Rhestr e-bost
Cyrsiau a Digwyddiadau
Trydar Canolfan Bedwyr
Dolenni Sydyn
Amdanom ni
Mae Canolfan Bedwyr yn ganolfan arloesol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ sy’n darparu gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg ar gyfer y Gymraeg.
Oddi ar ei sefydlu yn 1996, mae’r ganolfan wedi datblygu’n ganolbwynt i ddyheadau’r Brifysgol o ran y Gymraeg.
Mae gwaith craidd y ganolfan yn ymwneud â chefnogi dau o nodau strategol y Brifysgol, sef::
- cryfhau darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol;
- datblygu defnydd o’r Gymraeg yn y Brifysgol a’r rhanbarth.
Yn hynny o beth mae Canolfan Bedwyr yn ymateb i anghenion mewnol ac allanol. Er bod ei gwasanaethau craidd fel datblygu polisi, gwaith cyfieithu a darparu cyrsiau Iaith yn ymateb i anghenion y Brifysgol ei hun, mae’r ganolfan yn rhoi pwys mawr hefyd ar rannu ei harbenigeddau unigryw. Mae ei gwaith yn datblygu meddalwedd, terminoleg a chyrsiau ac adnoddau wedi’u teilwra yn uchel iawn ei barch ymhlith sefydliadau eraill sy’n awyddus i ddatblygu eu defnydd eu hunain o’r Gymraeg.
Yn ddiweddar, cafodd gwaith y ganolfan yn hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg ei gydnabod mewn arolwg sefydliadol gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) a’i wobrwyo hefyd gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA).