Y Rhaglen ARFer
Beth ydy ARFer?
Methodoleg newid ymddygiad ydy’r rhaglen ARFer. Mae wedi’i hysbrydoli gan broject gan gwmni Soziolinguistika Klusterra yng Ngwlad y Basg. Bwriad ARFer yw newid arferion iaith i alluogi cydweithwyr sydd yn gallu siarad Cymraeg (ond sydd wedi sefydlu'r arfer o ddefnyddio Saesneg) i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. Gwneir hyn drwy gymhwyso dwy egwyddor sydd yn deillio o’r gwyddorau ymddygiad:
- Ymrwymo i ymddwyn mewn ffordd benodol;
- Manteisio ar y dylanwad sylweddol mae rhagosodiadau yn gallu ei gael ar ymddygiad pobl.
Tystiolaeth o effaith ARFer
Rydym ni wedi gweithredu ARFer mewn amrywiaeth o weithleoedd. Cyn rhoi’r rhaglen ARFer ar waith mewn gweithle, rydym yn sefydlu gwaelodlin defnydd iaith – hynny ydy, faint o Gymraeg sy'n cael ei defnyddio fel arfer yn y gweithle. Rydym ni wedyn yn casglu data ar ddefnydd iaith y staff pan fo ARFer ar waith. Mae hyn yn cynnig y cyfle inni gymharu ymddygiad iaith rhwng y cyfnodau er mwyn asesu effaith potensial y rhaglen ar y defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r graff isod yn rhoi cipolwg o ganlyniadau cychwynnol y project ac yn amlygu effaith y rhaglen ar ddefnydd iaith staff.
Pecyn Adnoddau ARFer
Mae Pecyn Adnoddau ARFer yn cynnig fframwaith sy'n helpu gweithwyr i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. Rydym ni yn y broses o recriwtio gweithleoedd i'n helpu ni ddatblygu'r adnoddau trwy gymryd rhan mewn cyfnod treialu.
Am ragor o wybodaeth:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r rhaglen ARFer, cysylltwch ag arfer@bangor.ac.uk
Dr Lowri Angharad Hughes, (Cyfarwyddwr y Rhaglen ARFer)
Arwel Tomos Williams, (Ymchwilydd y Rhaglen ARFer)
Aelodau eraill y tîm ymchwil
Yr Athro Carl Hughes, (Pennaeth yr Ysgol Addysg)
Dr Emily Roberts-Tyler, (Darlithydd yn yr Ysgol Addysg)
ARFer
Trosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion