Mae ymchwilwyr yn hyderus eu bod wedi nodi safle llongddrylliad HMS Stephen Furness, a suddwyd ym 1917 ynghyd 芒 dros 100 o'i chriw, ar 么l dros ganrif ar waelod M么r Iwerddon diolch i brosiect (TaNC) sy'n cyfuno arbenigedd gan 25 o sefydliadau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig dan arweiniad .
Sefydlwyd Towards a National Collection, buddsoddiad 拢18.9m gan (AHRC) UKRI, i gysylltu casgliadau sydd ar wah芒n, i ddileu rhwystrau ac i uno data mewn 鈥榬hwydwaith-goruwch鈥 digidol ar draws amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau y Deyrnas Unedig.
Mabwysiadodd y brosiect 鈥楿npath'd Waters鈥 ddulliau newydd o ymchwilio i safleoedd llongddrylliadau ac mae t卯m o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn credu eu bod o'r diwedd wedi dod o hyd i weddillion posibl yr HMS Stephen Furness, sydd ar goll ers Rhagfyr 1917 ar 么l cael ei suddo 芒 thorpido gan golli dros 100 o fywydau. Roedd y darganfyddiad yma ond yn bosib drwy gyfuniad o argaeledd adnoddau hanesyddol wedi eu digideiddio, a data digidol cafodd ei hel gan ymchwilwyr y prosiect, gan ddefnyddio dulliau gwyddonol arloesol.
Bu'r t卯m yn dadansoddi data sonar aml-baladr cydraniad uchel a gasglwyd gan long ymchwil y Prince Madog o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 i archwilio dimensiynau鈥檙 holl llongddrylliadau hysbys yn y rhanbarth. Roedd cyfuno鈥檙 wybodaeth hon ag adnoddau eraill, gan gynnwys adroddiad am safle ymosodiad a oedd wedi鈥檌 gynnwys mewn Kriegstagebuch (dyddiadur rhyfel) llong-U, yn golygu bod nodi man gorffwys tebygol HMS Stephen Furness a sawl llong arall wedi dod yn ymarfer cymharol syml, un y gellir ei hailadrodd yn hawdd mewn mannau eraill.
Gorwedd y llongddrylliad dan sylw ar ddyfnder o 90 metr, tua deng milltir i'r dwyrain o'r fynedfa i Strangford Lough yng Ngogledd Iwerddon ac fe'i hystyriwyd yn flaenorol i fod yn weddillion llong cargo o Sweden, yr SS Maja, a gafodd ei suddo 芒 thorpido gan golli naw o fywydau, fis union cyn i'r rhyfel ddod i ben. Mae'r t卯m ymchwil hefyd yn credu eu bod wedi dod o hyd i weddillion yr SS Maja sydd ychydig filltiroedd ymhellach i'r de. Mae casglu ynghyd yr holl dystiolaeth a gwybodaeth yn y gwahanol gasgliadau wedi galluogi鈥檙 t卯m ymchwil nid yn unig i adnabod man gorffwys tebygol y llong yn dilyn yr ymosodiad ond hefyd ail-greu rhai agweddau trasig o鈥檙 hyn a ddilynodd. Mae t卯m project Unpath'd Waters wedi hysbysu'r awdurdodau perthnasol o'r darganfyddiad posibl er mwyn sicrhau bod y llongddrylliad yn cael ei diogelu.
Ar brynhawn 13 Rhagfyr, 1917, roedd HMS Stephen Furness yng ngogledd M么r Iwerddon yn anelu am waith atgyweirio yn Lerpwl, pan gafodd ei tharo gan un torpido a daniwyd o UB-64, a oedd wedi bod yn stelcian yn amyneddgar ym M么r Iwerddon am gyfle fel hwn ers sawl diwrnod. Arweiniodd trawiad y torpido at ffrwydrad boeler gan achosi i鈥檙 llong 88m o hyd suddo o fewn tri munud. Dim ond deuddeg o forwyr o griw o dros gant a oroesodd. Ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw, hyd heddiw, mae lleoliad ymosodiad a gorffwysfan olaf yr HMS Stephen Furness wedi parhau鈥檔 ddirgelwch.
Pan edrychodd y t卯m yn agosach ar y digwyddiadau y diwrnod hwnnw a鈥檙 rhai nesaf, dechreuodd canlyniadau annisgwyl eraill ddod i'r amlwg. Yn drist iawn, tua mis wedi鈥檙 suddo, cafodd pedwar o鈥檙 criw a gollodd eu bywydau yn ystod yr ymosodiad eu golchi i鈥檙 lan ar hyd arfordir Gogledd Cymru bron i gan milltir i鈥檙 de. Er mwyn deall yn well sut y digwyddodd hyn ac archwilio鈥檙 hyn a allai ddigwydd mewn senarios tebyg eraill, llwyddodd y t卯m i ddod o hyd i data gwynt a oedd wedi鈥檌 archifo gan y Swyddfa Dywydd o adeg y suddo, a rhoi鈥檙 data fel fewnbwn i fodel llanw. Fel hyn, roedd posib i arsylwi鈥檙 llwybrau a鈥檙 amser y byddai gwrthrychau arnofiol wedi鈥檜 dilyn ym M么r Iwerddon o ystyried yr amodau ar y pryd. Roedd y canlyniadau'n dangos y gwerth a'r potensial sydd gan gofnodion meteorolegol a modelau fel hyn i amcangyfrif lleoliadau mwy manwl gywir ar gyfer cychod coll. Achos yna aml, yr unig wybodaeth leoliadol sydd ar gael yw hanesion goroeswyr ac achubwyd, a rheina ar 么l iddynt fod ar goll am oriau lawer.
Bydd gwybodaeth newydd o'r darganfyddiad hwn yn galluogi ymchwilwyr i archwilio y tu hwnt i naratifau syml gwarchae a rhyfel Llongau-U, ac ymgysylltu'n uniongyrchol 芒'r bobl dan sylw, y bywydau y gwnaethant eu harwain, a'r aberthau a wnaethant. Roedd y llong yn stemar fasnachol wedi'i throsi a allai fod wedi cael ei defnyddio fel rhan o'r gwarchae ymhell yng ngogledd M么r y Gogledd. Roedd y gwarchae hwn yn rhan allweddol o strategaeth y Llynges Frenhinol i gwtogi ar weithgarwch yr Almaen a chafodd effaith sylweddol ar gyflenwadau bwyd a hanfodion eraill yn yr Almaen. Yn ystod y gwarchae, roedd llongau fel HMS Stephen Furness yn rhan o weithgarwch y llynges o ddydd i ddydd a gyfrannodd yn sylweddol at wrthod gofod m么r i longau鈥檙 Almaen.
Dywedodd Syr Roly Keating, Cadeirydd y Pwyllgor Llywio, 鈥楾owards a National Collection鈥, a Phrif Swyddog Gweithredol y Llyfrgell Brydeinig, 鈥淢ae'n gyffrous gweld enghraifft mor ddiriaethol o'r hyn sy'n digwydd pan ddaw casgliadau a setiau data hanesyddol amrywiol at ei gilydd i geisio gwybodaeth newydd ac arloesi gwyddonol. Dyna鈥檔 union y weledigaeth sydd wrth galon 鈥楾owards a National Collection鈥. Yn rhy aml o lawer, oherwydd diffyg buddsoddiad mewn digideiddio, sgiliau ac isadeiledd cyffredin, mae casgliadau鈥檙 Deyrnas Unedig wedi parhau鈥檔 dameidiog ac, mewn llawer o achosion, yn anodd cael mynediad atynt, hyd yn oed i ymchwilwyr ymroddedig. Ond mae eu potensial - i gymdeithas, arloesi a thwf economaidd - yn aruthrol.鈥
Dywedodd Dr Mike Roberts, Rheolwr Ymchwil a Datblygu Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, 鈥淎r y cyfan, mae鈥檙 ymchwil yn amlygu ein diffyg dealltwriaeth sylweddol o鈥檙 hyn y mae鈥檙 rhan fwyaf o longddrylliadau yn nyfroedd y Deyrnas Unedig yn ei gynrychioli mewn gwirionedd, sydd hefyd yn broblem ar raddfa fyd-eang. Fodd bynnag, mae鈥檙 project hwn yn dangos yn glir y potensial anhygoel sydd gan ein gwahanol gasgliadau o wybodaeth a deunydd wrth fabwysiadu dull amlddisgyblaethol cyfunol.鈥
Dywedodd Phoebe Wild, Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, 鈥淵 data aml-baladr ydi鈥檙 hyn wnaeth ei brofi i ni; dangosodd y data fod y safle Prydeinig yn anghywir ac yn caniat谩u inni ddilysu safle鈥檙 Almaen. Roedd y data sonar hefyd yn allweddol i wrthbrofi mai gweddillion SS Maja oedd y llongddrylliad hwn, gan atgyfnerthu ein dadl mai gweddillion HMS Stephen Furness ydyw mewn gwirionedd. Mae'r ymchwiliad hwn wir yn dangos un o nodau'r project Unpath'd Waters - sef dangos potensial casgliadau morwrol y Deyrnas Unedig."
Dywedodd yr Athro Christopher Smith, cadeirydd gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, 鈥淢ae hwn yn ddarganfyddiad gwefreiddiol ac yn destament i'r p诺er y mae'r AHRC yn bwriadu ei ryddhau trwy gysylltu'r gwahanol gasgliadau o wybodaeth a deunydd sydd gan sefydliadau treftadaeth amrywiol y Deyrnas Unedig trwy'r rhaglen Towards a National Collection. Mae gwaith rhagorol y project Unpath'd Waters wedi datgelu, o'r diwedd, orffwysfan bosibl dros gant o ddynion a fu farw dan amgylchiadau trasig ac mae'n rhoi awgrym difyr i ni o'r cyfoeth hanesyddol sydd wedi'i guddio yn y dyfroedd o'n cwmpas. Os yw gwaith Towards a National Collection eisoes yn arwain at ddarganfyddiadau mor gyffrous 芒 hyn, alla鈥檌 ddim aros i weld at beth arall y gallai arwain yn y dyfodol.鈥
Dywedodd Barney Sloane, Historic England, Prif Ymchwilydd: Unpath'd Waters: Casgliadau Morol a Morwrol yn y Deyrnas Unedig, 鈥淢ae dod o hyd i HMS Stephen Furness fwy na thebyg yn enghraifft wych a theimladwy o botensial data treftadaeth forwrol y Deyrnas Unedig ac yn dyst i gydweithrediad t卯m Unpath'd Waters a'u gwaith ditectif rhagorol. Mae treftadaeth forwrol y Deyrnas Unedig yn hynod gyfoethog, a nod ein project oedd archwilio sut y gallwn gael mynediad i'r dreftadaeth hon, ei chysylltu a'i chwilio mewn ffyrdd newydd i greu gwybodaeth a straeon newydd. Mae鈥檙 canlyniad hwn yn enghraifft ryfeddol o ba mor bwysig fydd ymdrech o鈥檙 fath.鈥
Ychwanegodd Rebecca Bailey, Cyfarwyddwr Rhaglen, Towards a National Collection, 鈥淢ae鈥檙 darganfyddiad rhyfeddol hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol at ei gilydd i wthio yn ei flaen y gwaith o ddatblygu casgliad digidol cynhwysol, unedig, hygyrch, rhyngweithredol a chynaliadwy ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae Towards a National Collection yn ymwneud 芒 chysylltu ac agor mynediad i dreftadaeth y Deyrnas Unedig 鈥 i bawb, nid ymchwilwyr academaidd yn unig. Rydyn ni am chwalu鈥檙 rhwystrau rhwng pobl, casgliadau ac ymchwil 鈥 mawr a bach, gwyddonol a diwylliannol, cenedlaethol a rhanbarthol.
鈥淩oedd y pedwar morwr y darganfu eu cyrff ar arfordir Gogledd Cymru yn rhoi cyfle i ddefnyddio dadansoddiad gwyddonol arloesol i lywio ein damcaniaeth am y llongddrylliad. Fodd bynnag, mae'n bwysig edrych ar y darlun ehangach yma; ni waeth ble y gorwedd llongddrylliad yr HMS Stephen Furness, roedd y rhain yn bedwar g诺r allan o dros gant a gollodd eu bywydau pan suddodd y llong. Mae鈥檔 hawdd ymgolli yn y cyffro o chwilio am longddrylliad coll, ond mae hefyd yn bwysig cofio鈥檙 drasiedi ddynol sydd 芒 chysylltiad annatod.鈥