Cyrsiau Ôl-radd trwy Ddysgu
Gallwch hyfforddi i addysgu MBSR neu MBCT ac ennill gradd Meistr ar yr un pryd ar ein rhaglen Meistr ran-amser sydd wedi'i chynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith. Rydych chi'n dod i Fangor bum penwythnos y flwyddyn ac yn gallu astudio o gartref weddill y flwyddyn.
Llwybr Hyfforddiant Athrawon (TTP)
Er bod y TTP yn cael ei gynnig mewn cydweithrediad â’r , bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei gyflwyno gan dîm hyfforddi Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gan ddefnyddio cwricwlwm CMRP, a byddwch yn derbyn tystysgrif Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Mae’r TTP yn llwybr hyfforddi hyblyg a blaengar a fydd yn rhoi tystysgrif cymhwysedd i chi gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i ddysgu Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR) neu Therapi Gwybyddol ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT). Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn adeiladu portffolio cynhwysfawr o ddigwyddiadau hyfforddi, profiad addysgu a myfyrdod personol ochr yn ochr â dyfnhau eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar personol. Bydd mentor yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol i chi drwy gydol eich taith ac, yn dilyn hyfforddiant cychwynnol, byddwch yn dechrau addysgu dan arweiniad goruchwyliwr sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a argymhellir. Mae'r TTP yn cymryd 3-4 blynedd i'w gwblhau os nad ydych wedi gwneud unrhyw hyfforddiant athrawon ymwybyddiaeth ofalgar cyn dechrau.
Os ydych chi'n dal yn ansicr a yw'r Meistr neu'r TTP yn addas i chi, gallwch wylio fideo YouTube sy'n esbonio'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng llwybrau hyfforddi athrawon ymwybyddiaeth ofalgar Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno, ewch i wefan hyfforddi
Cyrsiau Annibynnol
Er bod cyrsiau hyfforddi athrawon annibynnol yn cael eu cynnig mewn cydweithrediad â'r , mae'r holl gyrsiau'n cael eu cyflwyno gan dîm hyfforddi Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gan ddefnyddio'r cwricwlwm CMRP.
Mae cyrsiau hyfforddi athrawon annibynnol ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol parhaus a gellir eu cymryd ar eich cyflymder eich hun.
- Dewch i ddigwyddiadau hyfforddi sy'n addas i chi
- Mae holl ddigwyddiadau TTP ar gael i’w cymryd fel digwyddiadau ar eu pen eu hunain (cyhyd â’ch bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y digwyddiadau hynny)
- Dim asesiad ffurfiol
- Gall digwyddiadau unigol gyfrif tuag at y TTP, os dymunwch gofrestru yn ddiweddarach.
I gael gwybod mwy a gweld y calendr o ddigwyddiadau hyfforddi, ewch i wefan hyfforddi athrawon y.
Mae’r Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar yn falch o allu cynnig nifer cyfyngedig o leoedd â chymorth bwrsari i bobl sydd angen cymorth ariannol ac sy’n gweithio mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth. Sylwch fod bwrsariaethau ar gyfer gwasanaethau Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar yn unig a gallwch ddarllen mwy yma: