Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Alex Ioannou

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Cefais fy magu yng Nghyprus a symud i bentref Y Felinheli yng Nghymru yn nechrau 2020.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Mae cymaint o’r agweddau ar y materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n ein hwynebu’n ymwneud â'r tir a’r dirwedd: sut mae'n cael ei defnyddio, ei rheoli, ei newid a'i fframio. Mae treftadaeth, traddodiad, diwylliant a hunaniaeth yn dylanwadu'n drwm ar berthynas ein cymdeithas â thir a thirwedd - o ran yr arferion a'r canfyddiadau hyn. Mae fy mhroject doethuriaeth yn ceisio 'Ail-fframio Eryri' trwy ddod â dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chynnil o'i 'stori' hanesyddol at ei gilydd trwy dri dull: ymchwil archifol, cwestiynu polisi a dull gweithredu cydweithredol ailadroddol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau lleol. Dechreuais fy mhroject yn 2021.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Pensaernïaeth tirwedd, Hanes tirwedd, Dulliau cydweithredol, Gwneud penderfyniadau lleol.

Llun o ymchwilydd doethurol Alex

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Datblygodd fy niddordeb hirsefydlog mewn perthynas pobl â thirweddau gyntaf yn ystod fy hyfforddiant fel Pensaer Tirwedd. Mae natur drawsddisgyblaethol astudiaethau tirwedd, ynghyd â gyrfa yn y sectorau amgylcheddol a threftadaeth wedi fy mharatoi’n berffaith i ddilyn yr ymchwil ddoethurol hon.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae gan y Sefydliad gylch gwaith eang, sy’n galluogi ac yn gwahodd pob math o ymchwil sy’n ymwneud ag ystadau Cymru. Mae hyn yn gwneud y projectau sy'n gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru mor amrywiol a chyffrous â'r ymchwilwyr sy'n eu harwain.

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Yn ystod 2023 cwblheais bymtheg o gyfweliadau gyda chydweithwyr lleol sydd â chysylltiadau cryf ag ardal fy astudiaeth achos yn Nyffryn Ogwen. Roedd fy nghyfweliadau yn gyfle gwych i gwrdd â phobl hynod ddiddorol ac angerddol, gan fy helpu hefyd i ddeall canfyddiadau o hanes lleol, newid tirwedd a dyfodol posibl yr ardal.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Fy hoff le yng Nghymru yw ar ben Gyrn Goch ym Mhen Llŷn. Mae’r ddringfa serth yn eich gwobrwyo â golygfeydd eang ar draws Eryri, Pen Llŷn ac Ynys Môn. Lle gwych am banad a chacen gri.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Ydych chi wedi clywed am y band o Gymru, Budgie? Ffurfiwyd Budgie yn 1967 a dywedir yn aml ei fod yn un o’r bandiau metel trwm cyntaf yn y Deyrnas Unedig, yn adnabyddus am eu sain tywyll, â chydig o’r blŵs wedi’i adeiladu o alawon tywyll a riffs gitâr ffyrnig. Roedd ganddyn nhw Iron Maiden fel act ategol ym 1979 a chyfeiriodd Metallica atyn nhw fel dylanwad mawr… pa mor cŵl yw hynny!

Sut gall pobl gysylltu â chi neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich project ymchwil? Gwefan fy mhroject yw: .

Cysylltwch â Alex: 

alex.ioannou@bangor.ac.uk