#bedwyr20: Canolfan Bedwyr yn dathlu 20
Yn y cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau i gofnodi ei phen-blwydd yn 20, bydd Canolfan Bedwyr yn agor ei drysau ar gyfer prynhawn agored ddydd Mawrth nesaf 13 Medi.
Cafodd y ganolfan ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, sy鈥檔 arbenigo mewn darparu gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg ar gyfer y Gymraeg, ei sefydlu ym mis Awst 1996 a鈥檌 henwi ar 么l yr Athro Bedwyr Lewis Jones.
Fel Athro鈥檙 Gymraeg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, roedd Bedwyr yn adnabyddus fel llais cryf dros y Gymraeg yn y Brifysgol ac fel ysgolhaig a oedd yn credu mewn rhannu ei ddysg gyda鈥檙 gymdeithas yn ehangach. Yn yr un modd, mae Canolfan Bedwyr wedi ennill bri cenedlaethol a rhyngwladol am ei gwaith dros y blynyddoedd yn datblygu, hyrwyddo a hwyluso defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y Brifysgol ei hun a thu hwnt.
Yn ystod y prynhawn agored bydd cyfle i gyfarfod 芒 staff y ganolfan ac i weld a thrafod y datblygiadau diweddaraf yn ei gwaith. Mae鈥檙 datblygiadau hyn yn cynnwys cyrsiau a chyfleoedd hyfforddi newydd yn ogystal 芒 datblygiadau mewn technoleg lleferydd a chyfieithu.
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: 鈥淥鈥檌 dyddiau cynharaf mae鈥檙 ganolfan wedi rhoi pwyslais ar rannu ei harbenigeddau a cheisio ymateb i anghenion y byd y tu hwnt i鈥檙 Brifysgol. Mae鈥檔 addas felly mai ein digwyddiad cyntaf ar ddechrau blwyddyn o ddathliadau yw prynhawn agored i rannu gwybodaeth a syniadau.鈥
Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 gyda chyfrifoldeb penodol am y Gymraeg: 鈥淢ae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn ymfalch茂o yn ei statws fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran y Gymraeg ac yn y ffaith fod hyrwyddo鈥檙 Gymraeg yn un o鈥檌 phedair nod strategol. Mewn sawl ffordd, Canolfan Bedwyr ydy鈥檙 pwerdy sy鈥檔 tanio鈥檙 dyhead hwnnw, a hynny mewn sefydliad lle mae 70% o鈥檙 gweithlu yn siarad neu ddysgu Cymraeg erbyn hyn.鈥
Cynhelir y Prynhawn Agored yng Nghanolfan Bedwyr, sef Neuadd Dyfrdwy Ffordd y Coleg rhwng 1-4 brynhawn Mawrth 13 Medi.
Cewch ragor o wybodaeth am yr ugain mlynedd cyntaf yn hanes y ganolfan ar wefan arbennig:
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2016