Rhyngwladol
Caethwasiaeth Fodern
Yn sgil cyflwyno Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae’r t卯m caffael wedi llunio Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl yn nodi cadwyni cyflenwi lle ceir perygl o gaethwasiaeth neu fasnachu pobl a nodi’r camau a gyflwynir i asesu a rheoli’r risg. Gyda’n gilydd rydym yn ceisio mabwysiadu cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae'r Cod wedi'i gynllunio i sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi'n foesegol ac yn unol 芒 chyfreithiau'r Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a chyfreithiau rhyngwladol. Mae'r Cod yn ymdrin 芒 nifer o faterion cyflogaeth, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a mynd yn groes i hawliau dynol.
Cynlluniau Mynediad Cyfartal ac Ysgoloriaethau
Mae'r Brifysgol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd wedi'u dosbarthu fel ffoaduriaid, sydd wedi'u dadleoli'n fewnol neu sydd wedi'u heffeithio fel arall gan wrthdaro: www.bangor.ac.uk/international/future/commonwealth a www.bangor.ac.uk/international/scholarship. Gellir dod o hyd i fanylion ysgoloriaeth ffoaduriaid yma. Gellir dod o hyd i gyfleoedd ariannu 么l-raddedig ar y ddolen hon. Mae nifer o ysgoloriaethau gyda llawer o them芒u cynaliadwyedd trawsbynciol fel arfer yn cael eu cynnig trwy Kess, beth am edrych i weld beth sydd ar gael yma.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i fod yn rhan o rwydwaith Cara, y Cyngor Academyddion Mewn Perygl, sy鈥檔 rhoi cymorth i academyddion sydd mewn perygl dybryd, y rhai sy鈥檔 cael eu gorfodi i alltudiaeth, a llawer sy鈥檔 dewis gweithio yn eu gwledydd cartref er gwaethaf risgiau difrifol: .
Nod y Brifysgol yw cefnogi grwpiau a dangynrychiolir trwy fuddsoddiad ei chynllun ffioedd a mynediad i wella cyfle cyfartal. Gweler mwy yn ein Cynllun Ffioedd a Mynediad.
Rydym yn falch o fod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o staff, darlithwyr, academyddion a myfyrwyr y brifysgol. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i greu diwylliant o groeso, diogelwch, undod a grymuso i bobl sy'n ceisio noddfa o fewn ein campws a thu hwnt. Mae hyn wedi arwain yn ddiweddar at gynorthwyo ffoaduriaid o'r Wcr谩in.