Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
鈥淏ydd y rhaglen hon yn creu meddygon gwych oherwydd eu bod yn cael eu gwneud i deimlo'n rhan o d卯m鈥 Dr Esyllt Llwyd, Tiwtor Meddygaeth Teulu
O fis Medi 2024, bydd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn lansio ei rhaglen feddygaeth gyntaf lle bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu rhaglen radd feddygol lawn yng ngogledd Cymru.
Bydd ein rhaglen newydd yn gweithio mewn cydweithrediad agos 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr Gofal Cychwynnol ar draws Gogledd Cymru, a bydd yn disodli cwricwlwm presennol C21 Gogledd Cymru Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cyflwynwyd newidiadau arloesol i gwricwlwm C21 Gogledd Cymru i wneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd a geir yn ein lleoliadau clinigol amrywiol, yn rhai gwledig a threfol. Rhoddir sylw ac ystyriaeth i鈥檙 Gymraeg ac i gyd-destun diwylliannol cymunedau gogledd Cymru er mwyn helpu i鈥檆h paratoi ar gyfer eich ymarfer meddygol yn y dyfodol.
Er mai dim ond newydd ei sefydlu mae ein hysgol feddygol annibynnol, mae gennym hanes llwyddiannus o hyfforddi myfyrwyr meddygaeth. Ers 2018 rydym wedi bod yn cyflwyno rhaglen Meddygaeth C21 Gogledd Cymru Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr ym mlwyddyn 3, ers 2019 i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 2 i 5 ar y llwybr mynediad i raddedigion, ac ers 2020 pan mae myfyrwyr blwyddyn 1 Caerdydd wedi bod yn trosglwyddo i Fangor i gwblhau eu rhaglen yng ngogledd Cymru. Ym Mhrifysgol Caerdydd ar 17 Gorffennaf 2023, graddiodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth a astudiodd yng Ngogledd Cymru. Yn seiliedig ar y sylfaen gref hon, bydd ein hysgol feddygol newydd yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen C21 Gogledd Cymru wrth ddarparu addysg feddygol o鈥檙 radd flaenaf.
Mae cwricwlwm Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi'i ddilysu'n academaidd gan uned Ansawdd a Dilysu Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 trwy broses sy'n cynnwys arbenigedd addysg feddygol allanol. Mae holl ysgolion meddygol y Deyrnas Unedig yn cael eu hadolygu鈥檔 rheolaidd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y rheolydd proffesiynol ar gyfer Meddygaeth sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau safonau uchel ar gyfer addysg feddygol fel y disgrifir yn eu dogfen 鈥溾. Yn ogystal, bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn craffu鈥檔 drwyadl ar bob ysgol feddygol newydd. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn symud ymlaen drwy broses gymeradwyo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol i ddyfarnu Cymhwyster Meddygol Sylfaenol. Bydd achrediad y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi ei gwblhau unwaith fydd y myfyrwyr cyntaf yn graddio. Er mwyn amddiffyn myfyrwyr, rhaid i ysgolion meddygol newydd weithio gyda phartner 鈥榳rth gefn鈥, sef ysgol feddygol sefydledig sy鈥檔 gallu darparu cefnogaeth ac sy鈥檔 fodlon, os nad yw safonau ansawdd y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi eu cyrraedd am unrhyw reswm, i fyfyrwyr drosglwyddo a graddio o鈥檙 ysgol wrth gefn. Yr ysgol bartner wrth gefn ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yw Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae鈥檙 dyddiad dechrau rhaglen feddygaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn 2024 wedi鈥檌 gytuno gyda鈥檙 Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Byddwch yn profi amgylchedd dysgu cyfoethog, a rhagor o bwyslais ar ddysgu mewn Gofal Cychwynnol ac yng nghanol y gymuned yn unol 芒 chynllun Llywodraeth Cymru, 'Dyfodol Iachach i Gymru'.
Mae鈥檙 cwricwlwm yn canolbwyntio ar feddygaeth gymunedol trwy amrywiol leoliadau clinigol mewn amgylcheddau amrywiol gan gynnwys:
- blwyddyn gyfan mewn Meddygfa
- ysbytai addysgu mawr
- meddyginiaeth y mynydd
- amgylcheddau gwledig
Byddwn yn eich hyfforddi i fod yn feddyg rhagorol i Gymru a thu hwnt trwy addysgu o ansawdd uchel, a phrofiad dysgu ysbrydoledig yn seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol ac addysgu clinigol arobryn ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol. Byddwch yn graddio fel clinigydd medrus sy'n deall pobl a'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo.
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn gwerthfawrogi bod dechrau rhaglen Meddygaeth yn gam mawr i bob un o鈥檔 myfyrwyr newydd, ac yn cydnabod mai dyma鈥檙 rhaglen academaidd hiraf sydd ac un o鈥檙 mwyaf heriol.
- Rydym yn ymfalch茂o mewn darparu cefnogaeth bersonol i鈥檔 holl fyfyrwyr, ac o鈥檙 diwrnod cyntaf byddwch yn cael Tiwtor Personol, sef aelod o staff academaidd a fydd yn gweithredu fel eich mentor trwy gydol y rhaglen gyfan.听
- Mae'r brifysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i听ofalu am fyfyrwyr a'u cefnogi听fel eu bod yn gallu ffynnu ym mhob agwedd o鈥檜 hamser ym Mangor, felly o鈥檙 Wythnos Groeso ymlaen, byddwch yn cael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sydd ei angen o ran iechyd a lles yn ogystal 芒鈥檆h gwaith academaidd.
- Ymhlith y gwasanaethau a gynigir mae cyngor ariannol, cefnogaeth o ran iechyd a lles, cyngor yngl欧n 芒 thai preifat, cefnogaeth dyslecsia a chwnsela a sgiliau astudio.
- Mae gan y Brifysgol gynllun听arweinwyr cyfoed听ac mae myfyrwyr meddygaeth h欧n yr ysgol ei hun yn cael eu paru 芒 myfyrwyr iau fel y gallant rannu eu profiad.
- Mae ein dull, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, yn cynnwys addysgu a dysgu mewn grwpiau bach felly byddwch yn elwa o gael mwy o amser cyswllt gyda'ch darlithwyr.听听
- Mae cwricwlwm blwyddyn 1 a 2 yn seiliedig ar addysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys Dysgu ar sail Achosion sy鈥檔 ffordd o gysylltu eich dysgu gwyddonol gyda straeon cleifion go iawn ac mae鈥檔 gosod y claf wrth wraidd eich astudiaethau.听
- Wrth Ddysgu ar sail Achosion cewch eich rhoi mewn grwpiau o rhwng 10 a 12 o fyfyrwyr gyda hwylusydd academaidd hyfforddedig a fydd yn tywys y myfyrwyr trwy bob achos.听
- Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu ond ychydig iawn o ddarlithoedd traddodiadol sydd gennym er ein bod yn cynnal 'sesiynau llawn' (sef sesiynau rhyngweithiol lle mae myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan wyddonwyr arbenigol neu glinigwyr).听
- Hefyd ceir seminarau arbenigol, tiwtorialau a gweithdai rhyngweithiol, sgiliau ymarferol, efelychu a hyfforddiant rhithrealiti.听
- Rydym yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig gyda chefnogaeth i鈥檆h helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau a鈥檆h sgiliau cyfathrebu eich hun, sef dwy set o sgiliau sy鈥檔 hanfodol i ddarpar feddygon.听
- Mae defnyddio dulliau amrywiol o addysgu, dysgu ac asesu yn eich helpu i ehangu eich arddull dysgu eich hun ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes, a fydd yn rhan hanfodol o'ch gyrfa fel meddyg yn y dyfodol.
- Caiff anatomi ei addysgu trwy fanteisio ar dechnoleg fodern, gan gynnwys bwrdd dyrannu electronig '', sgriniau Fideo 3D di-wydr ac apiau symudol.听
- Mae ystafell addysgu Anatomi bwrpasol gyda modelau plastig tra chywir o holl gydrannau'r corff听
- Gellir ymarfer sgiliau ac ymyriadau clinigol ymarferol yn electronig ac mewn efelychwyr gan gynnwys ystafell rhithrealiti.听
- Mae sesiynau Gloywi Anatomi a sesiynau Dysgu Hunan-gyfeiriedig ar gael ar ddechrau lleoliad arbenigol Blwyddyn 4 a 5.
- Rydym yn darparu cyfleoedd o ran addysg ryngbroffesiynol i adlewyrchu'r byd gwaith clinigol lle bydd ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio er budd cleifion o fewn timau clinigol.
- "Mae Addysg Ryngbroffesiynol yn digwydd pan fydd dau neu ragor o weithwyr proffesiynol yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac am ei gilydd i wella cydweithredu ac ansawdd gofal.鈥 Y Ganolfan er Hyrwyddo Addysg Ryngbroffesiynol (CAIPE), 2002.听
- Rydym yn frwd dros hyrwyddo a chyflwyno addysg ryngbroffesiynol a bydd nifer o gyfleoedd i wneud hynny trwy gydol eich amser ym Mangor.
- Mae llawer o gyfleoedd yn ystod Clerciaeth Integredig Hydredol Blwyddyn 3 ac ar draws lleoliadau Blwyddyn 4 a 5 i gael profiad o feddygaeth anghysbell, wledig a mynyddig a hynny o fewn prydferthwch Gogledd Cymru.
- Mae鈥檙 rhaglen yn cynnwys diwrnod unigryw i efelychu Iechyd Gwledig 'yn y maes' a ddarperir mewn partneriaeth 芒 gwasanaethau gwirfoddol, gan gynnwys y Gwasanaeth Achub Mynydd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, a staff arbenigol y Brifysgol a鈥檙 Bwrdd Iechyd.
- Rydym yn eich paratoi ar gyfer sesiynau Cyswllt Cynnar 芒 Chleifion trwy ddysgu sgiliau clinigol sylfaenol yn ein Canolfan Hyfforddiant Efelychu a Sgiliau a Rhithrealiti, lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf.听
- Byddwch hefyd yn dysgu gwrando'n astud a siarad 芒 chleifion trwy ddefnyddio actorion proffesiynol a chleifion-wirfoddolwyr sy鈥檔 arbenigwyr, a chaiff yr addysgu ei gyflwyno'n ddwyieithog.
- Mae sesiynau cyswllt cynnar 芒 chleifion yn helpu i鈥檆h ysbrydoli wrth ddysgu am wyddoniaeth feddygol yng nghamau cynnar y rhaglen.
- Cyn hynny cewch sesiynau paratoi a gaiff eu cynnal mewn cyfleusterau meddygol a ddewisir yn ofalus, fel nad yw ein myfyrwyr yn cael eu llethu gan eu profiad clinigol cyntaf.听
- Mae cyswllt cynnar 芒 chleifion yn cynyddu dros ddwy flynedd gyntaf y rhaglen, gan amlygu ein myfyrwyr i amgylcheddau clinigol cynyddol gymhleth.听听
- Mae ein Canolfan Efelychu a Sgiliau yn cynnwys efelychwyr听听补听听sef cyfleusterau recordio a dangos fideo.
- Bydd pob myfyriwr yn derbyn hyfforddiant ac yn cael ardystiad mewn technegau Cynnal Bywyd a diogelwch cleifion cyn ymgymryd 芒 hyfforddiant clinigol.听
- Mae鈥檙 ystafell rhithrealiti yn darparu hyfforddiant senarios trochol sy'n galluogi myfyrwyr i ddod yn gymwys ag ymdrin 芒 phroblemau clinigol sydd bron byth yn digwydd ond y mae angen gallu eu hadnabod a gweithredu yn eu cylch ar unwaith.听
- Bydd myfyrwyr bydwreigiaeth a myfyrwyr Obstetreg Blwyddyn 4 yn ymgymryd 芒 hyfforddiant addysg ryngbroffesiynol gyda'i gilydd.
- Ym Mlwyddyn 3 byddwch yn ymgymryd 芒 Chlerciaeth Integredig Hydredol, sef y lleoliad clinigol cyntaf sy鈥檔 flwyddyn o hyd.听
- Bydd y Glerciaeth Integredig Hydredol yn cael ei chynnal yn bennaf mewn practis meddyg teulu dan oruchwyliaeth tiwtor meddygaeth teulu arbenigol, a bydd cyfle i ddilyn taith eich cleifion drwy ofal cychwynnol a thrwy gyfleusterau鈥檙 ysbyty i gael ymchwiliadau a thriniaethau.听
- Byddwch yn ennill profiad o waith aelodau eraill o'r t卯m gofal iechyd cychwynnol amlddisgyblaethol gan gynnwys Bydwragedd Cymunedol, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol ac eraill. Ochr yn ochr 芒 hyn, byddwch hefyd yn ennill profiad mewn Dermatoleg, Clust-Trwyn-Gwddf, Rhiwmatoleg a Meddygaeth Gyffredinol. 听
- Mae Clerciaethau Integredig Hydredol yn fath cymharol newydd o addysg feddygol sydd ar hyn o bryd yn cael ei werthuso ledled y byd lle mae myfyrwyr yn dilyn amrywiaeth o gleifion am gyfnodau hwy ac yn datblygu perthynas agos 芒 mentor sy'n arwain y dysgu.
- Gwelwyd bod lleoliadau hydredol yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o bwysigrwydd canolbwyntio ar y claf, persbectif bywyd cyfan, deinameg y teulu a chyd-destun cymdeithasol symptomau鈥檙 claf.听
- Bydd y profiad o wneud Clerciaeth Integredig Hydredol yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyfannol am ofal cleifion, gan wella eich sgiliau clinigol, eich gallu i gyfathrebu a鈥檆h empathi.听
- Byddwch yn gweld ystod eang o gyflyrau, yn ymgynghori鈥檔 uniongyrchol 芒 chleifion, ac yn derbyn addysgu ar sail 1:1 gan eich tiwtor meddygaeth teulu, wedi'i ategu gan ddiwrnod o addysgu ar y campws bob wythnos ynghyd 芒 chyfle i ymgyfarwyddo ag ymarfer ysbyty.听
- Bydd treulio eich blwyddyn gyntaf yn bennaf ym maes Meddygaeth Teulu yn baratoad ardderchog ar gyfer y lleoliadau arbenigol mewn ysbyty sy鈥檔 dilyn ym mlynyddoedd 4 a 5.听
- Mae'r Ysgol yn aelod o听.
- Bydd y lleoliadau ysbyty yn digwydd ar draws y tri ysbyty ac铆wt ym听: Ysbyty Gwynedd (香港六合彩挂牌资料), Ysbyty Glan Clwyd (Bodelwyddan) ac Ysbyty Maelor Wrecsam.听
- Ar ben hynny ceir profiad hefyd yn rhai o鈥檙 22 o ysbytai Cymunedol ar draws Gogledd Cymru, y mae llawer ohonynt yn gwasanaethu cymunedau bach, anghysbell.
- Mae鈥檙 holl brif arbenigeddau sy鈥檔 ofynnol ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig ar gael yng Ngogledd Cymru, ond gellir gwneud yr elfen ddewisol yn y flwyddyn olaf yn unrhyw gyfleuster meddygol yn y byd sydd wedi鈥檌 gymeradwyo ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig.听
- Mae astudio meddygaeth yng Nghymru, sy鈥檔 wlad ddwyieithog, yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Bydd gallu teimlo鈥檔 hyderus wrth drin cleifion sydd 芒 mamiaith wahanol i chi yn eich galluogi i weithio yn unrhyw le yn y byd, a byddwch yn ymgynghori鈥檔 aml 芒 chyfieithwyr ar y pryd sy鈥檔 gweithio yn y Deyrnas Unedig..
- Fel siaradwr Cymraeg gallwch ddewis bod rhan sylweddol o鈥檆h cwrs, a rhai asesiadau, yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg ac efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd tiwtor personol Cymraeg ei iaith ar
- gael i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrs yn Gymraeg. Fel rhan o鈥檔 hagenda ehangu mynediad, mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn gymwys i sicrhau cynnig cyd-destunol.
- Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi ymrwymo i gefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ac mae dwyieithrwydd wedi鈥檌 wreiddio ym mhob agwedd ar brofiad myfyrwyr. Mae llawer o gyfleoedd i ddechreuwyr pur ddysgu'r iaith, i siaradwyr presennol i fagu hyder neu i siaradwyr Cymraeg rhugl gael mynediad at adnoddau arbenigol.
- Mae Gogledd Cymru yn gartref i nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg ac mae hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i ddefnyddio鈥檙 iaith tra byddwch ar leoliad, boed hynny fel dysgwr neu siaradwr rhugl.
Gallwch hefyd astudio:
Cynnwys y Cwrs
Addysgu a Dysgu
Byddwch yn Dysgu ar sail Achosion a fydd yn eich helpu i wneud synnwyr o'ch gwybodaeth a'ch sgiliau newydd. Gan weithio mewn grwpiau bach ar astudiaeth achos neu senario, byddwch yn datblygu atebion dan arweiniad eich hwylusydd. Yn gynnar yn y cwrs bydd y dysgu ar sail achosion yn archwilio'r achosion mwyaf cyffredin y mae meddyg yn eu gweld (e.e. anaf chwaraeon, problemau iechyd meddwl, poen yn yr abdomen ac ati). Gyda phob achos byddwch yn edrych ar yr anatomi, ffisioleg ac agweddau cymdeithasol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn cael profiad clinigol perthnasol ar leoliadau byr. Bydd y broses hon yn caniat谩u ichi ddeall sut mae鈥檙 naill yn berthnasol i'r llall, gan roi persbectif cyffredinol i chi.
Chi sy'n gyfrifol am eich dysgu eich hun, gyda chefnogaeth sesiynau llawn a sesiynau mewn grwpiau bach, addysgu yn y ganolfan anatomi, sesiynau ymarferol yn y labordy a lleoliadau clinigol. Sesiwn ryngweithiol yw鈥檙 sesiwn lawn lle mae nifer fawr o fyfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan wyddonydd neu feddyg arbenigol. Mae'n gyfle i fyfyrwyr ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol a chael dealltwriaeth eang o'r pwnc. Mewn sesiynau i grwpiau bach, lle bydd tua 10 o fyfyrwyr a hwylusydd, mae'r ffocws ar drafod y pynciau a drafodwyd yn sesiynau llawn yr wythnos a鈥檙 gwaith darllen cysylltiedig. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, rhannu eich dealltwriaeth chi o'r deunydd, gofyn cwestiynau, ac archwilio gwahanol safbwyntiau.
Ar wah芒n i'r sesiynau strwythuredig hyn, bydd amser penodol ar gyfer dysgu annibynnol ar eich amserlen. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd gennych unrhyw sesiynau ffurfiol wedi'u hamserlennu, a disgwylir i chi gymryd cyfrifoldeb am drefnu eich grwpiau trafod eich hun, cynnal ymchwil yn y llyfrgell a darllen o amgylch pwnc.
Y Cwricwlwm
I ddechrau, byddwch yn dysgu sut mae gwyddoniaeth sylfaenol yn cyd-fynd 芒 lleoliad clinigol, gan eich paratoi ar gyfer eich cyswllt cynnar 芒 chleifion. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau hanfodol - sut i gyfathrebu'n effeithiol, sut i berfformio triniaethau ymarferol a sut i gael gwybodaeth berthnasol gan bobl, llyfrau ac adnoddau ar-lein - a byddwch yn ymarfer gwneud y pethau hyn yn eich lleoliadau clinigol. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu i bobl go iawn ac yn dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol mewn t卯m meddygol.
Byddwch yn parhau i gronni gwybodaeth ac ymarfer eich sgiliau trwy gydol y cwrs, gan y byddwch yn dysgu beth sy'n normal ac yn annormal mewn gwahanol senarios meddygol. Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddewis beth i ddysgu amdano, pan fyddwch yn edrych yn fanylach ar bynciau penodol ac yn dysgu ymchwilio ac ysgrifennu mewn ffordd ysgolheigaidd.
Y flaenoriaeth ym Mlwyddyn 1 yw rhoi sylfaen gref i chi yn y gwyddorau sylfaenol, sgiliau clinigol, cyfathrebu a phroffesiynoldeb.
Dyma ddadansoddiad o'r elfennau allweddol:
Y 12 Wythnos Gyntaf (Rhagarweiniad):
- Bydd yr wythnosau rhagarweiniol yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth graidd mewn anatomeg, biocemeg, ffisioleg, bioleg y celloedd a鈥檙 moleciwlau, imiwnoleg, microbioleg, a phatholeg.
- Bydd pwyslais ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu sylfaenol, sgiliau clinigol, a'r proffesiynoldeb sy'n ofynnol gan feddyg.
Gweddill Blwyddyn 1:
Bydd gweddill y flwyddyn yn integreiddio'r gwyddorau sylfaenol 芒 chyflyrau clinigol cyffredin trwy gyfres o senarios clinigol.
- Dysgu mynd i'r afael 芒 phroblemau meddygol o'r egwyddorion sylfaenol a datblygu sgiliau rhesymu gwyddonol.
- Yn gefn i sesiynau mewn grwpiau bach, darlithoedd, a seminarau bydd adnoddau gwyddorau bywyd a sgiliau clinigol.
- Ymwneud yn rheolaidd 芒 chleifion yn yr ysbytai, meddygfeydd teulu, a gwasanaethau eraill yn y gymuned yng Ngogledd Cymru
- Bydd cyfleoedd cynnar i ennill profiad clinigol a chwrdd 芒 chleifion sy'n briodol i'r achos a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd hynny鈥檔 ategu eich dysgu a hynny鈥檔 seiliedig ar achosion.
- Dilyniant o鈥檙 strwythur a鈥檙 swyddogaeth arferol i ymgyflwyniadau clinigol mwy cymhleth sy鈥檔 canolbwyntio ar strwythur a swyddogaeth annormal.
At ei gilydd, nod y cwricwlwm yw darparu addysg gynhwysfawr sy'n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol 芒 phrofiad clinigol ymarferol. Byddwch yn dysgu am sylfeini gwyddorau meddygol ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddod yn feddygon cymwys. Mae'r rhaglen hefyd yn pwysleisio鈥檙 angen dros gysylltiad cynnar 芒 chleifion i wella鈥檙 dysgu a dealltwriaeth o senarios meddygol y byd go iawn.
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu amrywiol, gan gynnwys:
1. Dysgu yn y Gymuned: Mae'r rhaglen Dysgu Clinigol Cymunedol yn pwysleisio pa mor bwysig yw deall cleifion yn eu cymunedau eu hunain. Mae'r rhaglen yn adeiladu ar y dull Dysgu Seiliedig ar Achosion ac mae鈥檔 cynnwys dysgu sy'n seiliedig ar dasgau.
Byddwch ar leoliadau lle byddwch yn rhyngweithio 芒 chleifion, a fydd yn fodd i chi ddatblygu portffolio o brofiadau dysgu clinigol. Nod y rhaglen yw eich helpu chi gysylltu 芒 phobl go iawn, datblygu agweddau proffesiynol, deall darpariaeth gwasanaeth iechyd, a meithrin sgiliau arwain.听 Uchafbwynt nodedig yw'r听Efelychiad Iechyd Cefn Gwlad, lle byddwch yn agored i heriau darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig o鈥檜 cymharu ag ardaloedd trefol. Byddwch yn ymarfer sgiliau clinigol a chyfathrebu wrth ymateb i argyfwng efelychiedig ochr yn ochr 芒 meddygon a pharafeddygon.
2. Mae'r rhaglen Rhannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC) yn cynnig pedwar cyfle dysgu gwahanol:
- Dau Broject trwy Brofiad:听Mae'r projectau hyn yn eich cyflwyno i amrywiol leoliadau a phynciau. Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil ar lefel uwch. Bydd rhai projectau hefyd yn caniat谩u ichi archwilio meysydd y tu hwnt i feddygaeth draddodiadol, megis gwaith cymdeithasol, meddygaeth gyflenwol, a phroffesiynau sy'n gysylltiedig 芒 meddygaeth.
- Erthygl Newyddiadurol:听Mae'r erthygl newyddiadurol yn eich galluogi i arddangos sgiliau academaidd critigol, gan gynnwys chwilio鈥檙 llenyddiaeth a gwerthuso deunydd gwyddonol cymhleth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Cewch eich herio i gyfleu eich neges mewn modd deniadol ac ysgogol.
- Cynhadledd Blwyddyn 2/Blwyddyn 5:听Dyma gynhadledd unigryw sy鈥檔 dod 芒 myfyrwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 5 ynghyd. Mae'n cynnwys sesiynau llawn a鈥檙 prif siaradwyr gwadd yn ymdrin 芒 them芒u amrywiol sy'n ymwneud 芒 ffynnu a goroesi mewn ysgol feddygol a moeseg feddygol.听 Bydd grwpiau bach o fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn paratoi cyflwyniadau poster sy鈥檔 seiliedig ar eu project profiad cyntaf o鈥檙 Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC), a bydd myfyrwyr Blwyddyn 5 yn rhoi adborth ac yn gweithredu fel beirniaid ar gyfer y posteri. Mae'r gynhadledd yn gyfle gwych i fynychu a chyflwyno mewn cynhadledd wyddonol/feddygol ac ymwneud 芒 chyfoedion h欧n.
Ym Mlwyddyn 3 eich cwrs byddwch yn ymgymryd a听Clerciaeth Integredig Hydredol (LIC). Yn ystod y lleoliad clinigol hwn byddwch yn gweithio o fewn y gymuned a phractis Meddyg Teulu am flwyddyn gyfan. Bydd hynny鈥檔 eich galluogi i ddilyn taith lawn y claf ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, a sylwi ar effaith y cyflyrau meddygol a thriniaeth y cyflyrau hynny ar gleifion.
Caiff mwy na 90% o ofal iechyd ei reoli mewn gofal sylfaenol, sy鈥檔 golygu y bydd y profiad yn baratoad cadarn at arbenigeddau鈥檙 ysbyty ac ar gyfer lleoliad arall mewn Meddygfa Deulu yn y flwyddyn olaf.
Lleoliad mewn gofal sylfaenol yw hwn yn bennaf ac mae o werth i'r rhai sy'n gweld eu dyfodol mewn Meddygaeth Deulu, ac i'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn arbenigeddau eraill. Mae'n galluogi myfyrwyr i weld cleifion yn ymgyflwyno gyda chyflyrau eang, a rhoi sylfaen wybodaeth ehangach o bosibl na鈥檙 cyrsiau modiwlaidd traddodiadol sy'n caniat谩u iddynt baratoi'n dda at eu blynyddoedd F1 ac F2.
Derbynnir yn gyffredinol bod gan fyfyrwyr sy鈥檔 dilyn LIC feddwl clinigol uwch erbyn diwedd y cyfnod hwn, oherwydd y berthynas un i un a g芒nt gyda鈥檙 tiwtor am y flwyddyn academaidd gyfan - rhywbeth na fyddant yn ei ennill ar unrhyw adeg arall ar gwrs meddygol.
Mae eu canlyniadau academaidd mewn profion cynnydd ac arholiadau yn y rhai sy'n dilyn LIC cystal 芒'r rhai a ddilynodd y cyrsiau traddodiadol.
Mae LIC yn hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio mwy ar y claf, ac mae鈥檔 eich annog i ddod yn eiriolwr dros y cleifion. Mae hefyd yn fodd i chi brofi amrywiaeth o leoliadau a thriniaethau clinigol sylfaenol ac eilaidd, a rhoi gwell ymwybyddiaeth i chi o'r system gofal iechyd.
Bydd y lleoliad LIC yng Ngogledd Cymru. Cewch eich lleoli mewn meddygfa, byddwch yn dod yn rhan o d卯m gofal iechyd amlddisgyblaethol, gan ddatblygu sgiliau gwych mewn meithrin t卯m a fydd yn gefn i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Ym Mlwyddyn 4, byddwch yn canolbwyntio ar achosion cynyddol arbenigol ac yn cymhwyso鈥檙 sgiliau craidd a ddysgoch ym Mlwyddyn 3 mewn gwahanol sefyllfaoedd clinigol. Rhennir y flwyddyn yn gyfleoedd dysgu lluosog, gan gynnwys lleoliadau clinigol arbenigol a鈥檙 Gydran a Ddewisir gan Fyfyrwyr.
Lleoliad Merched, Plant a Theulu
Nod y lleoliad hwn yw datblygu eich sgiliau asesu a gofalu am ferched, plant a theuluoedd. Byddwch yn treulio amser gydag obstetryddion a phaediatregwyr ledled Cymru. Cewch gipolwg ar gydweithio amlddisgyblaethol mewn sefyllfaoedd gofal cymunedol ac eilaidd. Bydd y ffocws ar y claf, a chewch gyfle i ryngweithio 芒 merched, plant a rhieni sy'n defnyddio'r system gofal iechyd.
Seiciatreg, Niwrowyddoniaeth Glinigol ac Offthalmoleg
Cewch brofi ymarfer mwy arbenigol mewn niwrowyddoniaeth glinigol a byddwch yn deall sut mae sylfaen gref mewn sgiliau generig yn gefn i resymu clinigol a diagnostig. Cewch gyfle hefyd i arsylwi cleifion ac arnynt salwch seiciatrig ac ennill dealltwriaeth o anhwylderau seiciatrig yn y boblogaeth. Yn ogystal, byddwch yn treulio wythnos benodol mewn offthalmoleg, i ehangu eich gwybodaeth o batholeg sy'n gysylltiedig 芒'r llygaid, sgiliau archwilio, a rheoli cleifion.
Drws Blaen yr Ysbyty
Bydd y lleoliad yma fydd yn fodd i leoli myfyrwyr yn yr Adran Achosion Brys yn un o'r tri Ysbyty Cyffredinol yng Ngogledd Cymru. C芒nt brofiad o ymdrin ag achosion brys ac铆wt, trawma (Damweiniau ffordd/damweiniau ar y mynydd ac yn y blaen) yn ogystal 芒 dilyn y claf trwy wahanol gamau eu hymchwiliadau a鈥檜 triniaeth yn yr ysbyty e.e. Uned Asesu Llawfeddygol a Meddygol, ITU a鈥檙 Adran Anesthetig.
Cynlluniwyd Blwyddyn 5 i integreiddio a pharatoi myfyrwyr meddygol ar gyfer y Rhaglen Sylfaen a'ch gyrfaoedd at y dyfodol fel meddygon yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu astudiaethau 么l-radd pellach. Dyma nodweddion a chydrannau allweddol y flwyddyn:
- Mwy o Gyfrifoldeb dros Ofal Cleifion: Trwy gydol y flwyddyn olaf o astudio, caiff y myfyrwyr eu hintegreiddio鈥檔 raddol ac yn gynyddol mewn timau clinigol sydd 芒 gofal am ofal cleifion.
- Asesu a Rheoli Ymgyflwyniadau Clinigol:听Mae ffocws y flwyddyn olaf ar asesu a rheoli ymgyflwyniadau clinigol ac铆wt a chronig. Bydd y myfyrwyr yn ennill cyfrifoldebau cynyddol yn hynny o beth a hwythau鈥檔 symud ymlaen trwy'r flwyddyn.
-
Lleoliadau Clinigol: Bydd lleoliad clinigol wyth wythnos mewn ysbyty. O dan oruchwyliaeth, disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at ofal cleifion yn ystod y lleoliadau hyn.
-
Dysgu Seiliedig ar Waith:听Bydd y rhan fwyaf o ddysgu鈥檙 flwyddyn olaf yn digwydd yn y gweithle, a fydd yn galluogi鈥檙 myfyrwyr i ennill profiad ymarferol. Yn ogystal, bydd sesiynau mewn canolfan sgiliau efelychu a sesiynau gr诺p bach i fireinio sgiliau meddwl clinigol a gwneud penderfyniadau.
-
Bydd bloc 8 wythnos o addysg feddygol ac arweinyddiaeth feddygol unigryw yn y brifysgol i roi sgiliau ychwanegol i chi a fydd yn eich cefnogi wrth i chi drosglwyddo i hyfforddiant Sylfaen.
- Dewis y Myfyriwr:听Ar 么l y lleoliadau clinigol, bydd y myfyrwyr yn cael cyfnod dewisol o wyth wythnos lle c芒nt ddewis astudio鈥檙 agweddau ar Feddygaeth sydd o ddiddordeb iddynt. Gall hynny ddigwydd bron unrhyw le yn y byd.
- Uwch Gynorthwyydd Myfyrwyr: Swydd Uwch Gynorthwyydd Myfyrwyr am saith wythnos, a鈥檙 myfyrwyr yn gweithio fel rhan o d卯m clinigol ac yn rheoli cleifion yn uniongyrchol o dan oruchwyliaeth. Mae'r profiad hwnnw鈥檔 digwydd yn yr ysbyty lle mae myfyrwyr yn ymgymryd 芒'u swydd sylfaen gyntaf听听os yng Nghymru neu yng Ngogledd Cymru os yw'r swydd sylfaen yn rhywle arall.
听
Lleoliadau
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar feddygaeth gymunedol trwy amrywiol brofiadau. Cewch gyfle i ymgymryd 芒 lleoliadau mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys cyrchfannau gwyliau arfordirol a thymhorol, trefi bach a phentrefi gwledig, ardaloedd maestrefol, dinasoedd bywiog, ardaloedd o amddifadedd, cymunedau 么l-ddiwydiannol, ac ysbytai ledled Gogledd Cymru. Bydd yr amrywiol leoliadau鈥檔 gyfle i chi archwilio gwahanol arbenigeddau a bydd yn sicrhau eich bod yn cael paratoad da i ymdrin ag amrywiol gleifion a senarios clinigol, a wnaiff feithrin eich gallu i addasu a鈥檆h gwytnwch. Dyma briodweddau sy鈥檔 hanfodol at yrfa mewn meddygaeth.听
Mae lleoliadau鈥檔 rhan bwysig o鈥檙 dysgu. O Flwyddyn 1 ymlaen maent yn fodd i chi roi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn ei gyd-destun a sicrhau eich bod chi'n datblygu dull gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf. Cewch gyfle i ymgysylltu 芒 chleifion o ddechrau eich astudiaethau. Mae hynny鈥檔 hanfodol ar gyfer darparu gofal effeithiol ac empathetig i unigolion o gefndiroedd amrywiol.
Gan bydd eich lleoliadau mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Cymru, efallai bydd eich campws cartref yn newid o'ch trydedd flwyddyn ymlaen i hwyluso teithio i'ch man astudio. Bydd hyn yn cael ei gyfleu i chi yn unol 芒 lle byddwch yn cael eich gosod ar leoliad.
Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr
Mae Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (CSS) yn ffurfio 15% o'r cwricwlwm meddygol israddedig a ddarperir ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Mae鈥檙 Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (CSS) yn rhoi cyfle i chi ddewis y meysydd rydych chi'n eu hastudio, ac ennill gwybodaeth trwy eich ymdrechion chithau. Mae'r dewis yn cynyddu wrth i'r cwrs fynd rhagddo; e.e. ym Mlwyddyn 1, cewch ddewis pwnc eich adolygiad llenyddiaeth; ond ym Mlwyddyn 5, cewch dreulio 8 wythnos bron yn unrhyw le yn y byd yn dilyn pwnc o'ch dewis. Mae鈥檙 Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC) yn ategu addysgu craidd BMBS, o ran cyflwyno sgiliau ymchwil ac annog meddwl dadansoddol a beirniadol. Mae Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC) yn cynnwys modiwlau sy鈥檔 annibynnol i raddau helaeth o fewn blociau amser penodol. Mae nifer o adrannau prifysgol, gofal cychwynnol, gwasanaethau yn y gymuned a rhai sefydliadau allanol yn cefnogi鈥檙 rhaglen Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC). Cefnogir Lleoliad Detholiadol y Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf gan ganolfannau meddygol a gwyddonol ledled y byd.
Asesiadau
Mae鈥檙 asesiadau鈥檔 dilyn strwythur anfodiwlaidd, a byddwch yn dysgu cymhwyso gwybodaeth yn hytrach na dysgu ffeithiau yn unig. Er enghraifft, yn hytrach na dysgu am anatomeg a sefyll arholiad yngl欧n ag anatomeg, ac yna dysgu am boen a sefyll arholiad yngl欧n 芒 phoen, byddwch yn dysgu am anatomeg a phoen a sut maent yn berthnasol i'w gilydd mewn bywyd go iawn. Caiff y ddau eu profi yn yr un arholiad, o bosibl yn yr un cwestiwn.
Cewch eich asesu drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio ysgrifennu adfyfyriol, traethodau, cyswllt rheolaidd 芒 meddygon ac academyddion, cwblhau logiau o sgiliau clinigol ac arholiadau ysgrifenedig. Ar gyfer pob un o'r rheini cewch adborth helaeth.
Yn ystod Blynyddoedd 2, 3, 4 byddwch yn sefyll profion cynnydd. Mae'r arholiadau ysgrifenedig, a gynhelir deirgwaith y flwyddyn, yn gerrig milltir pwysig i asesu eich gwybodaeth a monitro cynnydd eich dysgu dros amser. O osod yr un cwestiynau prawf i bob myfyriwr, gallwch feincnodi eich perfformiad o鈥檌 gymharu 芒鈥檆h cyfoedion a gwerthuso eich cryfderau a'ch gwendidau cymharol. Nid yn unig mae'r math hwnnw o asesiad cymharol yn rhoi adborth gwerthfawr, gall hefyd eich cymell i ymdrechu am welliant parhaus.
Cefnogaeth i Astudio听
Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel ar ofalu a chefnogi鈥檙 myfyrwyr ac rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny oherwydd y grwpiau addysgu llai o faint. Yn ogystal 芒'r gefnogaeth a gewch gan eich t卯m academaidd, mae adran gwasanaethau myfyrwyr y brifysgol yn cynnig cymorth amrywiol i sicrhau eich bod yn ffynnu yn ystod eich amser gyda ni.
Byddwn yn sicrhau y cewch chi gymorth penodol mewn meysydd fel sgiliau astudio, rhifedd a llythrennedd, sgiliau ymchwil a rheoli amser trwy gydol eich astudiaethau. Pan fyddwch yn dechrau eich cwrs, caiff tiwtor personol ei neilltuo i chi a byddwch yn cyfarfod ag ef/芒 hi yn rheolaidd trwy gydol eich astudiaethau. Byddant yn cynnig arweiniad a chefnogaeth a gallant helpu gydag unrhyw bryderon neu heriau penodol y gallech eu hwynebu, rhoi adborth ar eich cynnydd, a'ch helpu chi gael mynediad at adnoddau ychwanegol fel bo angen.
Gofynion Mynediad
Gofynion Mynediad 2026
Nid yw ein gofynion mynediad ar gyfer 2026 ar gael yn gyhoeddus eto. Er mwyn cael eich hysbysu unwaith y byddant ar gael, cofrestrwch i dderbyn diweddariadau gan ddefnyddio'r ffurflen isod.
Sylwer:
- nid yw'r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd.
- nid ydym yn derbyn ceisiadau gohiriedig.
Cymwysterau Safon Uwch
Cymwysterau Safon Uwch - graddau AAA (neu gyfwerth) yn ofynnol. Rhaid i hyn gynnwys Bioleg a gwyddor ychwanegol o'r rhestr isod:
- Cemeg
- Ffiseg
- Economeg
- Mathemateg / Mathemateg Bellach / Ystadegau
Bydd angen i chi lwyddo yn elfen wyddonol ymarferol y Safon Uwch os yw hynny鈥檔 rhan o'r rhaglen astudio.
Lle mae angen graddau AAA (neu gyfwerth) ar gyfer Safon Uwch, rhaid i'r gwyddorau gorfodol fod 芒 gradd A neu uwch. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Caiff pynciau ansafonol eraill eu hadolygu fesul achos ac efallai na ch芒nt eu derbyn.
Gellir gwneud cynnig cyd-destunol o AAB i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf 苍别耻鈥檙 rhai sy鈥檔 bodloni gofynion ein cynnig cyd-destunol. Sylwer: (1) rhaid cael gradd A neu uwch yn y gwyddorau Safon Uwch gorfodol a nodir uchod; (2) os ydych yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, rhaid i'ch cais ddangos bod gennych TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Bagloriaeth Ryngwladol
36 i gyd (ac eithrio Theori Gwybodaeth a'r Traethawd Estynedig) gan gynnwys 19 ar Lefel Uwch. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg a Chemeg. Gellir cymryd Gradd 7 mewn Bioleg neu Gemeg Lefel Sylfaenol yn lle Bioleg neu Gemeg Lefel Uwch os oes gennych radd 6 mewn Mathemateg, Ffiseg neu Ystadegaeth Lefel Uwch hefyd.
Graddedigion gyda gradd Baglor/MSc/PhD: gradd 2.1 neu uwch a 32 yn gyffredinol gyda Graddau 5 gan gynnwys Bioleg a Chemeg.
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (Lefel 3)
Derbyniwn y cymhwyster hwn yn lle un Safon Uwch, ar y marciau a restrir uchod heb gynnwys unrhyw bynciau penodol.
Irish Highers a Thystysgrifau Gadael Ysgol
- H1 mewn Bioleg, H1 mewn Cemeg a H2 mewn pedwar pwnc arall. Hefyd, 8 Tystysgrif Iau gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gydag o leiaf gradd B a gradd O3 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael.
- Graddedigion gyda gradd 2:1 neu uwch: H2 mewn Bioleg a Chemeg, a H2 mewn pedwar pwnc arall. Hefyd, 8 Tystysgrif Iau gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gyda gradd B a gradd O3 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael.
- Graddedigion gydag MSc/PhD: gradd 2:1 neu uwch a H2 mewn Bioleg a Chemeg, H2 mewn 2 arall, H3 mewn 2 arall. Hefyd, 8 Tystysgrif Iau gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gyda gradd B a gradd O3 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael.
Scottish Highers a Thystysgrifau Gadael Ysgol
- Graddau AAB yn yr Advanced Higher gan gynnwys Bioleg a Chemeg.
- Graddedigion gyda gradd 2.1 neu uwch: graddau BBC 鈥 rhaid i ddwy wyddor orfodol fod yn radd B.
- Graddedigion gyda MSc/PhD: gradd 2.1 neu uwch a graddau BCC 鈥 gradd B mewn Bioleg.
Bydd cymwysterau 鈥楴ational 5鈥 a 鈥楬ighers鈥 yn cael eu derbyn yn lle TGAU. Rhaid bodloni gofynion cyfatebol o ran lefel, gradd a phwnc. Ni chaiff pynciau dyblyg eu cyfrif ddwywaith.
Mynediad Graddedig
Os ydych yn ymgeisydd graddedig, rhaid i chi fod wedi cael, neu yn gweithio tuag at radd 2.1 (Anrh.). Rhaid i chi hefyd feddu ar raddau Safon Uwch BBB/ABC (neu gyfwerth) gan gynnwys gofynion pwnc ac yn achos ABC, ni all y gwyddorau gorfodol fod ar radd C. Rhaid i chi hefyd fodloni isafswm gofynion o ran TGAU.
Os ydych wedi cwblhau MSc/PhD, y gofyniad Safon Uwch lleiaf yw BBC (neu gyfwerth) gan gynnwys gofynion pwnc gyda gwyddorau gorfodol ar radd B neu uwch.
Gofynion Mynediad Ychwanegol
TGAU:
- Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith gradd B/6 a
- Gwyddoniaeth Ddwbl graddau BB/66 (neu raddau B/6 mewn Bioleg a Chemeg) a,
- Mathemateg gradd B/6 a,
- Pedwar TGAU arall gyda gradd B/6听
Rhaid i chi hefyd ddangos ymwybyddiaeth o system gofal iechyd y Deyrnas Unedig a natur yr hyfforddiant meddygol yn eich datganiad personol. Os ydych yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, gwnewch hynny鈥檔 glir yn eich datganiad personol.
Sylwer: Nid ydym yn derbyn BTEC na Lefelau T ar y rhaglen. 听
Nid ydym ychwaith yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau eraill tebyg. 听
Ailsefyll cymwysterau
Dim ond o fewn 12 mis i sefyll yr arholiadau gwreiddiol y byddwn yn derbyn ailsefyll Lefel 2 (e.e. TGAU). Rhaid cwblhau'r rhain cyn gwneud cais. Yr eithriad i hyn yw Saesneg Iaith lle nad oes unrhyw derfyn amser ar gyfer ailsefyll, ond mae'n rhaid ei gynnwys fel 鈥榳edi'i gyflawni鈥 (achieved) neu鈥檔 鈥榓ros am ganlyniad鈥 (pending) ar y ffurflen gais.
Nid ydym yn derbyn ailsefyll Lefel 3 (e.e. Safon Uwch). Fodd bynnag, dylid nodi nad yw arholiadau sy鈥檔 cael eu sefyll ar 么l cael graddau a aseswyd gan ganolfan yn cael eu hystyried gennym fel ailsefyll.
Ystyrir achosion o ailsefyll unedau modiwl Safon Uwch ar yr amod nad yw'r arholiad terfynol eisoes wedi'i gynnal a bod gradd wedi'i dyfarnu.
Derbyniadau Cyd-destunol
Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol yn ofalus (yr amgylchiadau y buoch yn astudio ynddynt) pan fyddwch yn ymgeisio. Byddwn yn ystyried hynny yn y cynigion a wneir, a all fod yn is na'r hyn a hysbysebwyd. Ceir rhagor o fanylion am gynigion cyd-destunol yma.
Gwneud Cais
Rhaid cyflwyno cais cyflawn i UCAS erbyn y dyddiad cau. Efallai na fyddwn yn ystyried gwybodaeth atodol a dderbynnir gan y Brifysgol ar 么l y dyddiad cau hwn.
Prawf Derbyn
Rhaid i chi sefyll prawf UCAT cyn cyflwyno'ch cais. Rhaid i chi sefyll yr UCAT ym mlwyddyn y cais. Nid oes gennym sg么r trothwy isaf; ond, byddwn yn defnyddio sgoriau UCAT fel rhan o'r broses ddethol.
Cyfweliadau
Os cewch eich dewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Rydym yn defnyddio'r dull mini gyfweliadau lluosog, sef cyfres o gyfweliadau byr, wedi'u hamseru'n ofalus, un ar 么l y llall. Rhaid i bob ymgeisydd ddod i gyfweliad os gwahoddir ef.
Os yw ymgeisydd wedi llwyddo ac wedi cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad, bydd dyddiad ffug yn cael ei gyhoeddi ar UCAS. Mae hyn yn ofyniad gan UCAS ond NID dyna fydd dyddiad eich cyfweliad. Bydd y cynnig yn nodi y dylech ddiystyru鈥檙 dyddiad hwn ac yn dweud y byddwn yn cysylltu 芒 chi trwy e-bost yn fuan.
Dylai ymgeiswyr gael e-bost y diwrnod canlynol yn uniongyrchol gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn eu gwahodd i ddewis amser i鈥檞 cyfweliad. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn edrych ar eu negeseuon, gan gynnwys y ffolder sothach, yn rheolaidd ac yn trefnu amser i鈥檞 cyfweliad. Os nad ydych wedi cael e-bost o fewn 48 awr i dderbyn y gwahoddiad trwy UCAS, rhaid i ymgeiswyr anfon e-bost i derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk. Os na fyddwch yn cysylltu a/neu'n trefnu eich slot cyn y dyddiad cau, ni fyddwn yn gallu gwneud trefniadau eraill.
Amodau ymrestru
Cyn dechrau鈥檙 cwrs, bydd angen gwiriad iechyd ar bob ymgeisydd llwyddiannus, gan gynnwys sgrinio am firysau a gludir yn y gwaed a thwbercwlosis, gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Os nad ydych yn imiwn i Hepatitis B, bydd angen i chi gwblhau rhaglen imiwneiddio lawn cyn cymryd rhan mewn gweithdrefnau clinigol. Os oes gennych firws a gludir yn y gwaed neu glefydau heintus eraill ni wnaiff hynny eich rhwystro rhag cwblhau'r cwrs a chofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ond ni fydd rhai arbenigeddau鈥檔 agored i chi yn yr hyfforddiant ac yn eich gyrfa. Os oes gennych broblem gydag iechyd y credwch y gallai effeithio ar eich gallu i astudio neu ymarfer, cysylltwch 芒 ni cyn gwneud cais.
Er nad yw'n orfodol, byddem yn annog pob ymgeisydd i gael eu brechu rhag Covid-19 er mwyn eu hamddiffyn eu hunain a chydweithwyr a chleifion.
Euogfarnau troseddol
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gwblhau cais DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) cyn cael eich derbyn ar y cwrs.
Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, caiff hynny ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai鈥檙 ymgeiswyr hynny sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd. Dylai'r rhai sydd ag euogfarnau troseddol nad ydynt ar y rhestr wahardd e-bostio derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk cyn gwneud cais.
Astudiaeth flaenorol o feddygaeth
Mae'n ofynnol i'r rhai sydd wedi astudio rhaglen feddygaeth neu raglen iechyd broffesiynol arall yn flaenorol roi gwybod i ni cyn gwneud cais. Os na wnaethoch gwblhau eich cwrs oherwydd euogfarnau troseddol neu fethiant academaidd dylech anfon e-bost at derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk cyn gwneud cais. Os na wnaethoch gwblhau eich cwrs am resymau iechyd dylech gysylltu 芒 ni cyn gwneud cais.
Gwybodaeth bwysig
- Gall y gofynion mynediad newid o flwyddyn i flwyddyn.
- Dylai pob ymgeisydd fod yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod y cais. Ni fyddwn yn ystyried y rhai sy鈥檔 aros am gymeradwyaeth am breswyliad parhaol yn y Deyrnas Unedig.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed ar ddechrau'r cwrs.
- Dim ond am uchafswm o ddau gylch y gall ymgeiswyr wneud cais i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料.
- Ni ddylai cymwysterau mynediad lefel 3 yr ymgeisydd fod yn fwy na phum mlwydd oed ar ddechrau'r cwrs. Bydd hyn yn wir oni bai bod yr ymgeisydd wedi parhau mewn addysg mewn maes pwnc perthnasol sy'n gysylltiedig ag iechyd, neu'n gweithio mewn swydd sy'n gysylltiedig 芒 gofal iechyd. Dylai'r cymwysterau fod wedi eu hennill y naill ar 么l y llall ers gadael addysg lefel 3 gyda bylchau cyfyngedig neu ddim bylchau o gwbl. Ni ddylai bylchau rhwng dau bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch gwahanol (neu gyfwerth) a restrir ar ein gwefan fod yn fwy na 3 mlynedd. E-bostiwch am eglurhad pellach cyn gwneud cais.
- Ystyrir cymwysterau rhyngwladol fesul achos. E-bostiwch derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk gyda chop茂au o'ch cymwysterau cyn gwneud cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am ofynion mynediad, e-bostiwch derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk.
Gyrfaoedd
Cafodd y cwrs ei achredu'n broffesiynol gan y , sy'n golygu bod eich gradd yn gymeradwy fel cymhwyster meddygol sylfaenol (PMQ).
Ar 么l graddio byddwch yn dechrau ar raglen sylfaen ddwy flynedd. Ym mlwyddyn un byddwch wedi'ch cofrestru dros dro gyda thrwydded i ymarfer meddygaeth yn y Deyrnas Unedig. Rhoddir cofrestriad llawn ar 么l i chi gwblhau blwyddyn un.
Er mwyn cael mynediad i'r Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen, yn ogystal 芒'ch gradd feddygol bydd gofyn i chi lwyddo mewn arholiadau cenedlaethol gan gynnwys y Prawf Barn Sefyllfaol a'r Asesiad Trwyddedu Meddygol.
Bydd y sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn ystod eich astudiaethau yn golygu eich bod mewn sefyllfa dda i ddilyn amrywiol opsiynau yn eich gyrfa gan gynnwys meddyg teulu a meddyg ysbyty, patholegydd fforensig neu rolau ym maes iechyd y cyhoedd.