Mae ystafelloedd En-suite Premiwm (14.5m²-15m²) yn cynnig profiad bywiog a chyfleus ym Mhentref Y Santes Fair. Maent yn ystafelloedd gwely sengl cyfforddus gydag ystafell ymolchi breifat. Mae pob ystafell wedi ei dodrefnu ac yn cynnwys y cyfleusterau hanfodol.
CYMRWCH DAITH RITHIOL O'R YSTAFELL HON
Archwiliwch yr ystafell hon o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i’w dechrau.
FAINT FYDD Y GOST I FYW YMA?
Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cyllidebu. Amlinellir isod y costau rhentu, hyd y cytyndeb a'r costau ychwanegol dewisol ar gyfer y math yma o lety.
Costau Rhentu a Hyd y Cytundeb
Myfyrwyr Israddedig
- Rent yr wythnos: £179
- Cyfanswm rent: £7,492.43
- Hyd y cytundeb: 42 wythnos
- Dyddiadau'r cytundeb: 21, Medi 2025 - 11, Gorffennaf 2026
Myfyrwyr Ôl-raddedig
- Rent yr wythnos: £179
- Cyfanswm rent: £9,103.43
- Hyd y cytundeb: 51 wythnos
- Dyddiadau'r cytundeb: 21, Medi 2025 - 12, Medi 2026Ìý
Myfyrwyr Israddedig
- Rent yr wythnos: £165
- Cyfanswm rent: £6,906.43
- Hyd y cytundeb: 42 wythnos
- Dyddiadau'r cytundeb: 22, Medi 2024 - 12, Gorffennaf 2025
Myfyrwyr Ôl-raddedig
- Rent yr wythnos: £165
- Cyfanswm rent: £8,391.43
- Hyd y cytundeb: 51 wythnos
- Dyddiadau'r cytundeb: 22, Medi 2024 - 13, Medi 2025Ìý
Costau Ychwanegol Dewisol
- Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
- Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
- Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad
- Tocyn parcio blynyddol: I'w gadarnhau
- Goriad blynyddol i storfa beics gyda tho: £20
- Golchdy: £2 i olchi dillad / £1 i sychu dillad
Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost am NeuaddauÌý
- Pob bil (dŵr, gwresogi, trydan)
- Wi-Fi cyflym
- Atgyweiriadau a chynnal a chadw amserol
- Yswiriant cynnwys
- Aelodaeth o'r gampfa
- Glanhau ceginau a mannau cyhoeddus yn wythnosol
Cyfleusterau
Ystafell wely yn cynnwys:
- Gwely a matres
- Cwpwrdd dillad
- Droriau
- Desg
- Lamp desg
- Cadair desg
- Silff lyfrau
- Mynediad Wi-Fi
Ystafell ymolchi en-suite yn cynnwys:
- Cawod gyda llen neu ddrws
- Basn ymolchi
- Toiled
- Drych
Cegin yn cynnwys:
- Popty a hob
- Oergell/rhewgell
- Storfa
- Tegell
- Tostiwr
- Meicrodon
- Bwrdd bwyta a chadeiriau
Offer glanhau a domestig:
- Mop a bwced
- Padell lwch a brwsh
- Hwfer
- Bwrdd smwddio
- Cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu
Cyfleusterau ym Mhentref y Santes Fair
- Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
- Diogelwch 24/7
- Mynediad cerdyn/allwedd diogel
- Barlows
- SiopÌý
- Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
- Ystafell ffitrwydd
- Ystafell gyfrifiaduron
- Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
- Wi-Fi cyflym
- Ystafelloedd cyffredin
- Ystafell sinema
- Golchdy
Ìý - Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)
Mae'r llety yma ar gael yn adeilad:
St Mary’s Quad - Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Lleoliad Pentref Y Santes Fair
Mae Pentref Y Santes Fair o fewn pellter cerdded hawdd i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol a'r dref. Ar y safle, mae caffi Barlows, ystafell ffitrwydd a siop gyfleus.
Ìý0.7 milltir o Brif Adeilad y Celfyddydau
Ìý17 munud o gerdded i Brif Adeilad y Celfyddydau
Ìý9 munud o feicio i o Brif Adeilad y CelfyddydauÌý
Ìý0.5 milltir i’r archfarchnad agosaf Ìý
Camau Nesaf
Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon ynglŷn ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn ôl yn ôl ei disgresiwn.