Darlithoedd Cyhoeddus a Chynadleddau Cyhoeddus
- Dylai cyhoeddusrwydd fod yn Gymraeg a Saesneg (e.e. lleoliad, amser a dyddiad).
- Dylai teitl darlith fod yn yr iaith y caiff ei thraddodi ynddi. Dylai'r teitl fod yn ddwyieithog os darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
- Dylid nodi'n glir yn y cyhoeddusrwydd i'r ddarlith neu'r gynhadledd p'un a fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ai peidio.
- Wrth drefnu darlith neu gynhadledd, dylai nodau ac amcanion y digwyddiad gael eu hystyried yn ofalus yn y cyd-destun ieithyddol. Er mwyn medru ymateb i ymholiadau, argymhellir y dylid cadw cofnod o'r nodau ac amcanion hyn, fel enghraifft o ymarfer da. Wrth asesu anghenion, dylid rhoi ystyriaeth hefyd i'r canlynol: a) cywair y sesiynau ffurfiol, b) cywair y grwpiau trafod, c) cywair y seibiannau anffurfiol, d) gofynion ieithyddol o ran cadeirio sesiynau, e) pwnc y ddarlith, f) cynulleidfa debygol y ddarlith. Gall gwahanol fodelau ieithyddol gyflawni gwahanol ofynion, a dylid dewis y model sydd fwyaf tebygol o gyflawni'r nod a ddymunir. Cynigir y canllawiau a ganlyn fel modelau posib.
Darlithoedd Cyhoeddus
i. Darlithoedd adrannol
Cynhelir darlithoedd cyhoeddus gyda siaradwyr gwadd, dan nawdd adrannau academaidd unigol. Yn achos y darlithoedd hyn, dilynir Model D1 fel rheol oni bai bod trefnwyr y ddarlith yn mynd am D2 ar sail asesiad o anghenion.
ii. Darlithoedd prifysgol
Trefnir cyfres flynyddol o ddarlithoedd cyhoeddus, gyda siaradwyr gwadd amlwg. Dilynir Model 1D yn achos y darlithoedd hyn.
Iaith Traddodi | Gofynion Cyfieithu | |
Model D1 | Darlith a draddodir yn Gymraeg neu Saesneg gyda chyflwyniad y Cadeirydd yn iaith y ddarlith neu'n ddwyieithog. | Ni ddarperir cyfieithu ar y pryd. |
Model D2 | Darlith a draddodir yn Gymraeg neu Saesneg gyda chyflwyniad y Cadeirydd yn iaith y ddarlith neu'n ddwyieithog. | Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd pan fo'r ddarlith yn Gymraeg. |
Cynadleddau Cyhoeddus
Iaith Traddodi | Gofynion Cyfieithu | |
Model C1 | Darlithoedd yn Gymraeg yn gyfan gwbl neu yn Saesneg yn gyfan gwbl. Grwpiau trafod yn Saesneg yn unig neu yn Gymraeg yn unig yn ôl yr iaith draddodi. | Ni ddarperir cyfieithu ar y pryd. |
Model C2 | Darlithoedd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhai grwpiau trafod yn Saesneg a rhai yn Gymraeg. | Gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r darlithoedd Cymraeg ac/neu sesiynau llawn eraill |
Model C3 | Darlithoedd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Grwpiau trafod yn Saesneg yn unig. | Gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r darlithoedd Cymraeg ac/neu sesiynau llawn eraill. |
Model C4 | Darlithoedd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhai grwpiau trafod yn Saesneg a rhai yn Gymraeg. |
Gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r darlithoedd Cymraeg ac/neu sesiynau llawn eraill. Cyfieithu ar y pryd i un neu ragor o'r grwpiau Cymraeg. (Dylid nodi'r anawsterau technegol posib a all godi wrth ofyn am gyfieithu ar y pryd mewn mwy nag un lleoliad, o ran yr angen i gael mwy nag un set o offer a staff, a phroblemau posib gydag ymyriant electronig.) |
Trosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion