Dewch yn Arweinydd Cyfoed
- A ydych am gynorthwyo eraill i ymgartrefu ym Mangor a mwynhau?
- Mwy gwybodaeth – e-bost, neu ewch i’n tudalen Dewch yn Arweinydd Cyfoed.
Y Cynllun Arweinwyr Cyfoed
Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn adnabyddus am y croeso cynnes a gaiff ei myfyrwyr. Rhan wirioneddol bwysig o hyn yw’r arweinwyr cyfoed sydd wrth law i helpu ein myfyrwyr newydd i ymgartrefu.
Gall dod i brifysgol am y tro cyntaf fod yn brofiad anodd ac ychydig yn frawychus. Dyna pam rydym ni ym Mangor yn gofalu eich bod yn cael y dechrau gorau trwy eich cyflwyno i’n harweinwyr cyfoed a fydd ar gael i ateb eich cwestiynau, eich tywys o amgylch a gwneud yn siŵr eich bod yn cyfarfod â phobl newydd ac yn cael amser gwych.
Os ydych yn fyfyriwr newydd, yn fyfyriwr presennol, neu dim ond yn dechrau meddwl am wneud cais i ddod i Fangor, gellwch gael mwy o wybodaeth am ein Cynllun Arweinwyr Cyfoed.
I weld ein polisïau, edrychwch ar y dogfennau canlynol:
- Cod Ymarfer Arweinwyr Cyfoed
- Canllawiau ar gyfer Cydlynwyr Arweinwyr Cyfoed Ysgolion
- Canllawiau ar gyfer Arweinwyr Cyfoed a Darpar Arweinwyr Cyfoed
Am ragor o wybodaeth gyffredinol, ewch i’r cysylltiadau isod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, edrychwch ar y rhestr o gysylltiadau ac anfonwch e-bost at yr unigolyn priodol.