Ailddefnyddio yn y Brifysgol
British Heart Foundation Cymru (BHF) a'r Neuaddau Preswyl
British Heart Foundation Cymru yw partner ailddefnyddio Neuaddau Preswyl Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Buom yn gweithio gyda BHF ers rhai blynyddoedd i gynyddu rhoddion ac eitemau i’w hailddefnyddio, a chefnogi elusen sy'n gweithio'n ddyfal i wella iechyd y genedl.
Mae dau fanc rhoddion parhaol ym Mhentref Myfyrwyr Ffriddoedd ac un banc ym Mhentref Myfyrwyr y Santes Fair, sydd yno drwy gydol y flwydd lle gall myfyrwyr roi dillad, manion bethau, DVDau, CDau, llyfrau ac ati nad oes arnynt eu heisiau yn. Mae ‘Ymgyrch Gormod i’w Bacio' sy'n digwydd ar ddiwedd y tymor, yn hyrwyddo ailddefnyddio ac yn annog myfyrwyr i roi eu heiddo di-angen i’r elusen yn hytrach nag yn y bin. Dyna yw nôd 'Ymgyrch Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ diwedd y tymor hefyd a’r gobaith yw y byddwn yn gallu ymestyn yr ymgyrch hon i'r gymuned yn y dyfodol.
Mae BHF hefyd yn gweithio gyda'r Brifysgol ar ymgyrchoedd a digwyddiadau amrywiol fel ‘Wythnos Am Wastraff’, ‘O'r Neuaddau i'r Cartref’, ac ‘Ymgyrch Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ diwedd tymor. Trefnir sesiynau hyfforddi adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR) hefyd gan BHF a Campws Byw. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim i'r myfyrwyr.
Mae Adroddiad ‘Gormod i’w Bacio’ 2018 Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a BHF ar gael yma.
Lug a Mug, Ail-lenwi ac Arlwyo
Mae'r Tîm Arlwyo - Bwyta Yfed Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mygiau coffi, poteli dŵr a chodennau dŵr sy’n bosib eu hailddefnyddio ac mae brand Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ arnynt., tra bod y Brifysgol hefyd yn 'Brifysgol Ail-lenwi'. Mae hyn yn golygu y gallwch lenwi eich potel ddŵr dro ar ôl tro yn y mannau arlwyo sydd ar y campws.Mi allwch chi brynu'r Mygiau Coffi, y Poteli Dŵr a'r Codennau Dŵr yn y rhan fwyaf o'n mannau arlwyo. Os ydych yn defnyddio eich cwpan cadw eich hunain, cewch eich diod boeth am ostyngiad.
Rhoi Gwerslyfrau i’r Llyfrgell
Mae Gorsaf Roddion (troli) ar gyfer gwerslyfrau nad oes eu hangen mwyach y Prif Llyfrgell. Rydym yn annog myfyrwyr i adael unrhyw werslyfrau nad ydyn nhw eu hangen mwyach ar y troli, a’u cyfnewid am unrhyw lyfrau sydd eu hangen arnynt. Gall myfyrwyr hefyd adael hysbysiadau ar y bwrdd y tu ôl i'r troli, os ydynt am werthu neu brynu gwerslyfrau.