Mae ymchwil newydd yn datgelu y gallai鈥檙 newid yn yr hinsawdd amharu ar y berthynas fuddiol sydd rhwng dwy rywogaeth arfordirol bwysig: morwellt ac wystrys. Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y , yn dangos sut mae'r rhywogaethau鈥檔 cydweithio i dyfu a ffynnu o dan amodau normal ond mi allant ei chael hi'n anodd wrth i dymheredd y cefnfor godi ac i asidedd gynyddu.
Archwiliodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan d卯m o wyddonwyr morol rhyngwladol, y rhyngweithio rhwng morwellt ac wystrys mewn arbrawf pwrpasol. Trwy efelychu amgylchiadau cynhesach a mwy asidig y cefnforoedd, gwelsant yr effeithiau ar y ddwy rywogaeth. O dan amodau normal, canfu鈥檙 astudiaeth fod wystrys yn hybu twf y morwellt yn ddirfawr, gan gynyddu twf y dail a maint y planhigion oddeutu 30%, a bod y morwellt yn helpu鈥檙 wystrys trwy wella tyfiant cregyn. Mewn geiriau eraill, mae wystrys yn defnyddio mwy o egni i dyfu eu cregyn pan fo morwellt o鈥檜 cwmpas.
Fodd bynnag, oherwydd bod y d诺r yn gynhesach ac yn fwy asidig, mae鈥檙 berthynas rhwng y morwellt a'r wystrys yn anodd i鈥檞 rhagweld, sy鈥檔 dangos y gallai amodau'r cefnforoedd yn y dyfodol amharu ar y berthynas lesol sydd rhyngddynt. Er hynny, mae mantais amlwg i hinsawdd y cefnforoedd yn y dyfodol pan fydd y m么r yn gynhesach ac yn fwy asidig: mae鈥檙 morwellt yn gwella cyflwr cyrff yr wystrys 36%, gan wrthdroi effaith negyddol y cynhesu a鈥檙 asideiddio ar gyflwr cyrff yr wystrys.
Mae Dr Katie DuBois yn ddarlithydd ecoleg y m么r yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, ac yn gyd-awdur ar y papur yn seiliedig ar ymchwil a wnaeth yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Bowdoin, UDA. Mae hi bellach yn parhau 芒鈥檌 gyrfa academaidd ym Mangor, ac mae ar fin gwneud ymchwil pellach yn yr un maes.
Esboniodd Dr DuBois, 鈥淢ae鈥檙 astudiaeth yn amlygu pwysigrwydd rhyngweithiadau鈥檙 rhywogaethau o ran deall ymatebion ecolegol i鈥檙 newid yn yr hinsawdd. Nid effeithiau unigol y cynhesu a鈥檙 asideiddio ar y morwellt a鈥檙 wystrys yn unig sy'n bwysig, mae esblygiad y berthynas yn bwysig hefyd. Mae'r wybodaeth honno鈥檔 hanfodol i gadwraeth a rheolaeth ecosystemau鈥檙 arfordirol. O ddeall y perthnasoedd cymhleth hynny, gallwn gadw a diogelu鈥檙 ecosystemau arfordirol yn well.
鈥淢ae'r canfyddiadau鈥檔 berthnasol iawn i brojectau adfer a dyframaethu. Mae'n hanfodol ystyried sut mae newidiadau amgylcheddol yn effeithio ar ryngweithiadau鈥檙 rhywogaethau. Bydd y ddealltwriaeth hon yn helpu datblygu strategaethau i gefnogi gwytnwch a chynhyrchiant y rhywogaethau allweddol yma.鈥