Mae Dr Alec Moore, darlithydd mewn cadwraeth ysglyfaethwyr mwyaf y m么r yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, wedi ennill cyllid gan UK Research and Innovation (UKRI) trwy gynllun peilot dull ymatebol newydd y cynghorau ymchwil (CRCRM). Mae project Dr Moore yn un o 36 o brojectau sy'n rhannu 拢32.4 miliwn o rownd gyntaf y cynllun, sydd wedi ei gynllunio i gefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol.
Mae'r project, dan arweiniad Dr Moore, gyda鈥檌 gyd-ymchwilwyr Jan-Geert Hiddink, Athro Bioleg y M么r a Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn integreiddio adroddiadau hanesyddol gyda gwyddor y m么r fodern fel sail i reolaeth gynaliadwy o ecosystemau鈥檙 m么r. Mae鈥檙 project yn canolbwyntio ar benwaig yr Iwerydd, rhywogaeth allweddol yn ecosystem gogledd-ddwyrain yr Iwerydd y mae鈥檙 boblogaeth wedi gostwng ers canol yr 20fed ganrif. Nod y project yw defnyddio data hanesyddol i nodi ardaloedd pwysig i silio penwaig a deall tueddiadau hirdymor silio sy鈥檔 gysylltiedig 芒 newidiadau yn yr hinsawdd.
Bydd yr ymchwil yn dadansoddi ffynonellau hanesyddol o'r 17eg ganrif tan ddechrau'r 20fed ganrif yn bennaf, gan gynnwys ysgrifau gan naturiaethwyr a theithwyr modern cynnar, archifau papurau newydd, ymholiadau gan y llywodraeth, ac atgofion pysgotwyr heddiw.
Meddai Dr Moore, "Bydd y dull rhyngddisgyblaethol hwn yn ein helpu i ddeall amgylcheddau hanesyddol y m么r a chymhwyso'r wybodaeth honno i reolaeth ecosystem gyfoes."
Mae鈥檙 cynllun peilot CRCRM, a gyflwynwyd gan UKRI, yn cefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ac arloesol sy'n herio ffiniau academaidd confensiynol. Trwy annog dulliau trawsnewidiol, nod y cynllun yw galluogi ymchwil a allai arwain at greu disgyblaethau newydd neu ddatblygiadau sylweddol yn y meysydd presennol. Lansiwyd ail rownd cyllid CRCRM, gyda 拢32.5 miliwn ar gael, y mis hwn hefyd i gefnogi projectau ymchwil rhyngddisgyblaethol eraill.
Mae hyn yn adeiladu ar gyllid blaenorol a gafodd y brifysgol yn 2021 gan gronfa Discipline Hopping for Environmental Solutions Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), a oedd yn annog academyddion i ystyried cyfleoedd cydweithio trawsddisgyblaethol. Daeth un o鈥檙 projectau a ariannwyd, dan arweiniad Alec a Shaun, 芒 gwyddonwyr amgylcheddol o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion a haneswyr o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas at ei gilydd. Trwy weithdai ac ymweliadau archifol, hyfforddodd arbenigwyr o鈥檙 Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas y gwyddonwyr i ddefnyddio data hanesyddol i fynd i'r afael 芒 heriau amgylcheddol. Gosododd y cydweithio hwn y sylfaen ar gyfer project presennol Alec a ariennir gan UKRI, gan dynnu sylw at werth integreiddio meysydd arbenigol amrywiol.
Meddai Dr Saskia Pagella, Pennaeth Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, 鈥淢ae鈥檙 cronfeydd arian bach hyn sy鈥檔 arwain at grant mwy wedi gwireddu nod NERC gyda鈥檙 cyllid hwn i feithrin y dalent ryngddisgyblaethol orau a chreu arweinwyr sydd 芒鈥檙 rhagwelediad a鈥檙 gallu i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau rhyngddisgyblaethol.鈥