Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae archwilio gweithrediad y corff dynol ym maes gwyddoniaeth feddygol iechyd a chlefydau yn canolbwyntio ar ffisioleg ddynol ac anatomeg, diagnosteg glinigol, clefydau heintus a therapiwteg, yn ddiffygion moleciwlaidd ac yn newidiadau anatomegol gros. Yn seiliedig ar ymarfer meddygol modern mae'r radd hon yn rhoi sgiliau i chi fynd i amrywiaeth o yrfaoedd clinigol yn cynnwys cydymaith meddygol, ffisiotherapi a gwyddor barafeddygol. Mae potensial hefyd i raddedigion gael mynediad i gyrsiau meddygaeth, yn cynnwys gradd MBBCh C21 gogledd Cymru yng Nghaerdydd a gyflwynir ym Mangor.
Nod y radd yn y Gwyddorau Meddygol yw darparu rhaglen wyddoniaeth sy’n berthnasol i feddygaeth gydag elfennau cryf o ymchwil broffesiynol. Cewch sylfaen gadarn o addysgu gwyddonol, a fydd yn ymwneud ag iechyd a chlefydau ar lefel ficro a macro. Bydd hynny’n fodd i chi ddatblygu, integreiddio a chymhwyso'ch gwybodaeth lle mae darganfyddiadau gwyddonol ac ymarfer clinigol yn cwrdd.
Fel myfyriwr graddedig, bydd gennych set eang o sgiliau, sy’n golygu bod y cwrs yn ddewis cyntaf delfrydol i'r rheini sydd â diddordeb dilyn gyrfa ym maes iechyd ond sydd am gadw eu hopsiynau’n agored. Mae hefyd yn bumed dewis delfrydol i rai y mae eu bryd ar Feddygaeth neu Ddeintyddiaeth; i fyfyrwyr galluog gall y radd hon fod yn gam tuag at gael eu derbyn i Ysgolion Meddygol fel dechreuwyr graddedig.Â
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Mae myfyrwyr yn cael canolbwyntio ar addysg anatomegol, gan gynnwys mynediad i ystafell ddyraniad, sy'n brin y tu allan i ysgolion meddygol.
- Cyfleusterau rhagorol yn cynnwys labordy geneteg, biocemeg a gwyddoniaeth biofeddygol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gwylio - Lleucu Morgan, Gwyddorau Meddygol
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn byddwch yn elwa o arbenigedd mewn addysgu ac ymchwil mewn nifer o ddisgyblaethau. caiff y cynnwys ei gyflwyno gan gyfadran y Gwyddorau Meddygol, a fferyllwyr a chlinigwyr y bwrdd iechyd prifysgol leol.  Byddwch yn dilyn modiwlau sy’n werth 120 credyd bob blwyddyn a gaiff eu dysgu trwy nifer o ddulliau priodol gan gynnwys darlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol mewn  labordai. Mae’r modiwlau’n fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd ac mae nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall.  Caiff y cwrs ei asesu trwy gymysgedd o arholiadau, adroddiadau labordy ymarferol, gwaith cwrs a chyflwyniadau, gan gynnwys y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf. Maemodiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd, a gall y myfyrwyr ddewis tiwtor Cymraeg a chyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Mae'r flwyddyn gyntaf yn gyflwyniad i agweddau pwysig ar y Gwyddorau Meddygol a Biofeddygol ac mae'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy ymarferol a thiwtorialau mewn pynciau sylfaen allweddol. Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn rhoi pwyslais ar ddatblygu'r sgiliau ffeithiol ac ymarferol allweddol angenrheidiol i symud ymlaen â gweddill eich astudiaethau. Ymhlith y pynciau y byddwch yn eu hastudio mae ffisioleg ddynol, geneteg foleciwlaidd, bioleg y gell, microbioleg, cemeg yn ogystal â sgiliau academaidd sylfaenol. Yn eich sesiynau labordy byddwn yn eich dysgu sut mae gweithio'n ddiogel yn y labordy yn ogystal â'r fframweithiau rheoleiddio ehangach y mae labordai’n gweithredu ynddynt.Â
Mae blwyddyn 1 yn gyffredin i'r ddwy radd isod sy'n rhoi cyfle i chi newid a dewis un o'r graddau eraill (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd), gan roi'r hyblygrwydd i chi newid llwybr gradd cyn dechrau blwyddyn dau os bydd eich diddordebau'n newid.Â
Blynyddoedd 2 a 3
Mae modiwlau’r ail a’r drydedd flwyddyn y BMedSci Gwyddorau Meddygol yn canolbwyntio ar ffisioleg ddynol ac anatomeg mewn iechyd a chlefydau, diagnosteg glinigol, clefydau heintus, a therapiwteg. Byddwch yn gallu disgrifio prosesau afiechyd gan gynnwys diffygion moleciwlaidd, a newidiadau anatomegol gros ac integreiddio gwybodaeth am eu diagnosis a'u triniaeth.
Thema gyffredinol fydd datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis dadansoddi beirniadol, dehongli data a'r gallu i gyflwyno gwyddorau meddygol i amrywiol gynulleidfaoedd. Yn y drydedd flwyddyn, mae hynny’n arwain at waith ymchwil annibynnol gan ddefnyddio llenyddiaeth wyddonol y maes meddygol.  Bydd llawer o gyfleoedd i arddangos eich sgiliau newydd, a bydd adborth adeiladol ac unigol rheolaidd i'ch helpu chi gyflawni'ch potensial yn llawn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddorau Meddygol BMedSci (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Meddygol
- Mae gennym gyfres o labordai a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Adeilad Brambell. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith labordy yn digwydd yn labordai A1, B1 a C4, sydd â systemau clyweled o'r radd flaenaf i'ch galluogi i ddilyn yn fanwl yr hyn sy'n cael ei arddangos. Mae gennym hefyd labordy arbenigol Cat 2 a ddefnyddir ar gyfer gwaith gydag asiantau  biolegol risg ganolig a pheryglon, ac organebau a addaswyd yn enetig.
- Byddwch yn defnyddio ystod o offer wrth weithio yn y labordai hyn, gan gynnwys: cloriannau, allgyrchyddion, sbectromedrau ac offer arbenigol.
- Efallai y gall myfyrwyr sy’n gwneud prosiect ymchwil eu blwyddyn olaf elwa ar arbenigedd a chyfleusterau eang Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Ar wahân i offer labordy hanfodol (allgyrchyddion, deoryddion, ac ati), mae offer o'r radd flaenaf ar gael yn cynnwys microsgopau cydffocal, cytomedr llif a robot sgrinio trwybwn uchel. Mae’n bosib hefyd defnyddio cyfleusterau sbectrometreg màs a dilyniannu DNA trwybwn uchel ac ati.
- Bydd ein cyfleusterau newydd ar anatomi dynol yn barod erbyn 2022, a byddant yn ymgorffori technoleg flaengar fel bwrdd , sef y bwrdd dyrannu rhithiol cyntaf yn y byd. Rhagwelwn y caiff ei ddefnyddio gan israddedigion BMedSci Gwyddorau Meddygol yn ogystal â myfyrwyr ar ein cwrs MA Cynorthwywyr Meddygon a’r rhaglen radd Meddygaeth C21 Gogledd Cymru i raddedigion (a gyflwynir yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygol Caerdydd).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, os na fydd hynny yn cael ei arddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A yn cynnwys Bioleg gradd C neu uwch ac o leiaf un wyddor arall o blith Cemeg (dymunol), Gwyddor Feddygol, Ffiseg neu Fathemateg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DMM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DMM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: Pasio yn ofynnol, yn cynnwys Bioleg a Chemeg (dymunol) ar Lefel Uwch
- Mynediad: Pasio yn ofynnol (Dim ond diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth sy’n rhoi’r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol)
- Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig (Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth)
- Diploma Cymhwysol Gwyddor Feddygol a Thystysgrif Gymhwysol CBAC
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, os na fydd hynny yn cael ei arddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 -136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A yn cynnwys Bioleg gradd C neu uwch ac o leiaf un wyddor arall o blith Cemeg (dymunol), Gwyddor Feddygol, Ffiseg neu Fathemateg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: Pasio yn ofynnol, yn cynnwys Bioleg a Chemeg (dymunol) ar Lefel Uwch
- Mynediad: Pasio yn ofynnol (Dim ond diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth sy’n rhoi’r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol)
- Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig (Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth)
- Diploma Cymhwysol Gwyddor Feddygol a Thystysgrif Gymhwysol CBAC
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Bydd gan y graddedigion wybodaeth wyddonol integredig a sgiliau allweddol fel cloriannu beirniadol, cyfathrebu a datrys problemau, a chyfleoedd gwych am swyddi mewn meysydd sy'n seiliedig ar y gwyddorau meddygol. Mae gan lawer o'n myfyrwyr ddiddordeb mewn gyrfaoedd clinigol ac ânt i ddilyn hyfforddiant ôl-radd i ddod yn Gynorthwywyr Meddygon, Radiograffwyr, Parafeddygon, Ffisiotherapyddion a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd.
Byddant hefyd mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflawni rhaglenni MSc a PhD a swyddi ymchwil yn y GIG (gan gynnwys Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr y GIG). Er mwyn rhoi syniad o’r diddordebau lu mae’r myfyrwyr yn eu datblygu, bu graddedigion BMedSci diweddar ar gyrsiau MSc Gwyddorau Cardiofasgwlaidd, Niwroddelweddu, Seicoleg, Rheoli Clefydau Heintus a Hybu Iechyd. Mae eraill yn mynd i ddysgu, i’r lluoedd arfog a'r heddlu, a swyddi rheoli i raddedigion.
Anogwn a chefnogwn interniaethau a phrofiad gwaith yn ystod eich gradd, i'ch helpu chi ennill dealltwriaeth o fyd gwaith a rhoi mantais gystadleuol i chi. Cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith byr (dros wyliau haf) neu leoliadau 'rhyngosod' am flwyddyn, ar yr holl raglenni gradd.
Ar ôl cwblhau gradd BMedSci yn llwyddiannus, mae myfyrwyr uchel eu cyflawniad yn gymwys i wneud cais am Raglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion pedair blynedd Prifysgol Caerdydd (MBBCh).  Gall myfyrwyr cymwys wneud cais i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, neu aros ym Mangor ar gyfer gradd MBBCh 4 blynedd. Gweler tudalen cwrs MBBCh C21 Meddygaeth Mynediad i Raddedigion y Gogledd am fwy o wybodaeth. Noder, i wneud cais am y rhaglen honno rhaid cyflawni holl feini prawf ychwanegol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys ymhlith pethau eraill, TGAU a lefel A penodol a chwblhau'r arholiad mynediad yn llwyddiannus (GAMSAT).
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddorau Meddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â