Mae disgyblaethau dadansoddeg data a dadansoddi geo-ofodol yn cefnogi amrywiaeth eang o bynciau sy'n gofyn am integreiddio data, mapiau a dadansoddi eu dynameg gofodol-amserol.
Rydym yn cymhwyso modelau, synhwyro o bell a dulliau sy'n seiliedig ar ddata i bynciau megis meintioli a lliniaru allyriadau nwyon t欧 gwydr o amaethyddiaeth, llygredd amgylcheddol, prisio amgylcheddol a hydroleg afonydd. Mae gwybodaeth synhwyro o bell yn cynnwys dulliau arsylwi'r Ddaear megis delweddau a sganwyr laser ar loerennau neu awyrennau a all fod yn ddefnyddiol i fonitro prosesau daear yn yr Anthroposen.
Mae ymchwil ar ddadansoddeg data a dadansoddiad geo-ofodol yn gorgyffwrdd 芒鈥檙 them芒u ymchwil eraill gyda chydweithrediad aml ag ymchwilwyr eraill.