Monitro Polisi a Safonau
- Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod materion yn ymwneud â’r Gymraeg yn cael eu trafod yn eang yn y Brifysgol ac ar lefel Pwyllgor Gweithredu a Chyngor y Brifysgol. Bydd yn gwneud hyn drwy sicrhau bod strwythur pwyllgorau cadarn mewn lle.
- Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod cofnodion manwl yn cael eu cadw o faterion ystadegol yn ymwneud â’r Gymraeg (e.e. nifer a chanran y gweithlu sy’n siarad Cymraeg, nifer y swyddi ‘Cymraeg yn Hanfodol’ a hysbysebwyd ayb).
- Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod cofnod o’r cwynion sydd yn ymwneud â’r Gymraeg yn cael ei gadw a bod unigolion yn gwybod sut y dylent ddwyn cwyn yn ymwneud â’r Gymraeg i sylw’r Brifysgol.
- Bydd cofnod o bob cwyn sy’n cael ei derbyn am ddiffyg cydymffurfiad â’r Safonau Iaith Gymraeg, neu am ddefnydd o’r Gymraeg yn gyffredinol yn y sefydliad, yn cael ei gadw.
- Bydd rhestr o’r cwynion sy’n cael eu derbyn yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Awdit a Risg Cyngor y Brifysgol.
- Os yw myfyriwr, aelod o staff neu unigolyn neu grŵp yn dymuno tynnu sylw’r Brifysgol at ddiffygion yn ei hymwneud â’r Gymraeg, fe ddylent gyfeirio’r gŵyn yn y lle cyntaf at y Pennaeth Polisi a Datblygu yng Nghanolfan Bedwyr drwy gwblhau ffurflen ar-lein neu dros y ffôn (01248) 383293.
- Bydd y Pennaeth Polisi a Datblygu yn asesu’r gŵyn. Os tybir ei bod yn arwydd o ddiffyg cydymffurfiad â Pholisi Iaith y Brifysgol a / neu Safonau’r Iaith Gymraeg, bydd y gŵyn yn cael ei hymchwilio gyda golwg ar ei datrys yn anffurfiol yn y lle cyntaf.
- Os yw’r mater yn un eang ei oblygiadau neu yn gŵyn ddifrifol ynghylch diffyg cydymffurfiaeth, bydd y mater yn cael ei ddwyn i sylw’r Dirprwy Is-Ganghellor Cyfrwng Cymraeg, ac yna i sylw PASG a / neu Bwyllgor Dwyieithrwydd y Cyngor.
- Bydd y Pennaeth Polisi a Datblygu yn adrodd yn ôl i’r sawl a achwynodd am ganfyddiadau unrhyw ymchwiliad.
- Os yw cwyn yn ymwneud ag ymddygiad aelod o staff, dylid cyfeirio’r mater at yr adran Adnoddau Dynol o dan drefn berthnasol.
Trosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion