Gwyliau Blynyddol ac Oriau Gwaith
Gwyliau Blynyddol
Mae gan staff hawl i 27 diwrnod gwaith gyda’r unigolyn i ddewis y dyddiadau, yn amodol ar gymeradwyaeth Pennaeth yr Adran, na fydd yn gwrthod caniatâd yn afresymol.
Mae’r flwyddyn wyliau arferol yn mynd o 1 Awst i 31 Gorffennaf.
Gwyliau Cyhoeddus
Fel arfer, mae yna 8 gŵyl gyhoeddus:
- Gŵyl Banc yr Haf
- Dydd Nadolig
- Gŵyl San Steffan
- Dydd Calan
- Dydd Gwener y Groglith
- Dydd Llun y Pasg
- Gŵyl Banc dechrau mis Mai
- Gwyl Banc y Gwanwy
Gwyliau Arferol 2023/2024
Mae 9 diwrnod o wyliau arferol fel a ganlyn yn 2023/2024:
6 diwrnod dros y Nadolig – 21*, 22, 27, 28, 29 Rhagfyr a 2 Ionawr 2024*.
Mae * yn 2 ddiwrnod o wyliau arferol ychwanegol a ddyfernir gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol am y flwyddyn wyliau hon yn unig
Bydd y Brifysgol yn cau ddydd Mercher 20 Rhagfyr 2023 a bydd yn ailagor ar 3 Ionawr 2024
- Y dydd Iau cyn dydd Gwener y Groglith - 28 Mawrth 2024
- Y dydd Mawrth ar ôl dydd Llun y Pasg - 2 Ebrill 2024
Gwyliau Arferol 2024/2025
Mae 7 diwrnod o wyliau arferol fel a ganlyn yn 2024/2025:
5 diwrnod dros y Nadolig – 23, 24, 27, 30, 31 Rhagfyr
Bydd y Brifysgol yn cau ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2024 a bydd yn ailagor ddydd Llun 6ed Ionawr 2025
- Y dydd Iau cyn dydd Gwener y Groglith - 17 Ebrill 2025
- Y dydd Mawrth ar ôl dydd Llun y Pasg - 22 Ebrill 2025
Gwyliau Arferol 2025/2026
Mae 7 diwrnod o wyliau arferol fel a ganlyn yn 2025/2026:
5 diwrnod dros y Nadolig – 24ain, 29ain, 30ain, a 31ain o Rhagfyr, a yr 2il o Ionawr
Bydd y Brifysgol yn cau ddydd Mawrth 23ain o Rhagfyr 2025 a bydd yn ailagor ar ddydd Llun 5ed o Ionawr 2026
- Y dydd Iau cyn dydd Gwener y Groglith - 2il Ebrill 2026
- Y dydd Mawrth ar ôl dydd Llun y Pasg - 7fed Ebrill 2026
Sut i Weithio Allan yr Hawl i Wyliau:
Enghraifft 1: I’r staff sydd ar gontract llawn amser am flwyddyn wyliau gyfan y Brifysgol (1 Awst hyd at 31 Gorffennaf)
Lluoswch 27 diwrnod x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = 195.75 awr o wyliau blynyddol safonol
Lluoswch 15 diwrnod x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = 108.75 awr o wyliau Banc / Arferol
Cyfanswm y gwyliau am y flwyddyn yw 195.75 awr + 108.75 awr = *304.5 o wyliau i gyd
* yn 2023/24 mae 17 o wyliau Banc/Arferol oherwydd y 2 ddiwrnod ychwanegol a ddyfarnwyd gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol fis Rhagfyr 2023 ac felly cyfanswm yr hawl i wyliau eleni’n unig yw 319 awr)
Enghraifft 2: I’r staff sydd ar gontract rhan amser (h.y. llai na 36.25 awr yr wythnos) am flwyddyn wyliau gyfan y Brifysgol (1 Awst hyd at 31 Gorffennaf)
Lluoswch 27 diwrnod x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = 195.75 awr o wyliau blynyddol safonol
Lluoswch 15 diwrnod x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = 108.75 awr o wyliau Banc / Arferol
Cyfanswm y gwyliau am y flwyddyn yw 195.75 awr + 108.75 awr = *304.5 o wyliau i gyd
* yn 2023/24 mae 17 o wyliau Banc/Arferol oherwydd y 2 ddiwrnod ychwanegol a ddyfarnwyd gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ym mis Rhagfyr 2023 ac felly cyfanswm yr hawl i wyliau eleni’n unig yw 319 awr)
Rhannwch y 304.5 sef cyfanswm yr hawl i wyliau gan 36.25 awr (wythnos waith lawn amser) x oriau wythnosol y contract rhan-amser = cyfanswm yr hawl i wyliau
Enghraifft – os yw eich oriau contract yn 20 awr yr wythnos
Rhannwch y 304.5 sef cyfanswm yr hawl i wyliau gan 36.25 awr (wythnos waith lawn amser) x 20 awr wythnosol y contract = 168 awr yw cyfanswm yr hawl i wyliau
*Byddai 2023/24 yn 319 awr wedi'u rhannu â 36.25 x 20 = 176 awr)
Enghraifft 3: I’r staff sydd ar gontract llawn amser am ran o flwyddyn wyliau’r Brifysgol
Lluoswch 27 diwrnod x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = 195.75 awr o wyliau blynyddol safonol am flwyddyn lawn
Rhannwch 195.75 awr ar gyfer gwyliau blynyddol safonol am flwyddyn gyfan â 365 diwrnod (neu 366 diwrnod mewn blwyddyn naid) a lluoswch â nifer y diwrnodau calendr sydd yng nghyfnod eich contract
Nodwch faint o wyliau banc a gwyliau arferol sydd yng nghyfnod eich contract a lluoswch bob diwrnod cymwys x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = oriau ar gyfer gwyliau Banc / Arferol cymwys
Cyfanswm y gwyliau am y flwyddyn yw eich oriau cyfrifedig + oriau ar gyfer gwyliau Banc / Arferol cymwys = cyfanswm yr hawl i wyliau
Enghraifft – os yw eich contract rhwng 1 Awst a 31 Ionawr 2024
Rhannwch 195.75 awr ar gyfer gwyliau blynyddol safonol am flwyddyn gyfan â 366 (blwyddyn naid) = 0.53 awr y diwrnod
Lluoswch 0.53 awr y diwrnod â nifer y diwrnodau calendr yn ystod cyfnod y contract – 184 diwrnod = 97.52 awr ar gyfer gwyliau blynyddol safonol
Ar gyfer pob gŵyl banc ac arferol sydd yng nghyfnod y contract ychwanegwch 7.25 awr (cyfwerth â llawn amser dyddiol) e.e. 6 diwrnod arferol dros y Nadolig – 21*, 22, 27, 28, 29 Rhagfyr a 2 Ionawr 2024* a 4 Gŵyl y Banc – 28 Awst, 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr 2024
Mae * yn 2 ddiwrnod o wyliau arferol ychwanegol a ddyfernir gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol am y flwyddyn wyliau hon yn unig
Lluoswch 10 x 7.25 = 72.5 awr ar gyfer gwyliau Banc / Arferol yn unol â hyd eich contract
Cyfanswm y gwyliau am gyfnod y contract yw 97.52 awr + 72.5 awr = 170.02
Enghraifft 4: I’r staff sydd ar gontract rhan amser (h.y. llai na 36.25 awr yr wythnos) am ran o flwyddyn wyliau’r Brifysgol
Lluoswch 27 diwrnod x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = 195.75 awr o wyliau blynyddol safonol am flwyddyn lawn
Rhannwch yr hawl i wyliau a’r hawl i wyliau Banc/Arferol gan 36.25 awr (wythnos waith lawn amser) x oriau wythnosol y contract rhan-amser = cyfanswm yr hawl i wyliau
Nodwch faint o wyliau banc a gwyliau arferol sydd yng nghyfnod eich contract a lluoswch bob diwrnod sy'n gymwys x 7.25 (diwrnod llawn amser safonol) = oriau ar gyfer gwyliau Banc / Arferol cymwys
Rhannwch yr hawl i wyliau a’r hawl i wyliau Banc/Arferol gan 36.25 awr (wythnos waith lawn amser) x oriau wythnosol y contract rhan-amser = cyfanswm yr hawl i wyliau
Enghraifft – os yw eich contract rhwng 1 Awst a 31 Ionawr 2024 ac yn 20 awr yr wythnos
Rhannwch 195.75 awr ar gyfer gwyliau blynyddol safonol am flwyddyn gyfan â 366 (blwyddyn naid) = 0.53 awr y diwrnod
Lluoswch 0.53 awr y diwrnod â nifer y diwrnodau calendr yn ystod cyfnod y contract – 184 diwrnod = 97.52 awr ar gyfer gwyliau blynyddol safonol
Ar gyfer pob gŵyl banc ac arferol sydd yng nghyfnod y contract ychwanegwch 7.25 awr (cyfwerth â llawn amser dyddiol) e.e. 6 diwrnod arferol dros y Nadolig – 21*, 22, 27, 28, 29 Rhagfyr a 2 Ionawr 2024* a 4 Gŵyl y Banc – 28 Awst, 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr 2024
Mae * yn 2 ddiwrnod o wyliau arferol ychwanegol a ddyfernir gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol am y flwyddyn wyliau hon yn unig
Lluoswch 10 x 7.25 = 72.5 awr ar gyfer gwyliau Banc/Arferol sydd yng nghyfnod eich contract
Rhannwch gyfanswm yr hawl i wyliau a’r hawl i wyliau Banc/Arferol sef 170.02 awr gan 36.25 awr (wythnos waith lawn amser) x 20 awr wythnosol y contract = 93.80 yw cyfanswm yr hawl i wyliau
SYLWER: Bydd iTrent yn didynnu’n awtomatig o’ch hawl i wyliau unrhyw oriau a weithiwch am ddiwrnodau y mae diwrnodau’r Cwmni (Arferol) a Gwyliau Banc yn digwydd yn ystod cyfnod eich contract. Sicrhewch fod eich patrwm gwaith yn gywir bob amser er mwyn sicrhau y caiff yr oriau cywir eu didynnu
Oriau Gwaith
Gradd 7 ac isod:
Mae'r wythnos waith safonol ar gyfer staff llawn-amser yn 36.25 awr (heb gynnwys egwyl bwyd) fel rheol rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ond yr amseroedd gweithio gwirioneddol i'w cytuno â Phennaeth y Coleg/Ysgol/Adran
Gradd 7 ac uwch:
Oherwydd natur y gwaith, nid yw’r Brifysgol yn pennu unrhyw delerau ac amodau yn ymwneud ag oriau gwaith o fewn ystyr Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Gweithir yr oriau angenrheidiol i gyflawni’n foddhaol y dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r swydd; ac ar gyfartaledd bydd ymrwymiad wythnosol arferol yn golygu rhwng 36.25 a 48 awr yr wythnos
Gweithio rhan-amser o fewn Amodau a Thelerau staff Academaidd, Rheoli a Phroffesiynol:
Mae contractau cyflogaeth staff academaidd, rheoli a phroffesiynol yn nodi nad yw’r union oriau gwaith wedi eu pennu'n gyffredinol, ond byddant fel bo'r angen i gyflawni'n llwyddiannus y dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r swydd, ac yn unol â'r gyfarwyddeb amser gweithio. I aelodau staff llawn-amser, bydd y contract yn pennu oriau rhwng 36.25 a 48 yr wythnos
Lle mae staff wedi eu penodi i swyddi rhan-amser, bydd hyn ar sail canran o amser e.e. fel contract 80%. Mae hyn yn golygu y byddant yn gweithio 80% o 36.25 - 48 awr yr wythnos yn hytrach na 29 awr sefydlog yr wythnos. Enghraifft arall fyddai contract 0.5 CaLl, byddai hyn yn golygu bod yr aelod staff yn gweithio 50% o 36.25 - 48 awr yr wythnos, h.y. rhwng 18 a 22 awr yr wythnos yn hytrach na 18 awr sefydlog. Nid oes hawl gan staff i gronni oriau ychwanegol os ydynt yn gweithio mwy o oriau yn achlysurol; dim ond i staff cefnogi, h.y. aelodau o staff ar raddfeydd 1-6, y mae'r Polisi Amser Hyblyg ac unrhyw amser i ffwrdd yn lle amser a weithiwyd yn ychwanegol yn berthnasol