Yr Athro
Bedwyr Lewis Jones
Penddelw Bedwyr
Pwy oedd Bedwyr?
Cafodd y Ganolfan ei henwi ar ôl Yr Athro Bedwyr Lewis Jones. Rhwng 1974-92, Bedwyr Lewis Jones oedd Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Roedd hefyd yn lladmerydd cryf dros yr iaith yn holl weithgareddau'r Brifysgol.
Rhoddai Bedwyr bwyslais mawr ar rannu ffrwyth ei ysgolheictod y tu hwnt i furiau'r Brifysgol, ac ef, yn fwy na neb, trwy raglenni fel Yn ei Elfen a llyfrau fel Iaith Sir Fôn, Blas ar Iaith Llyn ac Eifionydd ac Enwau ddaeth â phobl gyffredin i ymddiddori yn yr iaith Gymraeg. Roedd hefyd yn darlithio'n gyson i gymdeithasau llenyddol a chymdeithasau eraill ledled Cymru, gan wneud y Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i hiaith yn rhywbeth byw, diddorol a byrlymus.
Ymestyn y Gymraeg a’i defnydd yn y Brifysgol ei hun ac ymhlith pobl gyffredin a phobl broffesiynol yw nodau canolog Canolfan Bedwyr heddiw hefyd. Yn yr ystyr yma, rydym yn olyniaeth Bedwyr ei hun.
Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol yn 1996 gan ei weddw Mrs Eleri Wynne Jones, ac yn 2010, cafodd ei gwahodd drachefn i ddadorchuddio'r penddelw o Bedwyr a gerfluniwyd gan John Meirion Morris.
Mae'r penddelw i'w weld y tu allan i Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol.