Beth sy'n digwydd nesaf?
Rydych yn sicr wedi gwneud y dewis iawn yn dewis Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ â€“ chewch chi mo’ch siomi!Â
Rydym yn falch iawn eich bod wedi penderfynu derbyn cynnig amodol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fel eich dewis cyntaf, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu yma ym mis Medi.Â
Gweld eich statws ar-lein
Unwaith rydych wedi derbyn eich canlyniadau, gellwch edrych ar-lein i weld a ydyw eich lle gyda ni wedi cael ei gadarnhau drwy UCAS Hub.
Fodd bynnag, os nad oes penderfyniad i’w weld eto ar UCAS Hub, neu os ydych eisiau siarad â ni am eich cynnig amodol, yna byddwn yn cynnal Llinell Gymorth arbennig i ddelio ag unrhyw gwestiynau a all fod gennych ynghylch eich lle amodol ym Mangor.Â
Os ydych wedi cyflawni amodau ein cynnig:
Llongyfarchiadau!
- Cewch eistedd yn ôl – does dim rhaid i chi gysylltu â ni’n syth ond bydd darllen y dudalen beth sy'n digwydd nesaf yn ddefnyddiol i chi.Â
- Bydd cadarnhad ysgrifenedig o’ch lle yn cael ei anfon atoch yn syth o UCAS yn y dyddiau ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau.
- Edrychwch ar ein gwefan i gael blas o beth fydd yn mynd ymlaen yn ystod eich wythnosau gyntaf ym Mangor.
Os nad ydych chi wedi cyflawni amodau ein cynnig:
Dylech gysylltu â ni’n syth fel y gallwn drafod y sefyllfa â chiÂ
- Efallai y bydd yn dal yn bosibl i chi gymryd y lle yma neu gael eich ystyried ar gyfer cwrs cysylltiedigÂ
- Pan fyddwch yn ffonio, gofalwch bod eich rhif UCAS a manylion am eich canlyniadau arholiad wrth law.
Unwaith rydych wedi derbyn eich canlyniadau, gellwch edrych ar-lein i weld a ydyw eich lle gyda ni wedi cael ei gadarnhau drwy UCAS Hub. Yn ogystal, ewch i weld y cyngor UCAS sydd ar gael am ddiwrnod canlyniadau a beth sydd yn digwydd nesaf.Â
Os nad ydych yn cyrraedd gofynion eich dewis cyntaf, ond yn cyrraedd ein gofynion ni, byddwch yn cael eich rhoi'n awtomatig yn eich dewis wrth gefn ym Mangor fel rhan o broses derbyniadau UCAS.Â
Fodd bynnag, os nad oes penderfyniad i’w weld eto ar UCAS Track, neu os ydych eisiau siarad â ni am eich cynnig amodol, cysylltwch â Llinell Gymorth Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.Â
Sicrhewch for eich rhif cais UCAS a'ch canlyniadau wrth law pan yn cysylltu â'r Llinell Gymorth.Â
Gwneud cais am Llety
Unwaith mae eich lle ym Mangor wedi ei gadarnhau byddwch yn derbyn ebost 24-48 yn ddiweddarach yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Bydd yr ebost yn egluro'r camau nesaf ac yn rhoi mynediad i chi at y system ymgeisio ar-lein.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Clirio
Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.