Gwobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
Mae’r Wobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a elwid gynt yn Gymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, yn gwobrwyo staff sydd wedi cael effaith ragorol ar weithgareddau cymorth dysgu ac addysgu sydd o fudd i brofiad myfyrwyr Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Daw'r wobr fawreddog hon gyda gwobr o £2,000 a delir i gyfrif gorbenion personol yr enillydd. Dyfernir uchafswm o 10 gwobr bob blwyddyn. Mae'r enwebiadau'n agor yn y gwanwyn, gyda gwahoddiad i’r rhai llwyddiannus dderbyn eu gwobr yn ystod yr wythnos raddio yn yr haf.Ìý
-
Codi’ch proffil academaidd personol Ìý
-
Meithrin cyfleoedd dilyniant gyrfa
-
Dyfarniad o £2,000
Dim ond un aelod o’r staff y cewch ei enwebu mewn Ysgol/Adran Gwasanaeth, a rhaid i’r enwebiadau gynnwys y canlynol:
- Llythyr enwebu gan Bennaeth yr Ysgol neu'r Adran Gwasanaeth yn rhoi adroddiad cefnogol o ragoriaeth yr enwebai yn ei ymarfer o ran y pedwar maen prawf
- Dogfen yn cymharu gweithgareddau addysgu a dysgu'r enwebai â’r pedwar maen prawf
Bydd y panel dyfarnu, o gan gadeiryddiaeth yr Athro Nicky Callow - y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yn asesu pob enwebiad yn unol â’r pedwar maen prawf.
- Rhagoriaeth mewn gwella a/neu arloesi
- Rhagoriaeth effaith
- Rhagoriaeth ysgolheictod
- Rhagoriaeth arweinyddiaeth
Ìý
Cyhoeddir yr alwad flynyddol am enwebiadau yn y Bwletin Staff.
Gwobr ar y Cyd am Ragoriaeth Mewn Addysgu
Mae'r Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu yn gynllun gwobr Advance HE sy'n cydnabod ac yn dathlu timau academaidd llwyddiannus sy'n cael effaith ragorol amlwg ar addysgu a dysgu trwy gydweithio. Dim ond un tîm y gellir ei enwebu bob blwyddyn. A yw eich tîm ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi sicrhau newid cadarnhaol sylweddol mewn arfer ar gyfer cydweithwyr neu fyfyrwyr ar lefel sefydliadol neu ddisgyblaethol? Os felly, hoffai CELT eich enwebu am Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu.
Nid oes gennym dîm sydd wedi ennill y wobr eto ac rydym wastad yn chwilio am dîm ardderchog addas i'w enwebu ar gyfer y wobr fawreddog hon.Ìý
- Codi proffil cenedlaethol eich tîmÌý
- Agor drysau i gyfleoedd cydweithredol neu yrfaol newydd
- Meithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol eraill ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sefydliadau a chenhedloedd sy'n rhannu eich angerdd am gydweithio dros Ìýragoriaeth addysguÌý
- Hyrwyddo Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddangos rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu drwy gydweithioÌý
I ymgeisio, rhaid i dimau gyflwyno cais 4,500 o eiriau yn nodi sut maent yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, gan ddangos tystiolaeth o ragoriaeth yn y canlynol:
- Sut mae’r tîm yn cydweithio, sy'n gymesur â'u cyd-destun a'r cyfleoedd a gynigir.
- Cael effaith amlwg ar addysgu a dysgu, gan gynnwys y tu hwnt i'w maes academaidd neu broffesiynol uniongyrchol
Mae angen cynnwys y gwaith papur atodol a datganiad o gefnogaeth wedi'i lofnodi. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cynllun
Os hoffech gael eich ystyried fel enwebai Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer Gwobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu, cysylltwch â’r Athro Caroline Bowman, am sgwrs anffurfiol. Cyhoeddir yr alwad flynyddol am enwebiadau yn y Bwletin Staff.