Myfyrwyr israddedig a ôlraddedig - gallwch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau drwy ddebyd uniongyrchol neu gyda cherdyn credyd. Manylion llawn ar gael ar wefan yÌý Swyddfa Gyllid.
POLISI A GWEITHDREFN RHEOLI CREDYD Y NEUADDAU PRESWYL
Dyma nodi'r weithdrefn i'w dilyn ar gyfer rheoli dyledion y myfyrwyr preswyl. ÌýPolisi'r Brifysgol yw lleihau dyledion ar bob lefel gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth priodol i dalu'r ffioedd sy'n ddyledus mewn da bryd. ÌýMae'r weithdrefn yn ymwneud â holl ffioedd y neuaddau a'r taliadau preswyl ychwanegol sy'n daladwy i'r Brifysgol. Datblygwyd Polisi a Gweithdrefn Rheoli Credyd y Neuaddau Preswyl i alluogi'r Brifysgol i reoli dyledion yn effeithlon ac yn effeithiol. Ìý
Wrth roi'r weithdrefn ar waith, bydd y Brifysgol bob amser yn ceisio arfer cydymdeimlad a dealltwriaeth o amgylchiadau ariannol y myfyriwr. Ìý Er mwyn i'r Brifysgol roi'r weithdrefn ar waith gyda chydymdeimlad, rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r Brifysgol mewn da bryd os ydynt yn cael trafferthion ariannol. Dylai'r myfyrwyr hynny sy'n cael trafferth talu ffioedd a thaliadau eu llety ofyn am gymorth cyn gynted â phosibl trwy gysylltu â'r:
- Swyddfa Neuaddau - 01248 382667 neuaddau@bangor.ac.uk
- Y Swyddfa Gyllid - 01248 382055Ìýfeepayment@bangor.ac.uk
Mae cyngor a chymorth ychwanegol hefyd ar gael gan:
- Yr Uned Cymorth Ariannol, Gwasanaethau Myfyrwyr - 01248 383566 moneysupport@bangor.ac.uk
- Undeb y Myfyrwyr - 01248 388000 undeb@bangorstudents.com
Mae'r Brifysgol yn darparu gwahanol fathau o lety i'r myfyrwyr. ÌýCyn symud i'r llety, rhaid i bob myfyriwr gytuno a llofnodi telerau cytundeb preswylio. Mae'r cytundeb yn amlinellu telerau taliadau'r llety'n glir. ÌýGall y myfyrwyr dalu am ffioedd y neuadd yn llawn ymlaen llaw, neu drwy ddewis un o'r cynlluniau talu sydd ar gael trwy randaliadau cerdyn rheolaidd. ÌýCaiff y myfyrwyr hynny sy'n derbyn bwrsariaeth fisol dalu trwy gynllun talu â llaw misol; mae modd gwneud hynny yn y Swyddfa Neuaddau.Ìý
Caiff ffioedd Neuaddau Preswyl y Brifysgol eu gosod gan yr Uwch Dîm Rheoli a'u cymeradwyo yn y Grŵp Cynllunio Llety a Phwyllgor Gweithredu'r Brifysgol bob gwanwyn, ar gyfer y sesiwn academaidd ganlynol. ÌýMae'r myfyrwyr sy'n byw yn neuaddau preswyl Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ* yn cael aelodaeth o'r gampfa a'r Campws Byw ym mhris y neuaddau.
*Mae'n ddrwg gennym nad yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws Wrecsam a bod ffioedd neuaddau Wrecsam yn cael eu haddasu'n unol â hynny.
Mae dau ddewis ar gyfer talu ffioedd y neuadd: Ìý
1. Bydd eich cynllun talu yn cymryd taliadau trwy gerdyn debyd/credyd yn rheolaidd.
2. Talu ymlaen llaw am y flwyddyn gyfan.
1. TALU MEWN RHANDALIADAU TRWY GERDYN CREDYD/DEBYD YN RHEOLAIDD. ➢
- I sefydlu eich cynllun talu rhaid i chi gwblhau'r cyfarwyddyd drwy'r broses gofrestru arlein. ÌýCewch wybod pan fydd y cofrestru ar-lein ar agor.Ìý
- Mae hyn yn caniatáu i daliad gael ei gymryd yn awtomatig mewn rhandaliadau o 3, 7 (neu 12 os ydych ar gwrs Ôl-radd
- Anfonir e-bost i'ch hysbysu i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd 5 diwrnod cyn y dyddiad talu disgwyliedig. Caiff y taliadau eu cymryd yn uniongyrchol o'r cerdyn a enwyd.
- Rhaid i'r myfyriwr hysbysu'r Swyddfa Gyllid ar unwaith os bydd manylion y cerdyn yn newid.
- Rhaid i'r myfyriwr sicrhau bod digon o arian ar gael ar y cerdyn ar y dyddiad talu; bydd y taliad yn cael ei gasglu ychydig ar ôl hanner nos ar y dyddiad hwnnw. Ìý
2. TALU YMLAEN LLAW AM Y FLWYDDYN GYFAN
- Cewch wneud hynny naill ai trwy Gerdyn Debyd/Credyd neu Drosglwyddiad Banc:
Enw’r Cyfrif: Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Enw'r Banc: Grŵp Tasg Santander UK Plc
Cod didoli'r cyfrif: 09-02-22
Rhif y cyfrif: 10364019
UWB IBAN NO: GB46ABBY09022210364019
UWB SWIFT NO: ABBYGB2L
Ìýhowch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch e-bost at remittance@bangor.ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, y dyddiad a rhif y myfyriwr). Ìý
Ìý
Dylai myfyrwyr sydd yma am 1 semester yn unig dalu'n llawn wrth gyrraedd neu yn ôl y cyfarwyddiadau ar yr atodlen dalu ar wahân a anfonir atynt gyda’u cynnig.
Nid oes angen i fyfyrwyr gofal iechyd gwblhau cynllun rhandaliadau cerdyn rheolaidd, cânt dalu ffioedd y neuadd yn fisol drwy gynllun talu â llaw, i gyd-daro â'u taliadau bwrsariaeth. ÌýBydd disgwyl i unrhyw fyfyriwr gofal iechyd nad yw'n gwneud y trefniadau priodol dalu drwy daliad cerdyn rheolaidd, neu yn llawn ar gyfer y flwyddyn Ìýgyfan.
Rydym yn gweithredu ar yr egwyddor safonol o roi'r taliad a dderbynnir at y ddyled hynaf yn gyntaf. Dylai'r myfyrwyr hynny sy’n wynebu trafferthion ariannol gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau neu Swyddfa Gyllid y Brifysgol unwaith y dônt i wybod bod problem yn debygol o godi. Os cysylltwch yn gynnar efallai na fydd raid i'r Brifysgol anfon nodyn atgoffa – a gallai hynny arbed y ffi weinyddol. Po hwyaf yr oedwch cyn talu, po fwyaf fydd y ddyled, ac felly mae’n bwysig nad yw'r Myfyrwyr yn anwybyddu'r cyfrifoldeb sydd arnynt i dalu. Os bydd unrhyw fyfyriwr yn mynd i ddyled gydag unrhyw ffioedd neuadd, mi aiff y Brifysgol ati o gam 3 ymlaen i adennill y ddyled.
1. Anfonir e-bost hysbysu 5 diwrnod cyn y dyddiad talu.
2. Anfonir e-bost llwyddiant/methiant ar y dyddiad talu.
3. Os wnaiff y taliad 1af fethu, rhown gynnig arni eto mewn 5 diwrnod. Ìý
4. Os bydd yn methu eto, codir ffi taliad hwyr o £30 a bydd y cynllun yn dod i ben. Fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn talu o fewn 10 diwrnod i'r cynnig 1af, caiff y ffi o £30 ei dileu a chaiff y cynllun ei ailgychwyn.
5. Anfonir y rhestr o'r taliadau a fethodd at Neuaddau a Chymorth Ariannol. Ìý
6. Anfonir e-bost i'ch atgoffa'n derfynol i dalu o fewn 5 diwrnod gwaith.
7. Os na fydd y myfyriwr yn talu o fewn 5 diwrnod gwaith, anfonir e-bost a llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad o fewn 7 diwrnod.
8. Os bydd oedi gyda benthyciad y myfyriwr, caiff casgliad arall ei gymryd fis ar ôl y dyddiad yr oedd y rhandaliad 1af yn ddyledus. Ìý
1. Anfon e-bost i'ch hysbysu 5 diwrnod cyn y dyddiad talu.
2. Anfon e-bost llwyddiant/methiant ar y dyddiad talu.
3. Os wnaiff y taliad 1af fethu, rhown gynnig arni eto mewn 5 diwrnod.
4. Os bydd yn methu eto, codir ffi weinyddol o £30 a bydd y cynllun yn dod i ben. Fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn talu o fewn 10 diwrnod i'r cynnig 1af, caiff y ffi o £30 ei dileu a chaiff y cynllun ei ailgychwyn.
5. Anfonir y rhestr o'r taliadau a fethodd at Neuaddau a Chymorth Ariannol. Ìý
6. Anfonir e-bost i'ch atgoffa'n derfynol i dalu o fewn 5 diwrnod gwaith
7. Os na fydd y myfyriwr yn talu o fewn 5 diwrnod gwaith, anfonir e-bost ac llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad o fewn 7 diwrnod. Ìý
1. Anfonir e-bost hysbysu 5 diwrnod cyn y dyddiad talu.
2. Anfonir e-bost llwyddiant/methiant ar y dyddiad talu.
3. Os wnaiff y taliad 1af fethu, rhown gynnig arni eto mewn 5 diwrnod.
4. Os bydd yn methu eto, codir ffi taliad hwyr o £30 a daw'r cynllun i ben. Fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn talu o fewn 10 diwrnod i'r cynnig 1af, caiff y ffi o £30 ei dileu a bydd y cynllun yn ailgychwyn.
5. Anfonir y rhestr o'r taliadau a fethodd at Neuaddau a Chymorth Ariannol.
6. Anfonir e-bost i'ch atgoffa'n derfynol i dalu o fewn 5 diwrnod gwaith.
7. Os na fydd y myfyriwr yn talu o fewn 5 diwrnod gwaith, anfonir e-bost arall ac llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad o fewn 7 diwrnod. Ìý
1. Mae e-bost yn cael ei anfon 3-5 diwrnod cyn bod pob taliad yn rhoi gwybod i'r myfyriwr nad yw'r taliad yn cael ei gymryd yn awtomatig a bod angen iddynt wneud y taliad ar y dyddiad y cytunwyd arno, neu cyn y dyddiad yno.
2. Os nad yw'n talu, caiff e-bost ei anfon ar y diwrnod gwaith nesaf gan roi 5 diwrnod i'r myfyriwr wneud taliad.
3. Os bydd y myfyriwr yn methu â thalu o fewn 5 diwrnod, anfonir e-bost a llythyr a ddosbarthir â llaw yn gwahodd y myfyriwr am gyfweliad a chymhwysir taliad hwyr o £30 i'w cyfrif.
1. E-bost a anfonwyd o fewn 1 wythnos i fyfyriwr yn symud i mewn i Neuaddau yn eu hatgoffa i wneud trefniadau ar gyfer talu eu Ffioedd Neuadd o fewn 2 wythnos.
2. Bydd methu â datrys eu Ffioedd Neuadd yn arwain at anfon e-bost yn gofyn iddynt fynychu cyfarfod o fewn 7 diwrnod i drafod ymhellach. a. Bydd unrhyw benderfyniad heblaw am sefydlu cynllun talu derbyniol yn cael ei gadarnhau mewn e-bost.
3. Bydd methu â mynychu'r cyfarfod neu gadw at unrhyw gytundeb yn arwain at anfon e-bost a llythyr â llaw yn gwahodd y myfyriwr i gael cyfweliad, i'w gynnal o fewn 7 diwrnod. Codir ffi weinyddol o £30 i'w cyfrif. Ìý
Bydd yr un broses yn berthnasol fis Ionawr ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd yn hwyr neu'r myfyrwyr hynny sy'n dal i brofi trafferthion ariannol.
Gwahoddir y myfyrwyr am gyfweliad yn y Swyddfa Neuaddau gyda Chyllid a Chymorth Ariannol ar amser a dyddiad penodol. Anfonir y gwahoddiad trwy lythyr a ddosbarthir â llaw o dan ddrws eu hystafell, ac anfonir copi hefyd ar e-bost.
Os na fydd y myfyriwr yn dod i'r cyfweliad neu os na fydd yn ymateb i alwad ffôn, anfonir ebost ato/ati yn gofyn iddo/iddi ymbresenoli neu dalu ar y diwrnod canlynol. Os na fydd y myfyriwr yn cysylltu â chi ar ôl yr amser hwnnw neu yn gneud taliad, bydd Sancsiynau Neuaddau yn cael eu gweithredu.
- Atal Wi-Fi dros dro. Ìý
- Caiff y myfyriwr ei nodi'n ddyledwr ar ei gyfrif Neuaddau ac ni fydd modd gwneud ceisiadau dilynol ar gyfer Neuaddau.
- Atal aelodaeth o'r gampfa dros dro. Ìý
Ar ôl 14 diwrnod o'r sancsiynau uchod a dim cysylltiad dilynol, gofynnir i'r myfyriwr ddod am gyfweliad terfynol gyda Rheolwr Cymorth Preswyl neu'r enwebai.
Os na ddaw'r myfyriwr i'r cyfweliad terfynol neu trefnu taliad addas, caiff Hysbysiad o Hawliad Meddiant ei gyflwyno. ÌýBydd hwnnw'n rhoi 14 diwrnod i'r myfyriwr ddod o hyd i lety arall a thalu'r balans yn llawn hyd at y dyddiad ymadael. Pe bai'r myfyriwr yn talu'r balans yn llawn (dyddiad ymadael y contract meddiannaeth gwreiddiol) y pryd hynny, byddai'r contract meddiannaeth yn cael ei adfer. Ìý
Fodd bynnag, os na wnaiff y myfyriwr adael y fangre ar y dyddiad ymadael a roddwyd neu cyn hynny, gallai'r Brifysgol - yn ogystal â chymryd camau yn y llys i adennill y ddyled neu yn lle gwneud hynny - gwneud cais i'r llys am orchymyn meddiant. Bydd y Myfyriwr yn atebol am dalu costau a threuliau priodol a rhesymol y Brifysgol (gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gostau cyfreithiol, ffioedd llys, treuliau a TAW a chost yr amser rheoli) sy'n gysylltiedig â chamau o'r fath. Os bydd y Brifysgol yn cymryd camau llwyddiannus yn y llys i adennill y ddyled, cofnodir y dyfarniad yng nghofnodion y llys sirol. Mae'r asiantaethau cyfeirio credyd yn pori drwy’r cofnodion hyn, a gall unrhyw fyfyriwr a enwir ar gofrestr dyfarniadau'r llys sirol ei chael yn anodd rhentu llety yn unman arall, na chael cerdyn credyd, cerdyn siop na chontract ffôn symudol, na morgais chwaith yn y dyfodol. Ìý