Cynlluniau Beicio - Cwestiynau ac Atebion
Beth yw cynllun Beicio i’r Gwaith?
Sut mae’n gweithio?
Alla’i ddewis unrhyw feic?
Pa wybodaeth sydd arna’i ei hangen i wneud y cais?
Faint o weithiau’r wythnos sydd raid i mi ddefnyddio fy meic ar gyfer y gwaith?
A effeithir ar fy mhensiwn a’m Budd-daliadau Gwladol eraill?
Hoffwn i ymuno - beth sy’n rhaid i mi ei wneud?
O'r cam gwneud cais, pa mor hir fydd yn ei gymryd i mi dderbyn fy meic?
Beth sy’n digwydd os caiff y beic ei ddwyn cyn diwedd y cytundeb?
A oes angen i mi gynnal a chadw’r beic fy hun?
Beth fydd yn digwydd os caf i ddamwain; ydw i wedi fy yswirio?
Oes raid i mi wisgo helmed?
A oes yna gawodydd y galla’i eu defnyddio yn y gwaith?
A ddylwn i gael gwasanaeth yn rheolaidd i’m beic?
Beth sy’n digwydd os ydw i’n mynd ar absenoldeb di-dâl?
Beth sy’n digwydd os byddaf yn gadael fy ngwaith cyn i mi orffen talu am fy meic?
A fydd cycle2work yn effeithio ar fy Nghredydau Treth?
Beth yw manteision cymryd rhan yn y cynllun?
Pwy sy’n gymwys?
Pa werth yw’r beic y galla’i ei ddewis?
Alla i ddefnyddio’r cynllun i gael beic gwell ar gyfer un o’m teulu, partner neu ffrind?
Alla i wneud cais am fwy nag un beic?
Beth sy’n cael eu dosbarthu fel ategion ac offer?
Hoffwn i brynu beic sy’n costio mwy na £3,000, alla’i ychwanegu at y gwerth fy hun?
Ai fi fydd biau’r beic ar unwaith?
Beth sy’n digwydd os nad ydw i eisiau cadw’r beic ar ddiwedd y cytundeb?
Beth yw trefniant aberthu cyflog, a sut caiff yr arbedion eu gwneud?
Beth yw cynllun Beicio i’r Gwaith?
Mae cycle2work yn gynlluniau a gymeradwyir gan y llywodraeth sy’n eich galluogi i logi beic ac offer diogelwch gan eich cyflogwr er mwyn teithio i’r gwaith ac oddi yno, ac i’w ddefnyddio yn ystod y penwythnos a gyda’r nos. Gellwch archebu’ch beic gan rhai adwerthwr lleol sy’n cymryd rhan yn y cynllun neu o unrhyw siop Halfords. Bydd y beic y byddwch yn ei logi’n cael ei ddarparu hyd at 42% yn llai na’r gost arferol y byddech yn ei dalu, a all olygu arbed hyd at £420*.
Sut mae’n gweithio?
Gellwch ddewis beic gwerth hyd at £3000 o restr o adwerthwyr beiciau lleol a roddir i chi, neu o siop Halfords. Mae’r gwerth yn cael ei wasgaru dros gyfnod o 12 mis. Gelwir hyn yn gyffredin yn aberthu cyflog, neu’n gynllun cyfnewid cyflog, lle mae gweithiwr yn ildio’r hawl i dderbyn rhan o’u taliad arian parod sy’n ddyledus dan eu contract cyflogaeth. Rydych chi’n cytuno gyda’ch cyflogwr y bydd taliad yn cael ei dynnu bob mis o’ch cyflog gros yn gyfnewid am ddefnyddio’r beic a’r offer diogelwch yr ydych yn eu defnyddio ar gyfer teithio i’r gwaith ac oddi yno. Ni fydd Treth nac Yswiriant Gwladol yn cael ei godi ar yr elfen hon o’r cyflog, gan wneud hwn yn fantais di-dreth.
Alla’i ddewis unrhyw feic?
Cyhyd â bod y siop y dewiswch ymweld â hi naill ai’n stocio’r beic yr ydych ei eisiau, neu y gellwch ei archebu, yna nid ydych wedi’ch cyfyngu i unrhyw wneuthuriad neu fodel penodol, felly gellwch ddewis y beic gorau sy’n addas ar gyfer eich anghenion a’ch cyllideb. Gellwch hefyd archebu offer yn unig, ond mae’n rhaid gwario o leiaf £100 ar yr offer.
Pa wybodaeth sydd arna’i ei hangen i wneud y cais?
Nid ydych yn nodi beic ar y cam gwneud cais; bydd arnoch angen cael beic dan sylw at ddibenion gwerth y Llythyr Casglu sydd ei angen arnoch, sef y swm y hoffwch aberthu.
Faint o weithiau’r wythnos sydd raid i mi ddefnyddio fy meic ar gyfer y gwaith?
Mae’r beic a logir drwy’r cynllun yn cael ei roi ar yr amod eich bod yn bwriadu gwneud o leiaf 50% o’ch teithiau neu ran o’r teithiau i’r gwaith gan ddefnyddio’r beic. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i chi nodi pa ddyddiau/misoedd o’r flwyddyn y byddwch yn gwneud hyn na chofnodi teithiau. N.B. gellwch chi hefyd ddefnyddio’ch beic ar gyfer hamdden ac ar benwythnosau a thra’r ydych ar wyliau.
A effeithir ar fy mhensiwn a’m Budd-daliadau Gwladol eraill?
Bydd cynlluniau pensiwn yn parhau i gyfrifo’ch cyfraniadau pensiwn ar eich cyflog gros gwreiddiol. Mae’r effeithiau ar yr S2P (SERPS gynt) yn debygol o fod yn fychan iawn (cysylltwch a Swyddog Pensiynau y Prifysgol os oes arnoch angen rhagor o gyngor). Eto, mae’n annhebygol yr effeithir ar fudd-daliadau eraill fel tâl salwch statudol a lwfans ceisio gwaith.
Hoffwn i ymuno - beth sy’n rhaid i mi ei wneud?
Yn gyntaf, holwch pa siop feiciau leol neu siop Halfords sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Yna ewch i’r siop a dewiswch eich pecyn delfrydol. I wneud cais, ffoniwch 0845 050 2174 neu dilynwch y . Dewiswch cycle2work drwy’r wefan Sodexho – rhoddir gwybod manylion hyn i chi gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Ar ôl i Halfords dderbyn eich cais a’ch bod chi wedi cael eich cymeradwyo gan yr adran Adnoddau Dynol, bydd llythyr yn nodi’r gwerth yr ydych wedi gofyn amdano (llythyr casglu) yn cael ei anfon atoch drwy e-bost a rhoddwyd wrth gofrestru. . Rydych chi wedyn yn mynd â hwn gyda chi i’ch siop leol neu i Halfords i nôl eich beic a’r offer diogelwch.
O'r cam gwneud cais, pa mor hir fydd yn ei gymryd i mi dderbyn fy meic?
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ei dwrn yn ystod y ffenest penodol. O’r dyddiad y bydd Adnoddau Dynol yn cymeradwyo'r cais, bydd eich llythyr casglu atoch o fewn 2 - 5 diwrnod gwaith. Ar ôl ei dderbyn, byddwch chi wedyn yn gallu nôl eich beic.
Beth sy’n digwydd os caiff y beic ei ddwyn cyn diwedd y cytundeb?
Mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud trefniadau priodol i ddiogelu’ch beic gan mai chi sy’n gyfrifol am y beic drwy’r amser yn ystod y cyfnod llogi. Gellwch gymryd polisi arbenigol, ond mae’n aml yn haws ychwanegu’r beic at eich polisi tÅ· arferol. Os caiff y beic ei ddwyn, bydd eich cyflogwr yn parhau i dynnu’r gwerth misol o’ch cyflog hyd at ddiwedd y cytundeb.
A oes angen i mi gynnal a chadw’r beic fy hun?
Chi sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r beic ar gyfer teithio i’r gwaith ac oddi yno yn ogystal â’ch defnydd preifat eich hun. Bydd eich siop leol neu Halfords yn gallu’ch cynghori ynghylch y gwasanaethu angenrheidiol, gan ddibynnu ar sut y defnyddiwch eich beic.
Beth fydd yn digwydd os caf i ddamwain; ydw i wedi fy yswirio?
Nac ydych, nid yw’r cynllun yn darparu yswiriant anaf personol ac nid yw eich beic wedi’i yswirio ar gyfer difrod damweiniol. Os ydych chi’n dymuno cael yswiriant, dylid trefnu hyn ar wahân.
Oes raid i mi wisgo helmed?
Nid oes raid i chi wisgo helmed yn ôl y gyfraith, ond mae’n cael ei argymell, ynghyd â gwisgo dillad hawdd eu gweld a i chi sicrhau eich fod yn ddiogel wrth seiclo.
A oes yna gawodydd y galla’i eu defnyddio yn y gwaith?
Gall pob aelod staff ddefnyddio cyfleusterau cawodydd yn Canolfan Brailsford. Hefyd, mae yna nifer o gawodydd staff wedi’u lleoli mewn adeiladau academaidd ar draws yr ystâd. Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau cawodydd, ewch i'r map google gan
A ddylwn i gael gwasanaeth yn rheolaidd i’m beic?
Mae hynny’n cael ei argymell yn bendant. Bydd gwasanaeth blynyddol, fel rheol ddechrau’r gwanwyn, yn sicrhau bod eich breciau’n gweithio ac y byddant yn para’r tymor, ac edrychir ar holl gydrannau’r beic i helpu i sicrhau eich bod yn mwynhau beicio didrafferth.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n mynd ar absenoldeb di-dâl?
Yn ystod absenoldeb di-dâl a gymeradwyir fel absenoldeb mamolaeth estynedig, neu seibiant mewn gyrfa, mae’n debygol y caiff y cytundeb llogi ei ohirio gan eich cyflogwr nes i chi ddychwelyd i’r gwaith, ac y bydd tâl llawn yn ailddechrau.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn gadael fy ngwaith cyn i mi orffen talu am fy meic?
Dan delerau’r cytundeb llogi byddwch yn cytuno i dalu’r holl arian sy’n ddyledus cyn i chi adael. Caiff y gweddill sy’n ddyledus ei dynnu o’ch taliad cyflog net terfynol.
A fydd cycle2work yn effeithio ar fy Nghredydau Treth?
Bydd y rhan fwyaf o staff yn cael budd o ymuno â’r cynllun. Mae’r cyngor cyfredol yn awgrymu bod cynlluniau beicio’n annhebygol o effeithio ar Gredydau Treth Plant. Os ydych chi’n derbyn Credydau Treth Gweithio oherwydd incwm cartref is, yna efallai y bydd hyn yn dadwneud unrhyw fudd a gewch o’r cynllun. Gan fod amgylchiadau pawb yn wahanol, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Chyllid y Wlad ar 0845 300 3900 os ydych chi’n ansicr.
Beth yw manteision cymryd rhan yn y cynllun?
- Gellwch arbed hyd at 42% mewn Treth ac Yswiriant Gwladol.
- Rydych chi’n talu bob mis ac felly’n gwasgaru’r gost.
- Gellwch ddewis o unrhyw wneuthuriad neu fodel sydd ar gael o amrywiaeth o siopau beiciau lleol neu siopau Halfords.
- Gellwch wella’ch iechyd a’ch ffitrwydd ynghyd â lleihau’ch ôl troed carbon.
Pwy sy’n gymwys?
Mae cycleplus a cycle2work wedi’u rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth. Er mwyn derbyn y buddion Treth o ganlyniad i drefniant aberthu cyflog, bydd arnoch angen bod yn drethdalwr o Brydain, a all fanteisio ar effeithlonrwydd Treth y cynllun. Mae’n rhaid i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ cynnig y cynllun i bawb, ond gyda’r hawl i droi lawr cais ble mae hynny yn addas. Yn amlwg bydd rheswm yn cael ei rhoi i’r aelod o staff os di hynny yn digwydd.
Pa werth yw’r beic y galla’i ei ddewis?
Gellwch ddewis cymryd rhwng £100 a £3000. Wrth benderfynu ar feic, mae’n bwysig ystyried yn ofalus y swm y gellwch ei fforddio a’r math o feic sy’n addas ar gyfer eich anghenion orau. Mae cyfrifiannell ar gael i chi gyfrifo’r didyniadau misol a fyddai’n cael eu gwneud. Ar ôl i chi ddewis eich gwerth, llenwi’r cytundeb llogi a derbyn eich Llythyr Casglu, ni fyddwch yn gallu cynyddu na lleihau’r swm yr ydych wedi’i ddewis. Ar ôl i chi ddewis eich gwerth, llenwi’r cytundeb llogi a derbyn eich Llythyr Casglu, ni fyddwch yn gallu cynyddu na lleihau’r swm yr ydych wedi’i ddewis.
Alla i ddefnyddio’r cynllun i gael beic gwell ar gyfer un o’m teulu, partner neu ffrind?
Na – chi sydd i ddefnyddio’r beic, ac yn bennaf at ddiben teithio i’r gwaith. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r beic yn ystod amser hamdden, felly gellwch ddefnyddio’r beic yn eich amser rhydd i feicio gyda ffrindiau a theulu.
Alla i wneud cais am fwy nag un beic?
Gellwch wneud cais am uchafswm o 2, cyhyd â bod cyfanswm gwerth y Llythyr Casglu o dan £3000. Rhaid defnyddio’r ddau feic ar gyfer teithio i’r gwaith ac oddi yno o leiaf 50% o’r amser o hyd.
Beth sy’n cael eu dosbarthu fel ategion ac offer?
Mae’r rhain yn cael eu dosbarthu fel addas cyhyd â’u bod yn cynorthwyo’r beiciwr yn nhermau naill ai diogelwch neu gyfforddusrwydd. Gall y cyfryw ategion gynnwys helmedau, golau, cloeon beiciau ac ati. Mae’r cynllun yn gadael i chi brynu’r offer hyn yn unig, does dim rhaid prynu beic, ond mae’n rhaid gwario swm o leiaf £100.
Hoffwn i brynu beic sy’n costio mwy na £3000, alla’i ychwanegu at y gwerth fy hun?
Na, nid yw’r cynllun yn caniatáu ar gyfer y cyfryw ychwanegiad.
Ai fi fydd biau’r beic ar unwaith?
Y Prifysgol fydd yn berchen ar y beic a’r nwyddau am hyd y cytundeb o 12 mis. Ar ddiwedd y cyfnod llogi, y dewis y mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ei ffafrio ar hyn o bryd yw ymestyn benthyciad y beic i’w gweithwyr am 5 mlynedd arall (er na fyddai unrhyw daliadau’n cael eu gwneud gan y gweithiwr ar ôl y 12 mis). Os bydd y gweithiwr yn gadael ei waith cyflogedig â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn y cyfnod 5 mlynedd estynedig hwn, edrychwch ar y matrics isod i gael gwybod am drosglwyddo perchnogaeth ar y cyfnod hwnnw, a’r swm fyddai’n daladwy gan y gweithiwr.
Oedran y beic | Pris gwreiddiol y beic yn llai na £500 | Pris gwreiddiol £500+ |
---|---|---|
Blwyddyn | ||
18 mis | ||
2 flynedd | ||
3 blynedd | ||
4 blynedd | ||
5 mlynedd | ||
6 mlynedd a hÅ·n |
Beth sy’n digwydd os nad ydw i eisiau cadw’r beic ar ddiwedd y cytundeb?
Os ydych chi’n dewis dod yn berchennog y nwyddau, efallai y rhoddir cyfle i chi wneud hyn am werth teg y farchnad. Nid yw’r swm hwn yn ddi-dreth a chodir Yswiriant Gwladol arno. Os dewiswch beidio â phrynu’r beic, bydd angen i chi ei ddychwelyd yn ôl i'r siop Halfords agosaf atoch. . Ni ellir nodi gwerth teg y farchnad yn benodol cyn nac yn ystod y cynllun, oherwydd gellid ystyried hyn yn fath o fantais ac nid yw pryniant drwy logi’n gwarantu hepgor rhag talu treth.
Beth yw trefniant aberthu cyflog, a sut caiff yr arbedion eu gwneud?
Yn ei hanfod, golyga Aberthu Cyflog neu Gyfnewid Cyflog eich bod chi wedi cytuno gyda’ch cyflogwr i gyfnewid cyfran o’ch cyflog yn gyfnewid am ryw fath o fantais heb fod yn un ariannol, yn yr achos hwn, llogi beic.
*arbedion wedi’u seilio ar dalwr treth cyfradd uwch