Rheoli Carbon
Cynlluniau Rheoli Carbon
Ar hyn o bryd mae gan y Brifysgol ddau gynllun rheoli carbon, sy'n manylu ar yr egwyddorion strategol ar gyfer cyflawni 么l troed carbon sero-net.
Cyfrifwyd ein cyfradd allyriadau llinell sylfaen Cwmpas 1 a 2 ar gyfer 2005 fel 13,850 tunnell o CO2e, ac yn flynyddol rydym yn gosod targedau i ni ein hunain i gyrraedd ein targed sero-net carbon Cwmpas 1 a 2 erbyn 2030, a dileu unrhyw wrthbwyso carbon Cwmpas 1 a 2 erbyn 2050. Drwodd yr ymgyrch staff a myfyrwyr 25 erbyn 25, mae'r Brifysgol yn anelu at dorri 25% o'i hallyriadau cyfwerth 芒 charbon deuocsid (CO2e) o fewn tair blynedd yn unig, o 2022. Manylir ymhellach ar Dargedau a Llinellau Sylfaen Carbon Cwmpas 3 yn ei Chynllun Rheoli.
Mae Adroddiadau Amgylcheddol Blynyddol, a gynhelir fel rhan o System Rheolaeth Amgylcheddol y Brifysgol yn cynnwys gwybodaeth am allyriadau carbon blynyddol ac yn dangos statws ein targedau.
Mae'r Brifysgol yn cefnogi ac yn ariannu prosiectau cynaliadwyedd a arweinir gan staff a myfyrwyr trwy nifer o gyllidebau.
Polisi Teithio Cynaliadwyedd
Yn ogystal 芒鈥檙 amodau cynaliadwyedd a nodir yn ein Polisi Teithio a Chynhaliaeth, rydym hefyd wedi cynhyrchu set o Ganllawiau i Staff i leihau allyriadau o deithiau busnes.
Allyriadau Carbon o Lety Preswyl
Mae鈥檙 Brifysgol yn gallu cyfrifo allyriadau carbon Cwmpas 1 a 2 ar gyfer pob preswylfa sy鈥檔 eiddo i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, gan gynnwys y rhai a reolir yn fewnol a鈥檔 holl lety a gontractir yn allanol.
Tabl 1: Data Allyriadau Carbon Preswyl Cwmpas 1 a 2 o gyflwyniadau HESA..
Blwyddyn | Swm (tunelli CO2e) | % o'r Cyfanswm |
23/24 | 1,612.08 | 26.11% |
22/23 | 1,437.57 | 22.46% |
21/22 | 1,356.99 | 20.55% |
20/21 | 1,795.56 | 26.77% |
19/20 | 1,838.21 | 26.69% |
18/19 | 2,014.47 | 26.54% |
Tabl 2: Data Allyriadau Carbon D诺r Cwmpas 3 o gyflwyniadau HESA.
Blwyddyn | Swm (tunelli CO2e) | % o'r Cyfanswm |
23/24 | 8.40 | 49.43% |
22/23 | 9.18 | 40.00% |
21/22 | 7.15 | 39.97% |
20/21 | 4.31 | 34.52% |
19/20 | N/A | N/A |
18/19 | 24.91 | 47.61% |