Rheoli Carbon
Y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws sy'n gyfrifol am yr ystâd adeiledig, gyda'r Dirprwy Is-ganghellor yn arwain y Brifysgol gyda'i chynllun lleihau carbon a chyflawni dyfodol sero-net. Mae'r Grŵp Gweithredu Cynaliadwyedd, a gadeirir gan y Dirprwy Is-ganghellor yn monitro Cynlluniau a Thargedau Carbon yn flynyddol.
Fel Prifysgol, rydym yn deall bod ein defnydd o ynni sy'n deillio o danwydd ffosil yn cyfrannu at newid hinsawdd fyd-eang. Yn 2019, datganodd y Brifysgol Argyfwng Hinsawdd ac yn 2020 cymeradwyodd darged i gyrraedd Cwmpas 1 a 2 carbon net-sero erbyn 2030, a dileu unrhyw wrthbwyso carbon cwmpas 1 a 2 erbyn 2050. Ein cyfradd allyriadau sylfaenol cwmpas 1 a 2 yn 2005 oedd 13,850 tunnell o CO2e, ac rydym eisoes wedi cyflawni gostyngiad sylweddol yn y defnydd o kWh ynni, i lawr 43.9% fesul m2 yn 2022/23.
Rydym yn buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn lleihau allyriadau carbon, gyda chyllideb flynyddol benodol o 5% (tua £120,000) o’n biliau ynni wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau a mentrau penodol bob blwyddyn, ar gyfer eitemau nad ydynt yn cael sylw drwy’r gyllideb cynnal a chadw ar gyfer amnewid asedau oherwydd traul arferol. Rhwng 2018 a 2019, buddsoddodd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ Â£2.5 miliwn mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni fel rhan o gynllun ReFit Cymru Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd y cynllun yn lleihau defnydd ynni'r Brifysgol oddeutu 12%. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Astudiaeth Achos ReFit.
Fel rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mae’r Brifysgol, mewn partneriaeth ag Undeb Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac UMCB, wedi gosod targed iddi’i hun i leihau ei hallyriadau carbon yn sylweddol erbyn y flwyddyn 2025. Darllenwch fwy am ein hymgyrch 25 erbyn 25.
Mae ein Hadroddiad Amgylchedd Blynyddol, sy'n rhan o System Rheoli Amgylcheddol y Brifysgol, yn cynnwys gwybodaeth am ein hallyriadau carbon blynyddol. Mae'r adroddiadau hyn i gyd ar gael ar-lein.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22, cyfrifwyd bod allyriadau carbon Cwmpas 1 a 2 y Brifysgol yn 6,749.2 tunnell CO2e*. Mae hwn yn ostyngiad o 28.9% mewn termau llwyr, o'i gymharu â 2018/19.
Yn y tudalennau hyn byddwn yn rhoi gwybodaeth, fel y bydd yn dod ar gael, am ein gwaith rheoli a lleihai carbon. Rydym yn croesawu sylwadau, awgrymiadau a barn a gellir eu hanfon drwy e-bost at .
Byddem yn croesawu sylwadau, awgrymiadau a barn staff a myfyrwyr ar ein cynlluniau ar gyfer gweithio tuag at leihau allyriadau carbon, anfonwch e-bost at environment@bangor.ac.uk i gysylltu â ni. Rydym hefyd ar hyn o bryd yn datblygu cyfleoedd interniaeth myfyrwyr ar gyfer y blwyddyn academaidd, er mwyn datblygu rhai prosiectau lleihau carbon.
Strategaethau
Mae'r dogfennau a ganlyn yn manylu ar yr egwyddorion a'r cynlluniau strategol ar gyfer cyflawni ôl troed carbon sero-net.
Allyriadau Carbon o Lety Preswyl
Mae'r Brifysgol yn gallu cyfrifo allyriadau carbon a briodolir i'n llety mewnol a'n holl lety a gontractir yn allanol.Cliciwch yma am manylion pellach.
* CO2e: Cyfwerth â Charbon Deuocsid. .