Mae Gwyddor Systemau Daear ac Ynni ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn uno ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol o YsgolÌýGwyddorau’r Eigion,Ìýyr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol aÌýNaturiol,Ìýa’rÌýYsgol Cyfrifiadureg a PheiriannegÌýi astudio peirianneg y systemau ynni a’u rhyngweithiau cymhleth â sfferau’r Ddaear - sef y geosffer, yr hydrosffer, yr atmosffer, y biosffer a’r cryosffer.
Rydym yn ymchwilio i'r prosesau deinamig sy'n llywio ein planed, gan gynnwys yr hinsawdd, patrymau tywydd, tirffurfiau, ecosystemau, a'u cydgysylltiad. Trwy archwilio dolenni adborth, llifau egni, ac effeithiau gweithgarwch dynol, rydym yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o gyflwr y Ddaear ddoe, heddiw, ac yfory. Yn ogystal â hynny, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu ac optimeiddio technolegau ynni, er mwyn mynd i'r afael â'r angen dybryd am ffynonellau ynni glân a chynaliadwy.
Mae ymchwilwyr yn ein thema hefyd yn archwilio ffyrdd o wella effeithlonrwydd a fforddiadwyedd systemau ynni, gan gynnwys ynni niwclear, solar a gwynt. Ar ben hynny, rydym yn dadansoddi effeithiau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol defnyddio ynni carbon isel, ac yn cynnig polisïau i hwyluso’r broses o’i fabwysiadu. Mae'r thema ymchwil hon yn chwarae rhan hanfodol wrth liniaru’r newid yn yr hinsawdd a sicrhau diogelwch ynni a thwf economaidd. Mae ein hymchwil yn llywio penderfyniadau, yn hyrwyddo cynaliadwyedd, ac yn arwain ymdrechion i liniaru heriau amgylcheddol, er budd yr holl fywyd ar y Ddaear.
Yr ymchwilwyr dan sylw
Rhestr lawn o ymchwilwyr
- Dr Margot Saher (ail-greu hinsawdd, foraminifera, lefel y môr, rhewlifiant)
- Yr Artho Simon Neill (ynni adnewyddadwy, llygredd morol (plastig))
- Dr Richard Dallison (hydroleg, newid hinsawdd, adnoddau dŵr)
- Yr Artho Yueng Djern Lenn (cefnforoedd, hinsawdd, cryosffer)
- Yr Artho Iestyn Pierce (rheolaeth ac offeryniaeth ar gyfer systemau pŵer)
- Dr Panagiotis Ritsos (delweddu gwybodaeth, dadansoddeg weledol, realiti cymysg a rhithwir, rhyngweithio dynol-cyfrifiadur)
- Dr Tim Peters (coedwigaeth, symbiosis microb planhigion, cynaliadwyedd meithrinfeydd coed)
- Peter Robins (eigioneg ffisegol, peryglon yr aber, llygredd morol)
- Dr Lynda Yorke (geomorffoleg, treftadaeth, cymunedau)
I ddilyn
I ddilyn
- Ankita Bhattacharya (aberoedd, llifogydd, dŵr daear)
- Daisy Alston (storio carbon, deinameg carbon isbriddoedd, amaethyddiaeth)
I ddilyn
Projectau allweddol
Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol.Ìý
Projectau allweddol
Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol.Ìý
Gweld ein gwaith trwy lygaid ein hymchwilwyrÌý
Ìý
Post Graduate Research Project Highlights
Our cutting-edge PGR projects are driving innovation across fields by exploring transformative ideas, advancing knowledge, and offering real-world solutions.
Newyddion diweddar a blog
Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.Ìý
Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.Ìý