Cynhadledd i roi'r Gymraeg ar waith
Bydd Prif Weinidog Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu llwyfan mewn cynhadledd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yr wythnos hon a fydd yn edrych ar ddulliau o annog defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y gweithle.
Ddydd Gwener 13 Tachwedd, disgwylir dros 100 o gynrychiolwyr o wahanol sefydliadau a chwmn茂au i gynhadledd 鈥楻hoi鈥檙 Iaith yn y Gwaith鈥 a fydd yn rhoi sylw i rai o鈥檙 arferion gorau ledled Cymru o ran hwyluso defnydd o鈥檙 Gymraeg.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Portmeirion a鈥檙 brifysgol ei hun yn s么n am rai o鈥檙 cynlluniau sy鈥檔 cael eu defnyddio i roi cyfle i weithwyr ddefnyddio鈥檙 Gymraeg wrth eu gwaith, a hynny鈥檔 aml mewn cyd-destun lle mae traddodiadau gwaith a diffyg hyder yn milwrio yn erbyn hynny.
Gobaith y trefnwyr, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yw bydd ffocws y gynhadledd ar atebion ymarferol ac arloesol yn sbarduno ac ysbrydoli datblygiadau pellach yn y maes allweddol yma.
Bydd y gynhadledd yn cael ei hagor gan Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, sydd ei hun yn enghraifft o bwysigrwydd hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle. Meddai鈥檙 Athro Hughes: 鈥淔el prifysgol sydd wedi鈥檌 lleoli yng nghalon y Gymru Gymraeg, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon i鈥檔 myfyrwyr a鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol, ond rydym hefyd yn credu鈥檔 cryf mewn rhoi pob cyfle i鈥檔 staff ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae hynny鈥檔 creu dwyieithrwydd gweithredol a pherchnogaeth gan staff ar ethos dwyieithog y sefydliad.鈥
Wrth edrych ymlaen at draddodi ei sgwrs yntau, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 鈥淢ae鈥檙 gynhadledd yma yn gyfle gwych i roi ffocws ar bolis茂au defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y gweithle ac i rannu arfer da a phrofiadau ymarferol yn y maes. Rydym yn gwybod taw鈥檙 ffordd i gaffael Iaith yw trwy ymarfer a chael cyfleoedd i鈥檞 hymarfer. Pa le gwell i wneud hynny, na phob dydd tra eich bod wrth eich gwaith? Mae鈥檙 gynhadledd hon yn amserol iawn a dwi鈥檔 edrych ymlaen at y cyfle i gydweithio ar draws sawl sector er mwyn symud yr agenda bwysig hon yn ei blaen.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015