Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae gan Gymru ddwy brif lenyddiaeth, mewn dwy iaith sy’n meddu ar hanes hir a chyfoethog. Dyma gwrs i’r rhai sydd eisiau astudio’r ddau draddodiad ochr yn ochr: yn Lloegr a Chymru o’r canol oesoedd hyd heddiw, a hefyd yng ngweddill Prydain a ledled y byd. Wrth ddarllen, ymchwilio ac ysgrifennu, byddwch yn magu sgiliau dadansoddol a beirniadol sy’n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd.
Iaith fyw ar gyfer y ganrif hon a’r nesaf yw'r Gymraeg ym Mangor, ond heb anghofio am ei hanes hir. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond hefyd i ddilyn modiwlau ymarferol sy’n baratoad ar gyfer gyrfa a swydd. Yn Gymraeg ac yn Saesneg, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaethau a diwylliannau mewn dyfnder, ac i feistroli gwahanol gyweiriau iaith. Ymhlith ein darlithwyr mae ysgrifenwyr creadigol bydenwog, yn y ddwy iaith, ac os dymunwch, cewch ddilyn modiwlau dan arweiniad y nofelwyr, y dramodwyr a’r beirdd profiadol hyn.
Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg a’r Saesneg mewn cyd-destunau rhyngwladol eang. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Beth yw ‘llenyddiaeth y byd’? Sut mae llenorion a beirdd wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol? O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang, a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw.
Mae cwrs BA fel hwn yn rhoi ichi lawer mwy na thystysgrif: mae'n brofiad diwylliannol a rhyngddiwylliannol cyflawn a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol yng nghyffro Cymru wirioneddol ddwyieithog. Cewch astudio llenyddiaethau a diwylliannau ochr yn ochr ag astudiaethau ieithyddol, ar gwrs academaidd drwyadl sy’n berthnasol i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol Cymru. Mae ein graddedigion yn gweithio mewn meysydd fel y gwasanaeth sifil, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu, y celfyddydau a threftadaeth.
Pam dewis Prifysgol ϲʹ ar gyfer y cwrs?
- Darlithwyr sy’n meddu ar broffiliau rhyngwladol, yn academaidd ac yn greadigol.
- Addysgu mewn grwpiau bychain, sy’n caniatáu rhoi sylw dyledus ichi a’ch gwaith.
- Grwpiau theatr a barddoniaeth egnïol, yn y brifysgol a’r gymuned ehangach.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai. Byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Mae'r asesiad yn gyfuniad o’r gwaith cwrs ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn yn gyfwerth ag 120 credyd, ac fel rheol byddwch yn dilyn hanner o’r rhain ym maes Llenyddiaeth Saesneg, a hanner ym maes Cymraeg.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyfle i ddatblygu sgiliau ac agor drysau newydd: e.e., trafod yr iaith Gymraeg mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd ac ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth hen a chyfoes, yn y ddwy iaith. Cewch ddewis helaeth o fodiwlau yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn: e.e., y nofel o Daniel Owen a Charles Dickens i Manon Steffan Ros a Zadie Smith; y theatr Gymraeg; llenyddiaeth y Rhamantwyr; ysgrifennu arbrofol; barddoniaeth fodern ac awdlau’r eisteddfod; o Ddafydd ap Gwilym i’r Mabinogion; o Beowulf i Shakespeare – neu beth am astudio diwylliant Cymraeg Cymry America a hyd yn oed holi “Beth yw Llenyddiaeth?” Mae’r modiwlau iaith yn ymestyn o’r hanesyddol i’r cymdeithasegol, o’r cyfle i ddysgu Gwyddeleg a Llydaweg i fodiwlau sy’n meithrin sgiliau Cymraeg proffesiynol yn y gweithle a hefyd sgiliau creadigol. Yn y drydedd flwyddyn cewch lunio traethawd hir ac ymchwilio i bwnc o ddiddorol neilltuol ichi. Ymhlith y pynciau a ddewiswyd yn ddiweddar mae unigolion fel Dafydd ap Gwilym, Kate Roberts, Mihangel Morgan, Angharad Tomos, Caryl Lewis, Meic Stevens a Geraint Jarman, a meysydd fel ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, iaith Sir Benfro, llenyddiaeth Gymraeg a chaethwasiaeth, a hyd yn oed llên a cheffylau, neu bêl-droed mewn llenyddiaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwncDyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ); Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol; Ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol a sgiliau allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg** a H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg
- Access**:Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).manylion
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwncDyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ); Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol; Ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol a sgiliau allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg** a H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg
- Access**:Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).manylion
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iadran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio’r Gymraeg ym Mangor, ar ei phen ei hun neu mewn cyfyniad â phwnc arall fel Llenyddiaeth Saesneg. Ni fu erioed gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd angen mawr am raddedigion hyderus sy’n gallu defnyddio eu sgiliau iaith mewn ffyrdd hyblyg, rhai sy’n gallu meddwl yn ddadansoddol a defnyddio’u hieithoedd – ar lafar ac yn ysgrifenedig – mewn sefyllfaoedd gwaith amrywiol.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith – a’u gyrfaoedd amrywiol – eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw ein cyrsiau i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran o’n graddedigion yn cael eu denu i fyd addysg, i fod yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. Aeth eraill i fyd addysg bellach ac i fod yn ddarlithwyr mewn prifysgolion. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol. Mae’r byd teledu a’r cyfryngau digidol a phrint – gan gynnwys canolfan y BBC ym Mangor – yn cynnig trawstoriad o swyddi diddorol a denwyd cyn-fyfyrwyr eraill at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae’r galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol. A heb bresenoldeb graddedigion Cymraeg ϲʹ byddai’r diwydiant cyfieithu yn un pur wahanol.
Mae gan raddedigion y cyfnod presennol bob hawl i anelu’n uchel. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Theatr Gymraeg Genedlaethol, Cwmni Da (un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru), Gwasanaeth Cofnodi a Chyfieithu Senedd Cymru a Chyngor Ynys Môn – beth sy’n gyffredin rhyngddynt? Mae graddedigion mewn cyrsiau Cymraeg ϲʹ wedi cyrraedd brig eu gyrfaoedd proffesiynol ynddynt ac wrth y llyw ym mhob un ohonynt!
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ϲʹ
Mae Prifysgol ϲʹ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae Blwyddyn Sylfaen ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amCymraeg i Ddechreuwyrneu amIaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.