Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Meinir Moncrieffe

Ymchwilydd Doethurol

​O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Cefais fy magu yn Nantgwynant ac rydw i’n byw nawr yn Rhoslan, Cricieth.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Cyfleu a Chanfyddiad: Hunan-ddelweddu Syr John Wynn o Wydir. Dechreuais fy mhroject yn 2019.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Diwylliant materol modern cynnar a'i ddefnydd wrth gyfleu statws.

Ymchwilydd Doethurol Meinir mewn gwisg graddio coch ac aur

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Fe wnes i radd y Brifysgol Agored mewn Hanes Celf ac yna Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd yn y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Wrth wneud fy ngradd Meistr des i ar draws llawysgrif hynod ddiddorol a ddeilliodd o Wydir, ac arweiniodd hyn fi at wneud fy PhD gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae'r staff addysgu ym Mangor mor galonogol a hael gyda'u hamser a'u gwybodaeth. Mae carfan wych yn y Sefydliad, mae’r myfyrwyr yn gynnes ac yn gefnogol i’w gilydd, sydd wedi rhoi’r hyder i mi allu siarad yn gyhoeddus am fy ngwaith.

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Siarad â’r 'Gymdeithas Darganfod Hen Dai' am y darlun barddonol o’r tŷ yng Ngwydir. A phasio fy arholiad llafar!

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Rwyf wrth fy modd â phopeth sy'n ymwneud â hanes! Ond mae'r cyfnod modern cynnar yn arbennig gan fod amrywiaeth o ffynonellau sy'n caniatáu am ddull amlddisgyblaethol.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Eryri a Phen Llŷn, dwi’n hoff iawn o sut mae’r bobl leol yn mynd i lawer o drafferth i gadw’r chwedlau a llên gwerin yn fyw.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Popeth Tuduraidd a Stiwardaidd gan Lucy Worsley a Suzannah Lipscomb.

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Celfyddyd gain – dwi'n peintio tirluniau.