Teitl y prosiect:Â 'Reframing Eryri in praxis: Anticipating future needs for renewed understandings, relations and approaches to landscape in the Welsh decision-making process'
Ymchwilydd Doethurol:Â Alex Ioannou
Goruchwylir gan:Â Dr Shaun Evans a Dr Norman Dandy
Cefnogir yr ymchwil gan:Ìý°Õhe Drapers’ CompanyÂ
Mae project Alex yn fenter ar y cyd rhwng SYYC a Chanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts. Mae ei broject yn rhyngddisgyblaethol ac mewn sefyllfa i wneud cyfraniad arbennig tuag at sut y gallem fynd i'r afael ag un o'r heriau byd-eang mwyaf brys.  Mae cymaint o’r agweddau ar y materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n ein hwynebu’n ymwneud â'r tir a’r dirwedd: sut mae'n cael ei defnyddio, ei rheoli, ei ffurfio a'i gweld. Mae treftadaeth, traddodiad, diwylliant a hunaniaeth yn dylanwadu'n drwm ar berthynas ein cymdeithas â thir a thirwedd - o ran yr arferion a'r canfyddiadau hyn.
Mae'r ymchwil arfaethedig yn ceisio cymhathu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chymhleth o 'stori' hanesyddol y dirwedd yng Nghymru ers c.1760 (gan gyfeirio'n benodol at astudiaeth achos o ardal a thystiolaeth hanesyddol gysylltiedig yng Ngwynedd). Bydd y project yn defnyddio'r cyd-destun hanesyddol yn sylfaen, a bydd yn mynd ati i geisio defnyddio'r 'stori' honno i ddylanwadu (neu 'ail-lunio') ar agweddau a chanfyddiadau cyfoes tuag at dir a thirwedd, trwy ymgysylltu’n briodol a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth O wneud hynny, bydd yn hyrwyddo ymrwymiad strategol Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i'r agenda cynaliadwyedd a chysylltiadau dinesig.
Nod y project ymchwil hwn yw cysylltu’r trafodaethau cyfredol ynglÅ·n â’r newid yn y dirwedd â'r gorffennol a darparu 'fframiau' amgen i'r rhai a fu’n ein sbarduno cyhyd. Gobaith Alex yw helpu Cymru i feithrin perthynas wahanol â’i thir. Gwefan y prosiect yw:Â
°ä²â³ó´Ç±ð»å»å¾±²¹»å²¹³Ü:Ìý
'Eleftheria Square: The Legacies and Dichotomies Woven into Nicosia’s Urban Fabric', Cyprus Review 35:2 (2024), 89-111.Â
'Towards a reframing of Eryri: how historic framings of landscape influence perceptions and expectations of a Welsh national park', Architecture_MPS 26:1 (2023).Â
Alex Ioannou, ‘Research methodologies for changing landscapes and places in flux’, yn Fabian Neuhaus (gol.), , AMPS Proceedings Series 30 (Prifysgol Calgary, 28-30 Mehefin 2022), 257-67.Â
°ä²â²Ô²¹»å±ô±ð»å»å²¹³Ü:Ìý
22ain Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol Tai Hanesyddol ym Mhrifysgol Maynooth, Iwerddon (Mai 13-14, 2024)
Cynhadledd Derfynol y Rhaglen Penderfyniadau Tirwedd, Rhaglen Penderfyniadau Tirwedd yn y Gymdeithas Frenhinol, Llundain (Medi 6-7, 2023)
Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol RGS-IBG, Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Llundain (Awst/Medi 30-1, 2023)