Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau’n flynyddol i fyfyrwyr uwchraddedig sy’n astudio am radd Meistr neu PhD.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ddiwedd Mehefin bob blwyddyn.
Cynigir y grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig.
Rhaid bod gan ymgeiswyr gyfeiriad parhaol yng Nghymru rywdro yn ystod y tair blynedd cyn cyflwyno cais (noder: nid yw cyfeiriad coleg neu brifysgol yng Nghymru ynddo’i hun yn ddigon).
Rhaid hefyd i bob ymgeisydd fod NAILL AI wedi ei (g)eni yng Nghymru, NEU fod ag un o’i r(h)ieni wedi eu geni yng Nghymru, NEU fod wedi treulio cyfnod o saith mlynedd neu fwy fel disgybl neu fyfyriwr mewn unrhyw sefydliad(au) addysgol yng Nghymru.
Rhoddir ystyriaeth i geisiadau uwchraddedig yn unig, gan roi rhywfaint o flaenoriaeth i waith ymchwil.
Mewn pob achos mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau sy’n cyfateb i faint y ffioedd dysgu yn unig, hyd at uchafswm o £7,000. Â
Nid yw’r Ymddiriedolaeth, ar unrhyw amod, yn ychwanegu tuag at grantiau a delir gan awdurdodau lleol a chynghorau ymchwil.
Y dyddiad cau ar gyfer cyrsiau sydd yn cychwyn yn Medi/Hydref mewn unrhyw flwyddyn (neu gyda dyddiad cychwyn hwyrach yn yr un flwyddyn academaidd) yw’r 30 Mehefin blaenorol. Mae ffurflenni cais ar gael o 1 Ebrill ymlaen mewn unrhyw flwyddyn.
Ar hyn o bryd NID yw’r Ymddiriedolaeth yn ystyried ceisiadau o’r mathau canlynol:
(i)       cyrsiau gradd gyntaf (gan gynnwys gradd ‘intercalated’ mewn meddygaeth)
(ii)      cyrsiau mewn sefydliadau nad ydynt wedi’u dilysu gan Adran Addysg y Llywodraeth
(iii) Â Â Â Â graddau uwch pan fod gradd uwch gan y myfyriwr yn barod (nid yw hyn yn cau allan
          myfyrwyr sydd yn symud o radd Meistr i Ddoethuriaeth)
(iv) Â Â Â Â Â cyrsiau hyfforddiant mewn Cyfrifeg
(v)Â Â Â Â Â cymorth preifat (e.e. i fyfyrwyr cerdd).
(vi) Â Â Â Â cyrsiau hyfforddi athrawon
(vii)Â Â Â Â cyrsiau hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol
(viii)   cyrsiau CPE yn y gyfraith (ond caniateir cyrsiau ‘Legal Practice ‘)
(ix) Â Â Â Â cyrsiau Meistr mwy na blwyddyn. Pan mae myfyriwr yn dilyn cwrs Meistr dwy flynedd yn
          llawn amser mae’r Ymddiriedolaeth yn barod i ystyried ceisiadau am yr ail flwyddyn o astudio.
Os am wybodaeth bellach neu ofyn am ffurflenni cais, cysyllter ag:
Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, 9 Stryd y Farchnad, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DL
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýpost@jamespantyfedwen.cymru neu fynd i’r wefan ar:Â