Hysbyseb teledu Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Adeiladau ysblennydd y Brifysgol, y cyfleusterau trawiadol a thirweddau mawreddog y gogledd trwy lens sinematig. Mae ein hysbyseb teledu’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ymchwil o'r radd flaenaf, profiad y myfyrwyr ac addysgu trawsnewidiol.Ìý
Gwyliwch yr hysbyseb deledu isod, a sgroliwch i lawr i weld sut wnaethon ni ei greu.
Gallwch wylio'r fersiwn 90 eiliad estynedig yma
Y cysyniad
Cynhyrchwyd ein hysbyseb deledu i godi ymwybyddiaeth o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn lle arbennig, ac mae’r myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Mae ein cymwyseddau addysgu heb eu hail ac yn gefn iddynt mae ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd, ac rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau academaidd, cymdeithasol a chwaraeon, i wneud Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn un o’r llefydd gorau i astudio a byw ynddo.
Saif y Brifysgol mewn man nad oes mo’i debyg rhwng y mynydd a'r môr. Rydym ar drothwy Parc Cenedlaethol Eryri, yn agos at Safle Treftadaeth y Byd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Mae’n lle gwirioneddol unigryw i astudio, byw a gweithio ynddo – i’r myfyrwyr a’r staff, ac i fusnesau, cydweithwyr a’r gymuned ehangach fel ei gilydd.Ìý
Rydym yn gwahodd pawb i Brofi’r Hud a’r Lledrith ym Mangor.
Gwneud yr hysbyseb
Buom yn gweithio gyda chwmni cynhyrchu, Lush Films, i ddod â hud a lledrith Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn fyw. Cynhyrchwyd dwy fersiwn o'r ffilm, sef hysbyseb 30 eiliad a ddarlledwyd ar deledu daearol yng Nghymru (yn Gymraeg), HTV West a Central West (Saesneg), sy'n cynnwys dyddiadau’r diwrnodau agored sydd i ddod; a fersiwn hirach 90 eiliad i'w rhannu ar ein gwefan a'n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae myfyrwyr a staff cyfredol i’w gweld drwy gydol y ffilm, ac nid yn unig roeddem am dynnu sylw at y cyfleusterau addysgu rhagorol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, roeddem hefyd am roi sylw i’n hymchwil arloesol a’n lleoliadau syfrdanol.Ìý
Lleisiau
Nia Roberts, un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C a chymrawd anrhydeddus Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, a leisiodd yr hysbyseb deledu Gymraeg.ÌýY naturiaethwr, y fforiwr a’r cyflwynydd teledu poblogaidd, Steve Backshall, sy’n rhan o dîm addysgu Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, oedd yn lleisio’r hysbyseb Saesneg.
Effeithiau gweledol
Er mwyn dod â disgleirdeb i'r syniad o hud a lledrith, ychwanegwyd effaith goleuni symudliw at y ffilm yn yr ôl-gynhyrchu, trwy ddefnyddio effeithiau gweledol blaengar. Crewyd ffilm fer sinematig syfrdanol sy'n dangos lleoliadau ar y campws a'r cyffiniau.
Ìý
Lleoliadau
Mae lleoliadau trawiadol yr hysbyseb deledu’n cynnwys adeiladau a mannau ar y campws ym Mangor, yn ogystal â rhai o’r tirweddau dramatig sydd o fewn cyrraedd hawdd i’r ddinas.Ìý
Ìý