Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae marchnata yn yrfa gyffrous a phrysur sy鈥檔 cyfuno sawl sgil yn cynnwys bod yn greadigol a dadansoddol ac mae鈥檔 berffaith ar gyfer y rhai sy鈥檔 hoffi ymgymryd 芒 heriau newydd ac sy鈥檔 chwilio am lwybr gyrfa sy鈥檔 datblygu鈥檔 barhaus. Mae ein gradd Rheoli Cyfathrebu Marchnata wedi'i chynllunio i'ch paratoi i fod yn arweinydd gwych a all gyfathrebu'n effeithiol, nid yn unig gyda gweithwyr, cydweithwyr a rheolwyr ond trwy ymgyrchoedd a chyda chwsmeriaid.
Ym Mangor, byddwch yn dysgu am reoli, cynllunio a strategaethau marchnata, a chyfathrebu marchnata tra'n ennill sgiliau creadigol, dadansoddol, cymdeithasol a digidol. O ddylunio gwefan, creu cynnwys a sefydlu dadansoddeg marchnata, i gyflwyno atebion i fusnesau neu werthuso dulliau marchnata, mae ein hamrywiaeth o fodiwlau a gweithgareddau allgyrsiol wedi'u cynllunio i wella eich cyflogadwyedd.
Byddwch yn dysgu am y damcaniaethau diweddaraf am frandio, ymddygiad defnyddwyr, arloesi, dadansoddi marchnata, rheoli ymgyrchoedd, marchnata creadigol a digidol. Ond byddwch hefyd yn eu rhoi ar waith neu'n ymgysylltu ag eraill sy'n gwneud hynny.
Mae ein hacademyddion yn gymwys ac yn brofiadol iawn ac yn dod 芒 dealltwriaeth o fyd ymarfer ac ymchwil, gan roi sylfaen gadarn i鈥檆h gwybodaeth yn y byd go iawn. Mae ein harbenigedd marchnata yn cynnwys brandio lle, marchnata cyfryngau cymdeithasol, marchnata gan fusnesau bach a micro, cysylltiadau cyhoeddus, a defnydd peryglus, fel ysmygu a goryfed. Mae ein harbenigedd rheoli yn cynnwys rheolaeth strategol, cyfrifeg ac adrodd, trethiant, cyfathrebu corfforaethol, rheolaeth gyllidol, marchnata, cynaliadwyedd a rheoli adnoddau dynol.
Mae gradd mewn rheoli cyfathrebu marchnata yn gallu arwain at amrywiaeth fawr o lwybrau gyrfa. Efallai y byddwch yn dewis bod yn arbenigwr cyfathrebu marchnata, hyrwyddwr brand, rheolwr cyfryngau cymdeithasol neu ddilyn gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu neu gynllunio digwyddiadau.
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs hwn?
- Rydym yn hybu cyflogadwyedd gyda chyfleoedd ar gyfer interniaethau, lleoliadau, teithiau maes, sesiynau briffio byw a chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch ac Universities Business Challenge (UBC) Worldwide.
- Mae cynnwys y cwrs wedi'i ddatblygu i'ch gwneud yn arweinydd hyderus sy鈥檔 cyfathrebu鈥檔 glir gan wella eich cyfleoedd cyflogadwyedd.聽
- Cyfuniad o ymchwil ac addysgu dan arweiniad ymarferwyr. Mae gan nifer o'n tiwtoriaid brofiad diwydiannol byd-eang sylweddol ac mae eraill yn ymchwilwyr gweithredol ym myd busnes, rheolaeth a marchnata.
- Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol ar gyfer y gweithle yn cynnwys sut i ddylunio gwefan a sut i greu a chynnal ymgyrchoedd cymdeithasol yn effeithiol.
- Gallwch deilwra eich cwrs i gyd-fynd 芒鈥檆h diddordeb, gan ddewis o amrywiaeth o fodiwlau dewisol o bob rhan o'r Ysgol Busnes.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol,聽os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136聽 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:聽 Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma鈥檙 Fagloriaeth Ryngwladol:聽derbynnir聽
- Access:聽Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:聽Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd 芒 chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:聽Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal 芒 chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael 芒鈥檙 ysgol cyfwerth 芒 lefel A/Lefel 3 a/neu diplom芒u colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).聽manylion聽
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i聽.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae鈥檔 rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr 芒 phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae鈥檔 rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae鈥檙 Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.聽
Mae鈥檔 bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd 芒; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr h欧n sy鈥檔 medru dangos fod ganddynt y gallu a鈥檙 ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr h欧n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i聽adran Astudio ym Mangor.听听