Ers ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ hanes balch o ddyngarwch. Nodwedd bwysig o’i sefydlu oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan ffermwyr a chwarelwyr lleol o’u cyflogau prin. Mae’r traddodiad hwn o roi yn parhau hyd heddiw ac rydym yn gofyn i chi ymuno ag alumni eraill i roi rhodd i Gronfa Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a chefnogi myfyrwyr heddiw.
Prif ddiben Cronfa Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw galluogi'r brifysgol i gyfoethogi a rhoi elfennau ychwanegol i’r profiad a gaiff ei myfyrwyr. Gallwch ddewis bennu eich rhodd o fewn tri dosbarth bras:
Cronfa’r Is-ganghellor – Mae'r cronfeydd hyn yn cefnogi blaenoriaethau pwysicaf y brifysgol a bennwyd gan gynllun strategol y brifysgol.
Cymorth i Fyfyrwyr – Mae’r gronfa hon yn darparu ysgoloriaethau, bwrsariaethau, teithiau maes, interniaethau, grantiau teithio a chymorth uniongyrchol arall i fyfyrwyr. Mae hefyd yn cefnogi mentrau sy’n gwella profiad myfyrwyr ac yn cyfrannu’n sylweddol at fywyd y campws.
Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru – Mae’r gronfa hon yn adlewyrchu ein cenhadaeth i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau yn ymwneud â’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig trwy’r brifysgol gyfan.
Os ydych yn aelod staff a hoffech ystyried gwneud cais am grant o Gronfa Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, cysylltwch a Persida Chung, Swyddog Datblygu, i drafod ar p.v.chung@bangor.ac.uk.