Trosolwg
Dyfarnwyd 拢50,000 i鈥檙 Ganolfan DSP gan ffrwd ariannu prosiectau Pwmpio Rhwydwaith Arloesedd Cymru yng ngwanwyn 2022. Galluogodd y cyllid i鈥檙 Ganolfan DSP ddatblygu pedwar prototeip cludadwy yn seiliedig ar dechnolegau blaengar y Ganolfan a鈥檙 rhai a ddilyswyd yn ddamcaniaethol / yn arbrofol. Cafodd y pedwar prototeip eu datgelu mewn digwyddiad lansio prosiect DSP Cynllun Twf Gogledd Cymru (NWGD), i ddangos cyflawniadau technegol y Ganolfan DSP hyd yma.
Prototeipiau
Defnyddiwyd 拢40k i brynu'r cydrannau trydanol/optegol hanfodol a'r offer angenrheidiol i ddatblygu'r prototeipiau a'r systemau arddangos cyfatebol.
- Synhwyro ffibr optig wedi'i ddosbarthu (DFOS)
- Rhwydweithiau optegol diogel haen gorfforol (PLSON)
- Cymwysiadau VR/AR (XR) seiliedig ar 5G
- Cyfathrebu golau gweladwy (VLC)
Digwyddiad Lansio
Defnyddiwyd 拢10k i ariannu digwyddiad lansio prosiect DSP NWGD yn rhannol.
Cynhaliwyd digwyddiad lansio llwyddiannus yn arddangos y pedwar prototeip cludadwy ar 21 Gorffennaf 2022 gyda Phrif Weinidog Llywodraeth Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, a Gweinidog Llywodraeth y DU David T.C. Davies yn bresennol ynghyd ag ~80 o bartneriaid prosiect a rhanddeiliaid. Hefyd yn cael ei arddangos yn y digwyddiad oedd yr offer cyfalaf newydd a brynwyd gyda chyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru (Blwyddyn 1) yn ogystal 芒 gweithgareddau ymchwil blaengar y Ganolfan DSP ar draws y sbectrwm TGCh cyfan.