Dyma drosolwg cyflym o'n cyrsiau er mwyn i chi allu cymharu a dod o hyd i'r rhai sy'n addas i chi.
Astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Fy enw llawn i yw Begw Elain Robetrs, dwi'n astudio Cymraeg gyda Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Dwi ar fin fynd mewn i fy ail flwyddyn.
Felly nesi ddewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oherwydd fy mod i yn awyddus iawn i gael y teimlad o gymuned a bod yn gartrefol, yn enwedig symud o adre am y tro cyntaf er bod adre ond tua hanner awr i ffwrdd, oni eisiau'r teimlad o fyw yn annibynnol a byw efo ffrindiau a dwi'n cael gymaint o hwyl yn JMJ hefyd.
Dwi'n meddwl y rhan gorau o'r cwrs ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ydi'r amrywiaeth yn y modiwlau.
Enwedig yn yr adran Gymraeg, da chi yn medru cael modiwlau steriotipical yn y Gymraeg. Ond wedyn mae yna modiwlau mor gyfoes sydd mor ddiddorol.
Dwi'n meddwl be ddwi'n mwynhau fwyaf am fy nghwrs i o fewn Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ydi gymaint o gyfloed sydd ar gael yma.
Mae'r adran y Gymraeg a Newyddiaduraeth yn fach fel petai ond da chi yn gallu cael gymaint mwy o gefnogaeth a mwy o gyfleoedd ag yn y diwedd da chi
fatha teulu bach a mae pawb yn ffrindiau da.
Dwi'n meddwl fy hoff beth i am Fangor ydi'r gymuned a pa mor glos ydi'r criw Cymraeg yma. Does yna ddim llawer ohonom ni i gymharu efo prifysgolion eraill.
Mae yna gymaint mwy o gyfleoedd ac mae pawb fel teulu bach ac mae'n gymaint o hwyl. Gair o gyngor fi ydi peidiwch â bod ofn, dewch i nosweithiau allan JMJ a byddwch yn rhan o'r gymuned Gymraeg yma.
Does neb yn beirniadu ac mae yna groeso yma i bawb yma ym Mangor.
Dewch i gael blas ar ein cymuned glos
Cysylltu â ni
Ein Hymchwil o fewn Cymraeg
Mae gan Adran y Gymraeg arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith aelodau’r staff mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Rydym yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.
Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.