Fel y mae鈥檙 pandemig SARS-CoV-2 wedi dangos, mae firysau聽pathogenig聽yn fygythiad mawr yn fyd-eang聽 i iechyd a lles pobl. Dros y degawd diwethaf, mae ymchwil ym Mangor wedi datblygu amrywiaeth o offer, technolegau a modelau dadansoddol i gadw golwg effeithiol ar firysau niweidiol yn yr amgylchedd ehangach, gan arwain at safonau diwydiant sy'n seiliedig ar risg.聽聽
Gan weithio mewn partneriaeth 芒 llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig, mae ein hoffer gwyliadwriaeth yn seiliedig ar dd诺r gwastraff wedi cael聽eu treialu a'u cyflwyno ar raddfa genedlaethol: (a) i fonitro achosion o COVID-19 mewn cymunedau cyfan, (b) darparu system rybuddio cynnar i ddiogelu isadeiledd cenedlaethol hollbwysig rhag achosion o SARS-CoV-2, (c) fel dull o gefnogi penderfyniadau i ddangos pa ardaloedd mewn dinas y dylid eu targedu i wneud profion torfol, a (ch) gwerthuso llwyddiant mesurau lliniaru COVID-19.聽