香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:

Syr John Wynn o Gwydir

Dr Meinir Moncrieffe

Teitl y prosiect:听Projection and Perception: The Self-fashioning of Sir John Wynn of Gwydir

Goruchwylir gan:听Dr Shaun Evans a Dr Euryn Roberts

Mae鈥檙 ymchwil hon yn archwilio dulliau cyfleu statws yn niwylliant Cymru yn y cyfnod modern cynnar trwy brofiad ac etifeddiaeth Syr John Wynn, Marchog a barwnig (1553-1627), a ddaeth yn bennaeth t欧 Gwydir yn 1580. Mae'r project yn ystyried sut y cafodd bri llinach hynafol y Wynniaid ei ddatblygu a'i hyrwyddo gyntaf i ffurfio 'hunaniaeth brand' cyn i Syr John ei hun ddod yn hynafiad hybarch.

Portread o Sir John Wynn

Ystyrir pum prif faes:

  1. Sut y bu i ysgrifennu hanes Cymru a hanes lleol gadarnhau llinach y teulu a dilysu eu cysylltiadau herodrol 芒 theuluoedd brenhinol a hynafol Cymreig, gan angori eu tras mewn lleoliad traddodiadol a dangos dawn gosmopolitan o ysgrifennu hynafiaethol.
  2. Ehangu llinach gref trwy briodasau amlwg, gan greu cynghreiriaid dylanwadol yn lleol ac yn y llys, tra bod cyfrannau mawr yn darparu arian parod yr oedd mawr eu hangen ar yr ystad.
  3. Arddangosfa o gyfoeth a statws trwy fwyd, gwin, tecstilau a dillad moethus amlwg.
  4. Coffau鈥檙 hynafiaid trwy henebion a mawl.
  5. Cyfleu statws a grym yng Ngwydir, sef lleoliad yr ystad lle ymestynnodd Syr John y plas presennol ac adeiladu t欧 newydd gerllaw i ragori ar yr hyn a gyflawnodd ei gyndadau.

Mae'r ymchwil yn archwilio sut y cafodd gwerthoedd traddodiadol Cymreig eu cydbwyso 芒 gofynion y llys Seisnig ac yn ystyried sut yr effeithiodd newid diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol ar ddulliau Syr John o hunan-ddelweddu. Adolygir hefyd ei enwogrwydd hanesyddol fel ymgyfreithiwr gormesol wrth i ohebiaeth bersonol ddatgelu ochr drugarog i'r tirfeddiannwr a'r cyfreithiwr; gan ddangos ei fregusrwydd fel g诺r a thad yn ceisio gwneud bywoliaeth yn ystod cyfnodau o ryfel, newyn a phla wrth ddod o hyd i鈥檞 le ym myd y Dadeni.

Newyddion Diweddaraf:听

Mae Meinir wedi gwneud sawl sgwrs yn Eglwys Sant Grwst yn Llanrwst lle mae teulu Wynniaid Gwydir yn cael eu coff谩u. Yr hydref hwn bydd hi'n gwneud sgwrs i Gymdeithas Hanes Llanrwst ac yng Nghynhadledd Archifau鈥檙 Merched ym Mangor.