Rhaid i unrhyw broject ymchwil a wneir o fewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ac sy鈥檔 cynnwys cyfranogwyr dynol lynu wrth y听听sydd wedi鈥檌 amlinellu yn y canllawiau a鈥檙 gweithdrefnau.
Bydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Coleg yn sicrhau bod gwaith ymchwil a wneir yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, neu a gefnogir ganddo, yn cael ei wneud mewn modd moesegol ac yn unol 芒听.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y dogfennau ar y wefan hon neu cysylltwch 芒听CCDBmoeseg@bangor.ac.uk.
Pwy sydd angen cyflwyno cais moeseg?
Os yw eich project yn golygu casglu data gwreiddiol gan bobl, mae鈥檔 rhaid cael cymeradwyaeth foesegol gan Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hyn yn berthnasol i鈥檙 holl staff a myfyrwyr (israddedigion ac 么l-raddedigion).
Os mai dim ond defnyddio data eilaidd ydych chi, sydd ar gael i'r cyhoedd, h.y. data a gasglwyd gan rywun arall, NID OES angen cymeradwyaeth foesegol ar eich project. Enghreifftiau da yw adnoddau heb gyfyngiad ar y rhyngrwyd, data'r cyfrifiad, dogfennau o archifau cenedlaethol, a chorpysau megis CHILDES neu TalkBank.
Sut mae cyflwyno cais moeseg?
Y cam cyntaf yw darllen y ddwy ddogfen ganlynol yn ofalus:
Ar 么l i chi ddarllen y dogfennau, llenwch y ffurflen gais moeseg briodol.
- Ffurflen Gais Moeseg听(笔顿贵)
- Ffurflen Gais Moeseg听(Word)
Fel arfer dylid defnyddio'r ffurflen gydsynio ganlynol (wedi ei diwygio fel y bo'n briodol):
Os yw eich cyfranogwyr yn blant neu oedolion bregus, efallai y bydd angen i chi wneud gwiriad DBS.听 Trafodwch gyda'ch goruchwyliwr neu Swyddog Moeseg yr Ysgol, neu cysylltwch 芒听Karen Williams听am ragor o wybodaeth.
Ceisiadau gan fyfyrwyr:
Os ydych chi'n fyfyriwr, y cam nesaf fydd cyfarfod 芒鈥檆h goruchwyliwr er mwyn trafod drafft cyntaf y cais. Unwaith y byddwch wedi integreiddio sylwadau eich goruchwyliwr, dylech gyflwyno'r ffurflen gais a'r deunyddiau atodol trwy e-bost at Swyddog Moeseg eich Ysgol, gan anfon copi at eich goruchwyliwr a ddylai gadarnhau eu bod wedi darllen y cynnig a'u bod yn cytuno ag ef. Bydd Swyddog Moeseg yr Ysgol yn rhoi cyngor pellach i chi.
Sylwch y gallai fod gweithdrefnau penodol ar waith ar gyfer ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o fodiwlau a thraethodau hir israddedig / ol-raddedig a addysgir. Cysylltwch 芒'ch darlithwyr rhag ofn.
Ceisiadau gan staff:
Os ydych yn aelod o staff, anfonwch y ffurflen gais a'r deunyddiau atodol (e.e., holiaduron, ffurflen gydsynio, taflenni gwybodaeth, ac ati) trwy e-bost i Swyddog Moeseg eich Ysgol, a fydd yn cynghori ymhellach, a phenderfynnu a oes angen anfon ymlaen at Bwyllgor Moeseg y Coleg.
Faint o amser mae'n ei gymryd cyn y bydd project yn cael ei gymeradwyo?
Gall gymryd 4-6 wythnos i gael cymeradwyaeth, yn enwedig pan mae astudiaethau'n cynnwys plant, cleifion ac ati. Ceir oedi pellach os yw鈥檙 cais yn anghyflawn, os yw'r manylion yn brin, neu os caiff ei gyflwyno yn ystod y gwyliau.
Fel arfer caiff projectau ymchwil lle mae'r risg i gyfranogwyr yn isel iawn eu prosesu'n gyflymach a gellir eu cymeradwyo o fewn 10 diwrnod.
Ymchwil Sensitif
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cefnogi ei hymchwilwyr wrth ymgymryd ag ymchwil ddilys sy'n defnyddio deunydd sensitif. Fel rhan o hyn mae'n cydnabod y cyfrifoldeb sydd arni i sicrhau bod ymchwilwyr yn cael eu diogelu rhag camddehongli bwriad gan yr awdurdodau a allai arwain at sancsiynau cyfreithiol. Mae felly鈥檔 hanfodol fod y Brifysgol yn ymwybodol o waith ymchwil o'r fath, ac yn ei awdurdodi drwy'r prosesau moesegol priodol, cyn i'r gwaith ymchwil ddechrau, gan ganiat谩u felly i'r Brifysgol ddangos ei bod yn ymwybodol o'r project a dangos ei fod wedi bod drwy'r broses adolygu briodol.
Cysylltiadau defnyddiol
- 听
Research Ethics Committee
Member |
|
Function |
Christopher Shank |
Cadeirydd y Pwyllgor |
|
Dyfrig Jones |
Swyddog Moeseg: Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau |
|
Wei Shi
听 |
Swyddog Moeseg: Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas |
|
Chrysovalantis Vasilakis |
Swyddog Moeseg: Ysgol Busnes 香港六合彩挂牌资料 |
|
Colin Ridyard |
Uwch Swyddog Llywodraethu a Pholisi Ymchwil |
|
Isabel Linton | Gweinyddwr Moeseg a Chyswllt DBS |