Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfuno'r ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol sy'n briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Mae'n becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol a boddhaus wrth greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.
Dyma gwrs sy’n caniatáu i chi fwynhau holl gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol y Gymraeg ochr yn ochr â holl gyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n gyfuniad deinamig o’r creadigol, yr ymarferol a’r academaidd a hynny mewn dau faes sydd â chysylltiad clos a chyffrous â'i gilydd. Gall myfyrwyr sy’n mwynhau gweithgarwch creadigol ddilyn gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn y Gymraeg, ac ar yr un pryd ddilyn modiwlau cyfansoddi cerddoriaeth. ÌýMae hwn yn llawer mwy na chwrs gradd: mae'n cynnig pecyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan greadigol yn niwylliant cyfoes Cymru. Ìý
Cofiwch hefyd fod cymuned ddiwylliannol ddeinamig Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn rhoi cyfle i chi ymuno mewn corau, bandiau a cherddorfeydd, yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau a gwyliau diwylliannol. Mae gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ddwy neuadd gyngerdd, pedair stiwdio electroacwstig, ac mae Canolfan Pontio yn cynnal digwyddiadau lu ym meysydd drama, llenyddiaeth, ffilm a cherddoriaeth.
O gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau cerddorol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddol newydd er mwyn ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac fe welwch hefyd berthnasedd y traddodiad Cymraeg i rai o ffurfiau diwylliannol pwysicaf y byd, gan ystyried sut mae llenorion a cherddorion wedi ymateb i ofynion yr oesoedd.Ìý
Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol yn y Gymraeg, i gyfieithu a sgriptio; ac o berfformio, cyfansoddi a defnyddio cerddoriaeth yn y gymuned, i ddysgu sgiliau oesol harmoni a gwrthbwynt.Ìý
Mae amrywiaeth a chyfoeth y cwrs gradd hwn yn eithriadol o werthfawr, ac mae'r ddau bwnc yn gwir gyfoethogi ei gilydd.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau, sy'n eich galluogi i lunio'ch cwrs yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Rhyddid i deilwra eich cwrs yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau
- Cymuned sy'n egnïol yn ddiwylliannol ac o ran creu cerddoriaeth: corau, cerddorfeydd, bandiau, ensembles myfyrwyr a mwy.
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol, dwy neuadd gyngerdd broffesiynol, ystafell ymarfer gwrthsain, pedair stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, canolfan celfyddydau Pontio.
- Astudio yng Ngwynedd (gogledd-orllewin Cymru) lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw i'r mwyafrif.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gwyliwch - Alister O'Mahoney, Cerddoriaeth
Cynnwys y Cwrs
Mae gradd ar y cyd yn eich caniatáu i astudio’r un modiwlau craidd â myfyrwyr ar y cyrsiau anrhydedd sengl; byddwch yn dilyn llai o fodiwlau dewisol, ond ni fyddwch heb ddewisiadau chwaith.Ìý
Yn y flwyddyn gyntaf, drwy ddarllen testunau allweddol byddwch yn ymgyfarwyddo ag agweddau sy’n greiddiol i Gerddoriaeth ac i'r Gymraeg. Cewch hefyd astudio harmoni, gwrthbwynt a chelfyddyd sonig, yn ogystal â darllen barddoniaeth, rhyddiaith a drama, gyda’r cyfle os dymunwch, i ddilyn gweithdai sgriptio ac ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg, a chyfansoddi a pherfformio mewn Cerddoriaeth.Ìý
Yn yr ail flwyddyn a’r drydedd, cynigir amrywiaeth helaeth o fodiwlau: e.e., y nofel o Daniel Owen i Manon Steffan Ros; y theatr Gymraeg o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams; barddoniaeth fodern ac awdlau’r eisteddfod; dramâu teledu; Dafydd ap Gwilym; y Mabinogion. Neu beth am astudio diwylliant Cymraeg Cymry America? Ym maes Cerddoriaeth ceir modiwlau'n dadansoddi cerddoriaeth bop, jazz neu'r symffoni, neu fodiwl sy'n canolbwyntio ar ffurfiau a chyfansoddwyr penodol, e.e. wrth astudio pedwarawdau llinynnol Beethoven. Ìý
Mae modiwlau Lleoliad Cymunedol a’r Traethawd Hir yn rhoi’r cyfle ichi weithio'n annibynnol a datblygu eich sgiliau mewn meysydd sydd o ddiddordeb arbennig ichi, boed hynny'n ymchwilio i waith awdur neu gerddor unigol megis Caryl Lewis neu Geraint Jarman, neu faes fel cerddoriaeth mewn iechyd a lles, ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, agweddau ar ryngweithio creadigol a.y.b.
Mae’r dysgu’n digwydd drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, cyflwyniadau, astudiaethau achos a gweithdai. Byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau, yn ogystal â pherfformio'n unigol neu mewn grwpiau. Mae'r asesu’n gyfuniad o’r gwaith cwrs ac arholiadau, a rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs.Ìý
Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg a Cherddoriaeth BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cerddoriaeth
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol.
- Dwy neuadd gyngerdd safonol broffesiynol.
- Mannau ymarfer.
- Ystafelloedd ymarfer gyda mynediad 24 awr.
- Offerynnau gan gynnwys organ maint llawn, organ siambr, harpsicordiau a phianos traws.Ìý
- Pedair stiwdio cyfansoddi a recordio electroacwstig o'r radd flaenaf, gyda mynediad 24 awr.
- Mynediad i fannau perfformio ac ymarfer yng nghanolfan gelfyddydau ysblennydd Pontio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth.ÌýMae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý yn cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth**;Ìý gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwncÌýDyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ); Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth **: MMM- DDMÌý(gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant neu gweler**)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn CerddoriaethÌý a gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**(Cymraeg) Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A); (Cerddoriaeth) Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Ìý
SYLWCH: Efallai y gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth ddod am gyfweliad, ac/neu y byddant yn cael cynnig clyweliad dewisol, pe baent yn cyflawni’r gofynion mynediad eraill.
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth.ÌýMae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý yn cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth**;Ìý gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwncÌýDyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ); Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth **: DMM - DDMÌý(gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant neu gweler**)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn CerddoriaethÌý a gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**(Cymraeg) Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A); (Cerddoriaeth) Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Ìý
SYLWCH: Efallai y gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth ddod am gyfweliad, ac/neu y byddant yn cael cynnig clyweliad dewisol, pe baent yn cyflawni’r gofynion mynediad eraill.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Ni fu erioed gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.Ìý
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd galw mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg. Bydd gradd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth yn eich cymhwyso yn ardderchog, gan gyfuno dau faes sy’n eang eu posibiliadau. Mae ystadegau cyflogadwyedd yn dangos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, fod graddedigion mewn Cymraeg, yn aml gyda phwnc arall, yn llwyddo’n arbennig i ganfod gwaith cymwys. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac yn Saesneg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn sgil hanfodol mewn nifer gynyddol o swyddi.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith – a’u gyrfaoedd amrywiol – eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw’r cwrs hwn i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran yn cael eu denu i fyd addysg, yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. ÌýMae’r galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol.Ìý
Wrth gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â sgiliau sy'n briodol i yrfaoedd yn y sectorau celfyddydol a threftadaeth ac ym meysydd addysg a darlledu. Mae’r byd teledu a’r cyfryngau digidol a phrint – gan gynnwys canolfan y BBC ym Mangor – yn cynnig trawstoriad o swyddi diddorol, a denwyd cyn-fyfyrwyr eraill at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. ÌýAiff eraill i fyd addysg bellach ac i fod yn ddarlithwyr mewn prifysgolion. Mae graddedigion mewn Cerddoriaeth hefyd yn edrych i gyfeiriad addysg, perfformio, gweinyddu'r celfyddydau, cynhyrchu cyfryngol, yn ogystal â gwaith cymdeithasol a chwnsela. Yn wir, mae'r posibiliadau ar gyfer graddedigion y cwrs gradd hwn yn ddirifedi.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýCymraeg i DdechreuwyrÌýneuÌýCerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý