Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Trwy ddeall y byd cymdeithasol, rydym yn meithrin gwell dealltwriaeth ohonom ein hunain a'n sefyllfaoedd cymdeithasol ein hunain. Ymchwil i fywyd cymdeithasol a'r ffordd y mae'n siapio ymddygiad, credoau a hunaniaeth pobl yw Cymdeithaseg. Mae'r maes yn cynnwys archwilio ymwneud beunyddiol pobl 芒'i gilydd, wyneb yn wyneb, sefydliadau cymdeithasol mawr, mudiadau cymdeithasol a phrosesau byd-eang. Trwy ddeall y byd cymdeithasol, rydym yn meithrin gwell dealltwriaeth ohonom ein hunain a'n sefyllfaoedd cymdeithasol ein hunain
Gellir astudio Cymdeithaseg hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs BA Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol.听
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs?
- Mae ein haddysgu a'n hymchwil yn adlewyrchu Cymdeithaseg fel disgyblaeth ryngwladol.听
- Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar ac anffurfiol ac rydym wedi cynllunio'r flwyddyn ragarweiniol i fagu eich hyder, beth bynnag fo'ch cefndir.
- 鈦燤ae strwythur y radd yn hyblyg, yn amrywiol, ac yn cynnig ystod o arbenigeddau i ddewis o鈥檜 plith.听
- Caiff y radd ei haddysgu gan arbenigwyr yn y pwnc, dan arweiniad ymchwil arloesol, gan wneud hynny mewn modd sy鈥檔 diwallu anghenion y byd go iawn.听
- Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu gyda鈥檙 bwriad o ddatblygu sgiliau personol i鈥檙 un graddau 芒 sgiliau ymarferol mewn arsylwi, dehongli, prosesu a chyflwyno gwybodaeth, sy鈥檔 sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr arnynt.听
- Mae cyfle i dreulio blwyddyn dramor fel rhan o'r radd.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar 么l cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd 鈥榞yda Phrofiad Rhyngwladol鈥 yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.听
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o鈥檙 fath, rydych yn gwneud byd o les i鈥檆h gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw鈥檙 Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o鈥檙 wefan.
Gwyliwch - Lleucu Myrddin
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau. Byddwch yn mynychu darlithoedd wythnosol lle bydd gwybodaeth arbenigol yn cael ei chyfleu yn defnyddio sleidiau PowerPoint, fideos a chyfnodau cwestiwn ac ateb. Byddwch yn cymryd rhan mewn seminarau lle gellid gofyn i chi ddarllen erthygl ysgolheigaidd ymlaen llaw, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth dan arweiniad. O bryd i'w gilydd bydd siaradwyr gwadd gan gynnwys rhai o brifysgolion eraill mewn rhannau eraill o'r byd. Byddwch yn cynnal eich ymchwil eich hun i baratoi at eich aseiniadau. Bydd yr aseiniadau'n cyd-fynd 芒'r addysgu ar y modiwl. Gall yr aseiniadau gynnwys traethodau traddodiadol yn ogystal 芒 dulliau eraill gan gynnwys cyflwyniadau.听
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymdeithaseg BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o鈥檙 archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig 芒'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy鈥檔 cael eu cefnogi gan staff profiadol, i鈥檆h helpu i astudio.听
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy鈥檔 cynnwys:听
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy鈥檔 galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw 拢9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw 拢1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw 拢1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi g诺n (拢25- 拢75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua 拢12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig 芒 modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth 芒 phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128听 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:听 Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):听ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE:听derbynnir
- Diploma鈥檙 Fagloriaeth Ryngwladol:听derbynnir
- Access:听Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:听Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:听Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal 芒 chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael 芒鈥檙 ysgol cyfwerth 芒 lefel A/Lefel 3 a/neu diplom芒u colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).听manylion听
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i听.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128听 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:听 Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):听ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE:听derbynnir
- Diploma鈥檙 Fagloriaeth Ryngwladol:听derbynnir
- Access:听Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:听Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:听Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal 芒 chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael 芒鈥檙 ysgol cyfwerth 芒 lefel A/Lefel 3 a/neu diplom芒u colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).听manylion听
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i听.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae鈥檔 rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr 芒 phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae鈥檔 rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae鈥檙 Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.听
Mae鈥檔 bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd 芒; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr h欧n sy鈥檔 medru dangos fod ganddynt y gallu a鈥檙 ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr h欧n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i听adran Astudio ym Mangor.听听
Gyrfaoedd
Mae graddedigion Cymdeithaseg 香港六合彩挂牌资料 yn gwneud defnydd o鈥檜 gradd mewn amrywiol ffyrdd. Mae鈥檙 opsiynau gyrfa mwyaf amlwg ym maes polisi a chymdeithaseg gan gynnwys tai cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y gwasanaeth iechyd, rheoli, gweinyddu llywodraeth leol, addysg, cysylltiadau cyhoeddus, a'r sector gwirfoddol. Serch hynny, y tu hwnt i hyn, mae graddedigion Cymdeithaseg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn bron unrhyw faes gwaith fel arbenigwyr ar y cyffredinol: byddwch wedi dysgu meddwl am unrhyw beth o safbwynt cymdeithasol. Byddwch wedi datblygu eich 'dychymyg cymdeithasegol', sef ymdeimlad o sut mae cyd-aelodau cymdeithas yn debygol o'ch gweld chi, eu hunain a'r byd cymdeithasol. Byddai llawer yn dweud mai dyma'r sgil bwysicaf i鈥檞 chael mewn unrhyw alwedigaeth, yn ogystal ag mewn bywyd yn gyffredinol. Gall myfyrwyr hefyd fynd ymlaen i astudio ar lefel 么l-radd ar un o'n cyrsiau MA.听
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i鈥檆h helpu i gyflawni eich amcanion ar 么l graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol 香港六合彩挂牌资料
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cynnal cynllun interniaeth 芒 th芒l yn adrannau academaidd a gwasanaethau鈥檙 Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy鈥檔 graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae鈥檙 adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o鈥檙 sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn 么l i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am听Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn 么l i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae鈥檙 Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio鈥檙 cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.听