Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o greu cerddoriaeth ym Mangor, dan faton ein Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Joe Cooper.ÌýFelly, rydym yn gwahodd pawb sy'n dymuno cymryd rhan i gofrestru eu diddordeb fel mewn blynyddoedd blaenorol.ÌýÌý
Corws Symffoni'r Brifysgol
Os rydych yn mwynhau canu, byddwch eisiau ymuno â Chorws Symffoni Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Côr mawr SATB yw’r Corws, gydag aelodaeth sydd yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol, ynghyd â staff a’r cantorion gorau o’r gymuned leol.
Mae canu yn iachus a chynhyrfiol, ac mae’n ymarferion yn cynnig cyfle gwych i wneud cyfeillion newydd. Mae croeso i bob myfyriwr, aelod staff a graddedig diweddar, pa un a ydych wedi canu mewn côr o’r blaen neu beidio. Nid oes clyweliadau.
Ìý
Cerddorfa Symffoni'r Brifysgol
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw prif gerddorfa faint-lawn gogledd-orllewin Cymru, a’i haelodaeth yn dod o blith myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol, ynghyd ag offerynwyr gorau’r ardal. Mae’r Gerddorfa yn ymarferÌýbob nos Lun am 7.30 yn Neuadd PJ.
Côr Siambr y Brifysgol
Mae Côr Siambr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn grŵp bach o hyd at 20 o gantorion sy’n perfformio cerddoriaeth o’r Dadeni hyd at y presennol lle rhoddir cyngherddau rheolaidd ym Mangor ac mewn lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru. Cynhelir ymarferionÌýbob nos Iau am 7.30 yn Neuadd Mathias yn yr Adeilad Cerddoriaeth.
Gweler berfformiad y Côr oÌýÌýacÌýÌýyn ystod y Cyngerdd Gala yn 2019.
Ìý
Ensemblau arbenigol
Mae’r Adran Cerddoriaeth yn cynnal nifer o ensemblau arbenigol hefyd, gan gynnwys grŵp opera, ensemble cerddoriaeth gynnar, ac Ensemble Cerddoriaeth Newydd Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Os hoffech ddatgan diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw o’r ensemblau hyn, cysylltwch âÌýBethan Brown.
Y Gymdeithas Gerdd
Cymdeithas o fyfyrwyr yw’r Gymdeithas Gerdd, sy’n cynnal gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cerddorfa (ymarferion bob nos Wener am 7.30), côr (ymarferion bob nos Fawrth am 7.30), cyngherddau awr ginio a gyda’r nos, a llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae aelodaeth yn agored heb angen clyweliadau, ac mae gwahoddiad cynnes ichi ddod draw i’r ymarferion agored yn ystod yr Wythnos Groeso. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yÌý
Ensemblau eraill ar gyfer myfyrwyr
Mae cymdeithasau eraill sy’n ymgysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jas, Cerddorfa Linynnol, cymdeithas theatr gerdd (SODA), côr iaith Gymraeg (Aelwyd JMJ), y Gymdeithas Acapella, y Gymdeithas Ffilm, Cymdeithas y Werin (Cadi Ha), cymdeithas ddrama a llenyddiaeth Gymraeg (Cymdeithas John Gwilym Jones), dwy gymdeithas ddrama iaith Saesneg (BEDS a ROSTRA), y Gymdeithas Syrcas (Cirque du Soc), a chymdeithas ddawns (BU Dance) – ynghyd â llawer mwy! Am fwy o wybodaeth, ewch i wefanÌý, neu ymwelwch â stondinau’r cymdeithasau yn Serendipity.
Nodir: Dyfarnwyd Pwyntiau ProfiadÌýGwobr Cyflogadwyedd Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏÌýam gyfranogiad i’r ensembles hyn i gyd.
Cyfleoedd performio i’r cymuned lleol
Mae croeso i gantorion ymuno âÌýChorws Symffoni’r BrifysgolÌýam ffi isel. Gweler uchod am fwy o wybodaeth a dolen i’r ffurflen gais.
MaeÌýCerddorfa Gymuned Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏÌýyn cyfarfod wyth gwaith y flwyddyn ar gyfer diwrnod llawn o ymarfer cerddorfaol. Mae croeso i offerynwyr o bob safon ymuno â’r Gerddorfa. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Siop Arlein Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏÌý.
Mae croeso i’r offerynwyr lleol gorau gael clyweliad ar gyfer lle yngÌýNgherddorfa Symffoni’r BrifysgolÌý(gweler uchod).
Ìý