Gwastraff nad yw’n bosib ei ailgylchu (caeadau du) yn y Brifysgol
Oherwydd bod y Brifysgol yn gweithio tuag at beidio ag anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi, mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu wedi bod yn mynd i Gyfleuster Adfer Ynni yn Sir y Fflint o'r enw Parc Adfer ers mis Awst 2019. Mae hyn yn golygu bod popeth nad ydym yn ei ailgylchu yn y Brifysgol yn cael ei losgi i wneud ynni, tra bod metel gwerthfawr hefyd yn cael ei adennill yn ystod y broses a'i ailgylchu'n wedyn.
Mae'r biniau du ledled y campws ar gyfer gwastraff sy’n amhosib i’w ailgylchu. Caiff y deunyddiau canlynol ei dderbyn yn y bin du: deunydd lapio a ffilm blastig, pecynnau creision, deunydd lapio melys/siocled/bisgedi, deunydd lapio swigod, hancesi papur gwlyb, cadachau gwlyb, cyllyll a ffyrc plastig/pren, gwellt, sachets, cwpanau coffi, bagiau plastig, masgiau, menig defnydd un-tro ac unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu.
Sylwer, os yw'r geiriau “pydradwy/compostadwy” ar eitemau fel gwydr yfed, cwpan goffi, cyllyll a ffyrc neu wellt, bydd angen iddynt fynd i'r bin du.
Lawrlwythwch y poster methu ailgylchu yma
Cynllun Ailgylchu Cwpanau Coffi
Wnaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wrthi’n lansio cynllun ailgylchu cwpanau coffi yn Chwefror 2022. Er yn amlwg, y byddai’n well gennym pe bai pawb yn defnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer eu diodydd ‘wrth fynd’, rydym yn gwybod nad yw hyn bob amser yn bosib. Rydym felly’n ymuno â chwmni lleol – Humphrey’s Waste & Recycling (sydd hefyd yn casglu ein plastigion o labordai) i ailgylchu’r cwpanau un-defnydd arferol (cwpanau papur wedi’i leinio a phlastig) a ddefnyddiwn ar draws y campws. Mae biniau wedi eu lleoli yn Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Caffi Teras, Prif Lyfrgell, Bar Uno, Barlows a Chanolfan Brailsford.
Rydym hefyd yn edrych ar ailgylchu pethau sy'n anoddach i'w hailgylchu fel ffilm a deunydd lapio, ond mae'n debyg y cymer fwy o amser oherwydd bod angen i ni fod yn siŵr eu bod yn cael eu hailgylchu'n gynnyrch ar ddiwedd eu hoes.
Os hoffech wybod mwy am ein safbwynt ar blastig a mentrau parhaus, ewch i'r dudalen ganlynol.