar 71% o raddedigion sy'n arwydd o natur gwerth chweil a difyr y sector hwn
- y maes yn cyfrannu £3.9 biliwn y flwyddyn at economi'r Deyrnas Unedig ac yn cynnal mwy na 147,300 o swyddi
Nod ein rhaglenni gradd mewn gwyddorau chwaraeon yw gwella eich cyflogadwyedd trwy roi cyfle i chi wneud gwaith ymarferol ochr yn ochr â gwaith damcaniaethol, trwy sesiynau ymarferol yn y labordy, project ymchwil/traethawd hir a thrwy arddangosiadau, tiwtorialau ac ymchwil. Gallwch gael profiad bywyd go iawn yn gweithio dramor ynghyd â datblygu cymwysterau proffesiynol ychwanegol mewn amrywiaeth o feysydd. Trwy'r cysylltiadau helaeth sydd gennym gyda sefydliadau chwaraeon, y GIG, a'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gallwn gynnig cyfnodau byr ar leoliad gwaith, lle cewch eich mentora, ochr yn ochr â'ch rhaglenni gradd mewn meysydd sy'n cynnwys: Â
- hyfforddiant chwaraeon Â
- dadansoddi perfformiad Â
- cryfder a chyflyruÂ
- ymarfer corff ac iechydÂ
- adferiad cardiaiddÂ
- ffisioleg resbiradol Â
Yn ogystal, bydd y radd yn eich helpu i ddatblygu’r cymwyseddau ymarferol a damcaniaethol allweddol y bydd arnoch eu hangen i ddarparu cymorth sy'n ymwneud â gwyddorau chwaraeon ac ymarfer i gleientiaid. Mae'r broses ddatblygu hon yn digwydd trwy gyfrwng cyfnod o weithio dan oruchwyliaeth â chleientiaid go iawn yn eich dewis faes e.e. ffisioleg neu seicoleg perfformiad neu iechyd; neu adferiad trwy ymarfer corff. Mae'r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i weithio gydag arbenigwyr mewn maes sy'n berthnasol i'ch gradd ac i'ch gyrfa yn y dyfodol. Â
Rydym hefyd wedi mynd ati i gefnogi eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol trwy roi cyfle i chi baratoi ar gyfer hyfforddiant profiad goruchwylio y British Association of Sport and Exercise Sciences (BASES), sydd fel arfer yn un o ragofynion achrediad proffesiynol y gymdeithas. Mae BASES hefyd yn trefnu cynhadledd flynyddol i fyfyrwyr. Mae cyn-fyfyrwyr graddau Meistr wedi ennill gwobrau yn y categorïau ‘Best Postgraduate Verbal Presentation’ a ‘Best Postgraduate Poster Presentation’. Mae'r gwobrau hyn yn agored i fyfyrwyr graddau Meistr a PhD o holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, ac mae'r ffaith bod ein myfyrwyr yn ennill yn rheolaidd yn y gwobrau hyn yn arwydd o ansawdd y sgiliau gyrfaol y byddwch yn eu datblygu wrth ddilyn rhaglen Meistr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Â
Mae swyddi gwerth chweil sy'n talu'n dda i'w cael trwy ddilyn cwrs mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae'r farchnad yn amrywiol ac yn tyfu o hyd. Rhestrir rhai o'r gyrfaoedd mwyaf 'traddodiadol' isod:Â
- Gwyddonydd Chwaraeon (amrywiol sefydliadau chwaraeon)Â
- Gwyddonydd TalentÂ
- Gwyddonydd Datblygu Llwybr Â
- Swyddog Datblygu ChwaraeonÂ
- ±á²â´Ú´Ú´Ç°ù»å»å·É°ùÌý
- Hyfforddwr Cryfder a ChyflyruÂ
- Addysgwr HyfforddwyrÂ
- Seicolegydd PerfformiadÂ
- Ymgynghorydd Perfformiad a Ffordd o FywÂ
- Seicolegydd Ymarfer CorffÂ
- Cynorthwyydd Therapi Chwaraeon neu AdsefydluÂ
- Gwyddonydd BiofeddygolÂ
- Dadansoddwr data Chwaraeon neu IechydÂ
- Ymgynghorydd IechydÂ
- Athro/Athrawes Addysg GorfforolÂ
- Arbenigwr Chwaraeon YsgolÂ
- Rheolwr CynorthwyolÂ
- °ä²¹°ù»å¾±´Ç²µ°ù²¹´Ú´Ú²â»å»åÌý
- Ffisiolegydd ResbiradolÂ
- Rheolwr Datblygu BusnesÂ
- Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon a ChystadlaethauÂ
- Arbenigwr Ymarfer Corff ClinigolÂ
- Ymgynghorydd RecriwtioÂ
- ³Û³¾³¦³ó·É¾±±ô²â»å»åÌý
Neu fe allech ddefnyddio eich gradd a'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch wedi eu meithrin i weithio ym maes rheoli, yr heddlu, y lluoedd arfog, y gwasanaethau brys neu i sefydlu eich busnes eich hun, fel y mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr wedi'i wneud. Â