Mae’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn dod â dwy o adrannau mwyaf eithriadol sy’n gwneud orau ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ynghyd: Seicoleg, a Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae ein hymchwil, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn rhychwantu niwrowyddoniaeth wybyddol, ymyriadau clinigol a lles, perfformiad elît a ffisioleg ddynol gymhwysol, ac mae’n cael effaith sylweddol yn y byd go iawn. Yn ogystal, mae ein haddysgu sy’n seiliedig ar ymchwil yn cynnwys portffolio eang o raglenni israddedig ac ôl-radd ac yn cynnig model ‘llwybr’ clir o addysg i alluogi myfyrwyr i symud ymlaen o astudiaethau israddedig i’r cyfleoedd ôl-radd a fydd yn eu gwneud yn gystadleuol mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol (o PhD, i DClinPsy, i lu o yrfaoedd i raddedigion). Mae ein pynciau’n cael eu rhestru’n rheolaidd ymhlith y deg uchaf yn y Deyrnas Unedig yn yr Arolwg Cenedlaethol o Foddhad Myfyrwyr, ac ynghyd â’n hymchwil, mae hyn yn sicrhau profiad dysgu bywiog gydag academyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol yn eu maes arbenigol.
Mae gennym ni ymdeimlad gwych o gymuned yn yr Ysgol, gyda pholisïau drws agored, darpariaeth tiwtor brys i’n myfyrwyr, a chyfleoedd gwych am interniaethau a lleoliadau gwaith. Mae gan yr Ysgol naws gosmopolitan iawn iddi, gyda staff a myfyrwyr yn ymuno â ni o wledydd ar draws y byd, gan sicrhau bod y safbwyntiau yn ein rhaglenni yn gynrychioliadol a chynhwysol. Beth bynnag fo'ch diddordeb, bydd ein Hysgol yn cynnig amgylchedd croesawgar a chefnogaeth dda i chi.
Llun: Yr Athro Dave Richardson, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol