Դǻ
Mae ymchwil dan arweiniad grŵp ymchwil ynni’r cefnfor Prifysgol ϲʹ (2009-2020) wedi hybu dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant ynni llanw rhyngwladol, o safleoedd ynni llanw 'ail genhedlaeth' llai egnïol. Mae ymchwilwyr wedi nodi set unigryw o heriau a chyfleoedd yn ymwneud â safleoedd ynni llanw llai egnïol. Mae'r llwyth ar dyrbinau ar y safleoedd hyn yn caniatáu defnyddio dyfeisiau cost is ac mae mwy o ofod môr ar gael ar gyfer safleoedd ynni is o gymharu â “chanolfannau” ynni uchel, a mwy o gyfleoedd ar gyfer cysylltedd grid. Ond mae safleoedd llai egnïol yn gyffredinol mewn amgylcheddau dyfnach, mwy agored, ac felly caiff yr adnodd ei ddylanwadu gan brosesau tonnau.
Mae ymchwil dan arweiniad ϲʹ wedi cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygu modelau peirianneg rhyngweithio tonnau-llanw newydd, dylunio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf (i feintioli/modelu grymoedd llanw/tonnau anghymesur ar fodelau graddfa strwythurau tyrbinau llanw), dewis safleoedd ynni llanw ail genhedlaeth a dylunio tyrbinau llanw. Mae ymchwil ϲʹ wedi canolbwyntio sylw'r diwydiant ynni llanw ar
ddatblygu safleoedd llanw llai egnïol sy'n ategu ei gilydd o ran amseriad allbwn pŵer.