Strategaeth a Thargedau
Strategaeth Cynaladwyedd ac Adroddiadau Cynnydd
Cymeradwywyd ein Strategaeth Gynaliadwyedd diweddaraf gan y Cyngor ym mis Mai 2022 ac mae鈥檔 cyd-fynd yn agos 芒 Chynllun Strategol trosfwaol y Brifysgol - Strategaeth 2030: Byd Cynaliadwy i Genedlaethau鈥檙 Dyfodol.
Mae Adroddiadau Blynyddol Cynaliadwyedd ar gynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn cael eu cyhoeddi'n gyhoeddus. Mae adroddiadau cynnydd ar y DPA sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Gynaliadwyedd yn cael eu hadrodd yn flynyddol i'r Cyngor. Ym mis Chwefror 2023, hysbyswyd y Cyngor am y safleoedd gwell mewn tablau cynghrair 芒 ffocws cynaliadwy, cynnydd ar dargedau cynaliadwyedd a gydnabyddir yn genedlaethol, a'r cynnydd mewn ymgysylltiad ac amlygrwydd cynaliadwyedd gan yr ymgyrch staff a myfyrwyr 25 erbyn 25.
Ym mis Chwefror 2024, clywodd y Cyngor fod y Gr诺p Gweithredu Cynaliadwyedd wedi nodi tri Llwybr Gweithredu Allweddol ar gyfer gweithgarwch cynaliadwyedd a charbon 芒 ffocws, sef: Yr Amgylchedd Adeiledig, Teithio鈥檙 Brifysgol a鈥檙 Gadwyn Gyflenwi. Dywedwyd hefyd, fel rhan o鈥檌 Strategaeth Gynaliadwyedd, ac mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, fod gwaith yn parhau tuag at y targed o leihau allyriadau carbon yn sylweddol erbyn 2025 drwy鈥檙 ymgyrch 25 wrth 25. Yn ogystal, roedd neilltuo 30% o鈥檙 campws i helpu bywyd gwyllt, yn unol ag ymgyrch 30 wrth 30 yr Ymddiriedolaeth Natur, wedi dechrau.
Targedau Amgylcheddol ac Adroddiadau Cynnydd
Fel rhan o achrediad ISO14001:2015 cyflwynir Adroddiad Rheoli Blynyddol i'r Gr诺p Strategaeth Cynaliadwyedd. Roedd yr adroddiad diwethaf ar 10 Mai 2023 yn cynnwys adolygiad o ddogfennau megis y Polisi Amgylcheddol, digwyddiadau amgylcheddol, ac unrhyw newid mewn amgylchiadau.
Fel rhan o'n system rheoli amgylcheddol a'n hymrwymiadau Polisi Amgylcheddol, rydym yn dyfeisio nifer o dargedau i sicrhau gwelliant parhaus, ac mae pynciau'n amrywio o ynni, d诺r, a lleihau carbon, cynyddu ailgylchu gwastraff, gwella bioamrywiaeth, teithio a thrafnidiaeth wyrddach a thargedau adeiladu ac adnewyddu. Mae'r targedau a'r amcanion diweddaraf i'w gweld yma.
Rydym yn darparu adroddiadau amgylcheddol blynyddol i gyhoeddi'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni ar ein targedau, yn ogystal ag adroddiadau cynnydd Nod Datblygu Cynaliadwy. Mae pob un ar gael ar y dudalen hon.
Targed Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwyedd
Dyddiad | Targed | Statws |
Erbyn 31 o Orffennaf 2022 | Cynnal a chyhoeddi mapiau cwricwlwm UNSDG yn gyhoeddus ar gyfer un Coleg ar gyfer eu modiwlau cyfan | Cyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2023 | Cynnal a chyhoeddi mapio cwricwlwm UNSDG ar gyfer ail Goleg ar gyfer eu modiwlau cyfan | Cyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2024 | Cynnal a chyhoeddi mapio cwricwlwm UNSDG ar gyfer y trydydd Goleg ar gyfer eu modiwlau cyfan | Cyfredol |
Erbyn 31 o Orffennaf 2025 | Cynnal a chyhoeddi mapio cwricwlwm UNSDG ar gyfer y trydydd Goleg ar gyfer eu modiwlau cyfan |
Targedau Cyfranogiad Cynaliadwy Myfyrwyr a Staff
Mae targedau a dangosyddion perfformiad allweddol ar gael drwy Strategaeth 2030: Strategaeth Cynaliadwyedd.
Targed Cynnwys y Gymuned
Dyddiad | Targed | Statws |
Erbyn 31 o Orffennaf 2022 | Cyhoeddi strategaeth Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol | Ni Chyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2023 | Cyhoeddi strategaeth Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol | Cyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2024 | Cynnal Diwrnod Cymunedol Prifysgol rad ac am ddim, i arddangos adrannau academaidd a gwasanaethau'r Brifysgol, trwy deithiau, gweithdai ac arddangosiadau, ar ystod o them芒u, megis ein planed, iechyd ac economi | Cyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2024 | Cynnal G诺yl Wyddoniaeth gyhoeddus, ar thema Cynaliadwyedd, i addysgu鈥檙 gymuned a chyflwyno dysgwyr i amrywiaeth o bynciau | Cyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2025 |
Mae'r strategaeth Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol erbyn 31 Gorffennaf 2022. Bydd hyn yn cyd-fynd 芒'n Strategaeth Prifysgol ehangach 2030 a'n dulliau strategol eraill. Cenhadaeth Ddinesig yw鈥檙 ffordd y mae鈥檙 Brifysgol yn cyfrannu i ffyniant a lles addysgol, diwylliannol ac economaidd ein cymunedau. Mae鈥檙 strategaeth yn trafod sut yr ydym yn bwriadu:
- Dathlu a chodi statws gwaith cenhadaeth ddinesig y Brifysgol
- Datblygu ein dealltwriaeth o鈥檔 rhwydweithiau mewnol ac allanol
- Cefnogi staff a rhanddeiliaid i feithrin cydweithio cynaliadwy
Targed Caffael Cynaliadwy
Dyddiad | Targed | Statws |
Erbyn 31 o Orffennaf 2022 | Cynhyrchu Strategaeth Gaffael ddrafft | Cyflawnwyd |
Erbyn 31 o Orffennaf 2023 | Cyhoeddi Strategaeth Gaffael | Cyflawnwyd |
Mae Targedau Caffael Pellach wedi'u cynnwys yn ein dogfen targedau ac amcanion |
Cyllidebu ar gyfer Cynaliadwyedd
Mae'r Brifysgol yn cefnogi cynaliadwyedd trwy nifer o gyllidebau. Ewch i'r dudalen hon am fanylion pellach.