Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:
Group of students

Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol

Mae Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol (neu DTPs) neu Canolfannau ar gyfer Hyfforddiant Doethurol (neu CDTs) yn gynlluniau aml-sefydliadol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi hyfforddiant y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr o safon fyd-eang.

Rhestr lawn o DTP/CDT

Mae’n bleser gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n ym mis Hydref 2025 ym meysydd pwnc y llwybrau canlynol.

  • Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth
  • Seicoleg
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
  • Troseddeg a’r Gyfraith
  • Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwyddor Data, Iechyd a Lles
  • Addysg
  • Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
  • Economeg
  • Rheolaeth a Busnes
  • Cynllunio amgylcheddol

Meini Prawf Mynediad:   Ìý

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.  Ìý

Hyd yr astudiaeth:  Ìý

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).    Ìý

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.  Ìý

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:  Ìý
Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.   Ìý

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:  Ìý

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion o ran bod yn gymwys.    Ìý

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.   Ìý

´¡²õ±ð²õ³Ü: â¶Ä¯Ìý

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswy roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Sut i wneud cais:  Ìý

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11/12/24 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.   Ìý

Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:

  • Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth – bilingwgsss@bangor.ac.uk
  • Seicoleg – psychwgsss@bangor.ac.uk
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer – spexwgsss@bangor.ac.uk
  • Troseddeg a'r Gyfraith – crimwgsss@bangor.ac.uk
  • Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg - socwgsss@bangor.ac.uk
  • Gwyddor Data, Iechyd a Lles – dshwbwgsss@bangor.ac.uk
  • Addysg eduwgsss@bangor.ac.uk
  • Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol – socialworkwgsss@bangor.ac.uk
  • Economeg - econwgsss@bangor.ac.uk
  • Rheolaeth a Busnes businesswgsss@bangor.ac.uk
  • Cynllunio Amgylcheddol envirowgsss@bangor.ac.uk

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:  Ìý

  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).Ìý
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.Ìý
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)  Ìý
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad) Ìý

°ä²â±ô±ô¾±»å: â¶Ä¯Ìý

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag (£19,237 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.   Ìý

Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.   Ìý

Ìý

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Envision (DTP) yn dod â grŵp pwerus o ymchwilwyr o’r DU ynghyd â phartneriaid yn y diwydiant a sefydliadau anllywodraethol i ddarparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar genhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol i wynebu heriau newidiol. byd. Ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Aelodau:

  • Lancaster UniversityÌý
  • University of Nottingham
  • Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
  • the Centre for Ecology and Hydrology
  • British Geological Survey
  • Rothamsted Research

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 2023. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher, Ionawr 11 2023.

Prosiectau ar gael gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (Saesneg yn unig)

Ìý

Wedi’i hariannu gan NERC a BBSRC, mae Canolfan STARS ar gyfer Hyfforddiant Doethurol (CDT) yn gonsortiwm cyffrous o 8 sefydliad, sy’n cynnwys 4 prifysgol a 4 sefydliad ymchwil o bob rhan o Loegr, yr Alban, a Chymru sy’n cydweithio i gynnig hyfforddiant i fyfyrwyr PhD mewn pridd a yn cael mynediad at wyddonwyr pridd o fri rhyngwladol a chyfleusterau ymchwil yn ogystal ag elwa ar gefnogaeth cyd-fyfyrwyr o bob rhan o'r wlad;

  • Lancaster
  • Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
  • Nottingham
  • Cranfield
  • CEH
  • James Hutton Inst
  • Rothamsted
  • CEH
  • BGS

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ar Ymchwil Methodoleg Treialon rhwng y Cyngor Ymchwil Meddygol a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal

Nod Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon y Cyngor Ymchwil Meddygol / y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yw gwella iechyd trwy wella treialon. Mae ein Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol gyda’r Cyngor Ymchwil Meddygol yn cyflwyno cyfle i ymgymryd â hyfforddiant PhD mewn methodoleg treialon.

Mae projectau Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ar gael mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ystadegau, dadansoddeg data a gwybodeg, cyfrifiadureg, economeg iechyd, dulliau ansoddol, dulliau cymysg, meddygaeth glinigol a seicoleg.

Bydd myfyrwyr yn dod yn aelodau o'r Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon, gan gynnig sbectrwm ehangach o weithgareddau hyfforddi a chyfleoedd rhwydweithio y tu hwnt i'w Sefydliad Ymchwil lletyol. Anogir myfyrwyr i ymuno â gweithgorau Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon perthnasol, lle byddant yn cwrdd â myfyrwyr PhD eraill, ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac uwch aelodau o staff academaidd sy’n ymwneud â themâu ymchwil perthnasol a chyflenwol. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi ‘graidd’ strwythuredig, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi mwy penodol y gall myfyrwyr ddewis ymgymryd â nhw ar ôl ymgynghori â'u goruchwylwyr.

Ìý

Aelodau

  • Prifysgol Aberdeen
  • Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
  • Prifysgol Birmingham
  • Prifysgol Caergrawnt
  • Prifysgol Glasgow
  • Sefydliad Ymchwil Canser
  • Prifysgol Leeds
  • Prifysgol Lerpwl
  • Prifysgol Newcastle
  • Prifysgol Plymouth
  • Prifysgol Queen Mary, Llundain
  • Coleg Prifysgol Llundain

Ìý

Cyfleoedd Ysgoloriaeth PhD ar gyfer mynediad 2025

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Hydref 2025. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 13 Ionawr 2025.

Projectau sydd ar gael gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ:

Ìý

Cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr gysylltu â goruchwyliwr y project i ddysgu mwy am y project ac i drafod eu diddordebau yn yr ymchwil cyn 6 Ionawr 2025.

Mae’r ffurflen gais ar gael ar-lein yn:

Dylech lenwi’r ffurflen i gyd. Ni fydd ffurflenni anghyflawn yn cael eu hystyried. Ni fydd CVs yn cael eu derbyn ar gyfer y cynllun hwn. Nodwch eich dewis cyntaf o broject wrth wneud eich cais. Gallwch ddarparu manylion hyd at ddau broject Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ymchwil Methodoleg Treialon arall y gallai fod o ddiddordeb i chi (yn unrhyw un o’r Prifysgolion partner) yn adran B y ffurflen gais.

Rhaid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at: enquiries@methodologyhubs.mrc.ac.uk. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw hanner dydd (GMT), 13 Ionawr 2025. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.

Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC yn darparu cyfleoedd PhD 4 blynedd wedi'u hariannu'n llawn ar draws meysydd eang o ffiseg gronynnau a seryddiaeth, biolegol ac iechyd, a gwyddorau mathemategol a chyfrifiadurol.

Mae'r CDT wedi'i adeiladu ar gydweithrediadau ymchwil a hyfforddiant hirsefydlog rhwng prifysgolion Aberystwyth, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Bryste, Caerdydd ac Abertawe. Yn ogystal, mae Uwchgyfrifiadura Cymru ac Academïau Cyfrifiadura’r Brifysgol yn darparu cymorth pwrpasol trwy Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil a mynediad at gyfleusterau HPC mewn modd cydgysylltiedig.

Am fwy o wybodaeth am y ganolfan a sut i wneud cais, ewch i wefan .

Bydd y cylch recriwtio ar gyfer carfan 2023 yn dechrau yn nhymor yr hydref 2022.

Mae nifer cyfyngedig o swyddi ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys ffioedd a bwrsariaethau.

Hyfforddiant

Mae'r rhaglen yn cynnwys elfen hyfforddi sylweddol yn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys hyfforddiant seiliedig ar garfan mewn AI a dulliau cyfrifiadurol, i sefydlu sylfaen gyffredin. Mae ymgysylltu â’n wedi’i wreiddio drwyddi draw ac mae’n cynnwys lleoliad tymor byr ym Mlwyddyn 2 a lleoliad 6 mis arall ar draws Blynyddoedd 2/3. Darperir hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy trwy gyfarfodydd preswyl, yn ein cynhadledd CDT flynyddol, ac mewn cydweithrediad â Sefydliad Alan Turing. Ceir rhagor o fanylion ar y tudalennau a .

Ymchwil

Mae ein rhaglen hyfforddiant doethurol wedi’i llunio o amgylch tair thema ymchwil:

  • T1: data o gyfleusterau gwyddoniaeth mawr (ffiseg gronynnau, seryddiaeth, cosmoleg)
  • T2: gwyddorau biolegol, iechyd a chlinigol (delweddu meddygol, cofnodion iechyd electronig, biowybodeg)
  • T3: dulliau mathemategol, corfforol a chyfrifiadurol newydd (data, caledwedd, meddalwedd, algorithmau)

    Ìý

Er bod y themâu yn amrywiol fel disgyblaethau academaidd, yn ein CDT maent yn gysylltiedig trwy ddefnyddio AI, dysgu peirianyddol a dulliau cyfrifiadura uwch. Felly, mae cyfnewid gwybodaeth ar draws themâu yn chwarae rhan hanfodol trwy hyfforddiant carfan, goruchwyliaeth ar y cyd, rhyngweithio rhwng cymheiriaid a mentora myfyrwyr. Mae prosiectau ymchwil wedi'u gwreiddio o fewn un o'r themâu, gyda chefnogaeth oruchwyliol ar draws themâu, i ddatblygu synergeddau newydd. Ceir rhagor o fanylion ar y dudalen .

Swyddi PhD a ariennir yn llawn

Mae swyddi PhD a ariennir yn llawn ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb cryf a dawn mewn gwyddor gyfrifiadol ac yn un o'n themâu ymchwil. Mae'r swyddi yn cael eu hariannu am 4 blynedd, gan gynnwys y lleoliadau gyda phartneriaid allanol. Mae cyllid sylweddol ar gael ar gyfer hyfforddiant, cymorth gweithdai a chynadleddau, yn ogystal ag ar gyfer gliniadur ac adnoddau cyfrifiadurol eraill. Bydd y CDT yn recriwtio 5 carfan, gyda lleiafswm o 11 myfyriwr PhD fesul cohort. Mae'r wedi dechrau ym mis Hydref 2019, 2020, 2021 a 2022 yn y drefn honno. Am fanylion ar sut i wneud cais, gweler y dudalen .

Mae’r Nuclear Energy Futures CDT yn ganolfan a ariennir gan yr EPSRC ar gyfer hyfforddiant ôl-raddedig, sy’n dod â myfyrwyr PhD o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain a’r Brifysgol Agored ynghyd.

Mae CDT Dyfodol Ynni Niwclear yn cyfuno ymchwil ac addysgu arloesol, arweiniad gan arbenigwyr academaidd a diwydiant ac amgylchedd cefnogol i'ch helpu i wneud dyfodol ynni gwell.

*Cyhoeddwyd y EPSRC CDTs yn Chwefror 2019

Cyfleoedd pellach

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant Marie Skłodowska-Curie Rhif 956124.

**(Mae ceisiadau ar gyfer 2021 bellach wedi cau)

Ìý

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gyfanswm poblogaeth o 380,000 ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dwy Efrydiaeth PhD wedi'i hariannu mewn Economeg Iechyd Cyhoeddus yn CHEME, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.