Crynodeb
Mae dementia yn flaenoriaeth fyd-eang o ran iechyd y cyhoedd. Ar hyn o bryd does dim modd gwella ohono ac mae'r triniaethau meddygol sydd ar gael yn gyfyngedig. Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn arwain ymchwil ryngddisgyblaethol i ofal dementia sy’n canolbwyntio ar ymyriadau celfyddydau gweledol. 
Mae llawer o bobl â dementia a'u gofalwyr wedi elwa o gyfuniad o hyfforddiant, digwyddiadau cyhoeddus a llwyddiant y canllaw ymarferwyr ar-lein a gynhyrchwyd ar y cyd, 'Dementia & Imagination', i gyflwyno'r celfyddydau a gwasanaeth iechyd. 
Mae ymchwil dan arweiniad Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi dangos sut mae ymyriadau celfyddydol yn gwella ansawdd bywyd pobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Yn ogystal, mae ymchwil Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi arwain at well darpariaeth gwasanaeth gofal dementia, gwell canfyddiadau cyhoeddus ac wedi dylanwadu ar bolisi cyhoeddus.